E-lyfr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o E-lyfrau)
Amazon Kindle 3, darllenydd e-lyfrau yn arddangos rhan o e-lyfr ar ei sgrin.

Cyhoeddiad o lyfr ar ffurf electronig, sy'n cynnwys testun, delweddau neu'r ddau, yw e-lyfr (weithiau Elyfr). Cânt eu cynhyrchu, eu cyhoeddi a'u darllen ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill.[1] Gan amlaf maent yn cyfateb i lyfrau printiedig ond mae ambell lyfr yn unigryw i ffurf yr e-lyfr. Diffinia'r Oxford Dictionary of English yr e-lyfr fel "fersiwn electronig o lyfr printiedig,"[2] ond mae e-lyfrau yn gallu, ac yn bodoli, heb fersiynau printiedig. Gan amlaf, darllenir e-lyfrau ar ddarllenydd e-lyfrau. Gellir defnyddio cyfrifiaduron personol a ffônau symudol i'w darllen hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gardiner, Eileen and Ronald G. Musto. “The Electronic Book.” In Suarez, Michael Felix, a H. R. Woudhuysen. The Oxford Companion to the Book. Oxford: Oxford University Press, 2010, td. 164.
  2. "e-book Archifwyd 2011-02-08 yn y Peiriant Wayback.". Oxford Dictionaries. Ebrill 2010. Oxford Dictionaries. Ebrill 2010. Gwasg Prifysgol Rhydychen (adalwyd 2 Medi, 2010).
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato