Dermatillomania

Oddi ar Wicipedia
Dermatillomania
MathAnhwylder rheoli ergyd, excoriation, body-focused repetitive behavior disorders Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae dermatillomania yn gyflwr sy’n cymell person i bigo a chrafu ei groen nes iddo greu briwiau gweladwy. Mae’n anhwylder rheoli cymhelliad (impulse-control disorder); cyflwr seicolegol lle nad yw person yn gallu atal ei hun rhag cyflawni’r weithred.

Bydd person â dermatillomania yn pigo, crafu neu wasgu croen sydd fel arall yn iach. Bydd yn gwneud hyn yn aml ac i’r eithaf. Fel arfer, mae pobl sy’n dioddef â’r cyflwr yn pigo’r croen ar eu wynebau a’u gwefusau, ond fe all fod yn unrhyw ran o’r corff, megis y dwylo, croen y pen a’r breichiau. Caiff y cyflwr hwn ei ystyried yn ffurf ar Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Gall dermatillomania hefyd achosi teimladau negyddol megis euogrwydd, cywilydd ac embaras. Yn aml bydd pobl sy’n dioddef yn ceisio gwadu’r broblem neu’n ceisio cuddio’r croen â cholur.

Achosion[golygu | golygu cod]

Nid ydym yn sicr beth yn union sy’n achosi dermatillomania ond mae sawl theori. Mae rhai arbenigwyr o’r farn bod y cyflwr yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf y mae’r person yn pigo ei groen, y mwyaf y mae’r awydd i barhau yn cynyddu. Gall dermatillomania fod yn adlewyrchiad o broblem iechyd meddwl. Yn ôl theoriau seicolegol ac ymddygiadol, gall pigo’r croen fod yn ffordd o liniaru straen neu gorbryder. Mewn rhai achosion, gall dermatillomania hefyd fod yn ffurf ar hunan-niweidio, pan fydd person yn brifo ei hun yn fwriadol er mwyn teimlo rhyddhad dros dro rhag eu gofid emosiynol.

Cyflwr tebyg arall yw trichotillomania – pan fydd person yn teimlo’r angen i dynnu ei wallt o’r gwraidd. Nid yw’n anghyffredin i berson ddioddef ag OCD ac i bigo ei groen yn ogystal â thynnu ei wallt yn orfodol.

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Fel arfer bydd meddyg teulu yn eich cyfeirio at seicolegydd neu seiciatrydd ar gyfer ryw fath o therapi siarad. Os oes niwed difrifol i’r croen, efallai y bydd angen gweld ddermatolegydd (arbenigwr ar y croen) yn gyntaf.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Dermatillomania ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall