Eger Hafren
Gwedd
Ton lanw a welir ar ddyfroedd isaf Afon Hafren yn ne-orllewin Lloegr yw Eger Hafren. Mae'r eger yn cael ei ffurfio pan fydd y llanw'n codi ym Môr Hafren ac mae'r dŵr ymchwydd yn cael ei orfodi i mewn i sianel culhau Afon Hafren. Mae'r dyfroedd yn cael eu gwthio i fyny'r afon fel cyfres o donnau, cyn belled â Chaerloyw a thu hwnt.
Mae'r egrau'n digwydd ddwywaith y dydd ar tua 130 diwrnod o'r flwyddyn. Mae'r rhai mwyaf i'w cael tuag amseroedd y cyhydnosau ond gellir gweld rhai llai trwy gydol y flwyddyn. Mae tonnau hyd at ddau fetr o uchder yn cael eu hyrddio i fyny’r afon ar hyd at 16 cilomedr yr awr. Mae'r digwyddiadau mwyaf yn denu llawer o wylwyr a syrffwyr sy'n reidio'r tonnau.
-
Eger Hafren ger Minsterworth, 10 Chwefror 2009
-
Syrffwyr yn reidio Eger Hafren wrth iddi basio Newnham yn 2006
-
Dŵr garw y tu ôl i'r don
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwybodaeth ar gyfer gwylwyr a syrffwyr Archifwyd 2019-12-07 yn y Peiriant Wayback