Donn Cuailnge

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Donn Cuailgne)

Ym mytholeg Iwerddon, tarw arbennig yw Donn Cúailnge, yn perthyn i Dáire mac Fiachna o Wlster. Ystyr ei enw yw "[Tarw] Brown Cúailnge (Cooley)". Gyda'r tarw Finnbhennach, sy'n perthyn i Ailill mac Mágach, brenin Connacht, mae'n ffigwr canolog yn y chwedl Wyddeleg enwog Táin Bó Cuailgne.

Ceir hanes geni Donn Cuailgne yn y chwedl De chophur in da muccida, hanes dau feichiad (bugail moch) brenhinoedd Tylwyth Teg taleithiau Connacht a Munster. Mewn ymryson i brofi eu doniau dewinol, â'r ddau feichiad drwy gyfres o rithiadau, gan eu newid eu hunain yn rhith adar, pysgod, ceirw, rhyfelwyr, ysbrydion, dreigiau ac yna yn nadroedd dŵr. Caent eu llyncu yn rhith y nadroedd hynny gan ddwy fuwch sy'n ymfeichiogi ac yn rhoi genedigaeth i ddau lo sy'n tyfu i fod yn Donn Cuailgne a Finnbhennach.

Un diwrnod mae Medb, brenhines Connacht, a'i gŵr Ailill yn cymharu eu cyfoeth. Maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw Finnbhennach. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn ceisio cael gafael ar Donn Cuailnge. Mae'n gyrru negeseuwyr at Dáire mac Fiachna yn cynnig arian, tiroedd a ffafrau rhywiol os caiff fenthyg y Donn am flwyddyn. Fodd bynnag, mae'r negeseuwyr yn meddwi, ac mae un ohonynt yn dweud y byddant yn cipio'r Donn trwy drais os na allant ei gael trwy deg. Gwrthodir cynigion Medb, ac mae hi'n codi byddin i ddwyn Donn Cuailgne. Rhybuddir Donn am hyn gan y Mórrígan, ar ffurf brân, ac mae ef a'i fuches yn ffoi i Slieve Gullion. Yn y diwedd mae Medb yn cael hyd iddo, ac er iddo ladd llawer o'i milwyr yn ei gipio.

Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed Cúchulainn. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall. Pan ddaw Fergus, ei dad-maeth yn ei erbyn, mae Cúchulainn yn cytuno i ildio iddo ar yr amod fod Fergus yn ildio iddo ef yn tro nesaf. Yna mae'n ymladd brwydr hir yn erbyn ei frawd maeth Ferdiad.

Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, ac ymleddir y frwydr olaf. Mae Fergus yn cadw ei amod â Cúchulainn ac yn tynnu ei ryfelwyr o'r maes, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, lle mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol. Wedi crwydro o amgylch Iwerddon yn ysbrydoli enwau lleoedd, mae'n dychwelyd i Cúailnge i farw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Thomas Kinsella (cyf.), The Tain (Gwasg y Dolmen, 1969; argraffiad newydd, Prifysgol Pennsylvania, 1985). Gyda lluniau inc gan yr artist Gwyddelig Louis le Brocquy.
  • Cecil O'Rahilly (cyf.), Táin Bó Cúalnge from the Book of Leinster (Dulyn, 1967)