Dafydd Jones (Dewi Dywyll)
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Dewi Medi)
| Dafydd Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 1803 Llanybydder |
| Bu farw | 1868 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cerddor, bardd, cyfansoddwr caneuon |
Baledwr dall o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin, oedd Dafydd Jones (Dewi Dywyll, hefyd Deio'r Cantwr a Dewi Medi) (1803 - 1868).
Daeth yn enwog am ei ganu ffraeth ledled Cymru mewn oes pan oedd canwyr baledi crwydr yn dal i fod yn gymeriadau poblogaidd. Roedd yn awdur o gwmpas 60 o faledi.