Effaith rhagosodiadau (seicoleg)

Oddi ar Wicipedia

Ymysg set o opsiynau sydd gan weithredwr i ddewis, yr opsiwn rhagosodedig yw'r opsiwn gaiff y gweithredwr os yw'n dewis gwneud dim. Mae astudiaethau yn dangos bod gwneud opsiwn yn ragosodedig yn cynyddu'r tebygrwydd i'r opsiwn hwnnw gael ei ddewis. Mae gosod neu newid rhagosodiad felly yn ffordd effeithiol o ddylanwadu ar ymddygiad - er enghraifft, wrth benderfynu rhoi organau, rhoi caniatad i dderbyn e-byst, neu ddewis iaith ar ryngwynebau.

Eglurhad[golygu | golygu cod]

Mae sawl eglurhad gwahanol wedi ei roi ar sut mae newid gosodiad rhagosodiad yn gallu cael newid mawr yn newis unigolyn. Cynhwysir cost ymdrech a chost amser.

Cost ymdrech[golygu | golygu cod]

Ceir cost ymdrech os yw'r gweithredwr rhwng dau feddwl, ac felly'n defnyddio llawer o ymdrech gwybyddol i wneud ei ddewis. Gall hynny arwain y gweithredwr i beidio a gwneud dim o gwbwl: "os oes rhagosodiad, paid a gwneud dim amdano"[1]

Cost amser[golygu | golygu cod]

Mae switshio rhwng un opsiwn i'r llall yn golygu cost arall, sef amser. Dengys economeg ymddygiadol sut mae pobl yn hoff o bethau sydd yn hawdd ac yn gyflym.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gigerenzer, G. (2008). "Why Heuristics Work". Perspectives on Psychological Science 3: 20–281. doi:10.1111/j.1745-6916.2008.00058.x.