Dolen lawes

Oddi ar Wicipedia
Dolen lawes
Mathgem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llawes ddwbl ("Ffrengig") gyda dolen i'w dal yn ei lle

Mae dolennau llewys yn dlysau sy'n cael eu defnyddio i gau'r llewys ar grysau ffurfiol. Gall dolennau llewys gael ei gwneud o nifer o wahanol ddeunyddiau, gan gynnwys gwydr, carreg, lledr, metel, metel prin neu gyfuniad o'r rhain. Mae'r dolennau fel arfer yn cael eu cau trwy begiau troi  yn seiliedig ar y dyluniad ar y blaen. Mae rhai mathau i'w cael sy'n defnyddio cadwyn neu ddarn cefn nad yw'n symud. Gellir addurno rhan flaen y dolennau gyda cherrig gwerthfawr, darluniau mewn enamel, neu gael eu dylunio mewn ffurf dau neu dri dimensiwn.

Mae dolennau llewys wedi eu dylunio i gael eu defnyddio ar grysau sydd a thyllau botwm ar ddwy ochr y llawes, ond sydd heb fotymau. Gall rhain fod yn llewys sengl neu ddwbl sydd wedi eu plygu am yn ôl ("Ffrengig"), a chael eu gwisgo naillai yn "cusanu". gyda'r ddau ymyl yn wynebu allan, neu mewn "steil-casgen", gydag un ymyl yn wynebu am allan a'r llall am i mewn fel bod y naill dros y llall. Yn yr Unol Daleithiau, daeth y "steil-casgen" yn boblogaidd trwy ddylanwad clown a diddanwr yn y 19eg ganrif o'r enw Dan Rice. Llewys sy'n "cusanu" sydd fel arfer yn cael eu ffafrio.