Defnyddiwr:Twm Elias/eraill

Oddi ar Wicipedia

Nodyn: gellir defnyddio'r erthygl hon i greu erthygl newydd ar Wicipedia: 'Rhestr o blanhigion sy'n defnyddio'r enw 'Mair' a gellir rhoi dolen iddi o bob tudalen ar y planhigion unigol.

Enwau Planhigion - yn cynnwys yr elfen 'Mair'[golygu | golygu cod]

allan o: Llên y Llysiau

Rydym yn gyfarwydd â'r ffaith bod nifer dda o blanhigion yn cynnwys yr elfen 'Mair' yn eu henwau Cymraeg ac y gallem fod yn weddol sicr mai at Mair, mam yr Iesu, y cyfeirir ati. Serch hynny, efallai bod rhyw Fair arall wedi rhoi ei henw i ambell blanhigyn – er nad oes gennyf dystiolaeth o hynny chwaith. Fe fuaswn yn falch o'ch barn chi ar hynny.

Ond tybed pam fod enw'r Fair Feiblaidd mor amlwg ym myd y blodau? Does dim prawf fod ganddi unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r planhigion hyn – hydynoed y rhai sy'n tarddu o ardal y dwyrain canol ac a welir mewn Gerddi Beiblaidd, e.e. ger Cadeirlan Bangor. Mae'n fwy tebyg gen i mai am eu harddwch diymhongar neu am eu rhinweddau meddyginiaethol y'u cysyllwyd â Mair.

Rhaid cofio hefyd y byddai'n gwneud synwyr i gysylltu enwau planhigion meddygol â Mair, y Seintiau neu gymeriadau Beiblaidd a chrefyddol eraill, yn enwedig pan ymgeisiai'r Eglwys i danseilio grym y gwyr hysbys neu'r gwrachod gwynion ddefnyddiai swynion go ‘amheus' i gryfhau effeithiau eu meddyginiaethau. Yn sicr fe fyddai gan y Mynachlogydd erddi i feithrin planhigion meddygol ar gyfer iachau cyrff yn ogystal ag eneidiau'r bobl a hawdd fyddai priodoli'r bendithion ddeuai o'r planhigion i'w cysylltiadau (mewn enw o leiaf) crefyddol.

Dyma restr o blanhigion a gysylltir â Mair. Er hwylustod tanlinellwyd yr enwau safonol, yn unol â'r hyn geir yn Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion, Cyfrol 2 - Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn, Cymdeithas Edward Llwyd (2003).

Afal Mair [1] - Mary apple (math o afal a dyfir mewn perllan)

Archangel Fair - marddanhadlen wen - white deadnettle (Lamium album)

Blodau pumbys Mair [Ceredigion] [2] - pumnalen ymlusgol - creeping cinquefoil (Potentilla reptans)

gw. hefyd Pumbys Mair

Blodau Santes Fair = Llysiau Santes Fair - helyglys hardd - rosebay willow-herb (Chamaenerion angustifolium)

Blodyn wyneb Mair - trilliw – wild pansy (Viola tricolor)

Briallen-Fair sawrus = Briallen Fair = Dagrau Mair - cowslip (Primula veris)

Briallen-Fair ddi-sawr - oxlip (Primula elatior)

Briallen-Fair Japan [3] - Japanese cowslip (Primula japonica)

Briallen-Fair Tibet [3] - Tibetan cowslip (Primula florindae)

Briallen-Fair Sikkim [3] - Sikkim cowslip (Primula sikkimensis)

Cannwyll Fair = Gwialen Mair - eurwialen - goldenrod (Solidago virgaurea)

Canhwyllau Mair [Môn] [2] - saffrwm (rh. Crocus)

Celynnen Fair - butcher's broom (Ruscus aculeatus)

Celynnen-Fair ddi-ddrain [3] = Celynnen-Fair ddi-niwed - spineless butcher's broom (Ruscus hypoglossum)

Clais Mair = Claes Mair - clari gwyllt - wild clary (Salvia verbenaca)

Clustog Fair - thrift (Armeria maritima)

Creulif Mair - gw. Ysgawen Fair

Crib Mair - nodwydd y bugail - shepherd's needle (Scandix pectin-veneris)

Cribau Mair - gw. Ysgallen Fair

Chwys Mair - blodyn ymenyn bondew - bulbous buttercup (Ranunculus bulbosus)

Dagrau Mair - dagrau'r Iesu, coeden ddrops (rh. Fuchsia)

gw. Briallen Fair sawrus
gw. Llysiau Bron Mair

Eirinen Fair - gooseberry (Rives uva-crispa)

Erfinen Fair [Ceredig., Penf.] [2] = Meipen Fair = Sêl Mair [4] - cwlwm y coed - black bryony (Tamus communis)

Esgid Fair - Ladies slipper (Cyripedium calceolus)

cwcwll y mynach - monkshood (Aconitum napellus)

Gold Mair - melyn yr ŷd - corn marigold (Chrysanthemum segetum)

Llysiau Mair - gold y gors - marsh marigold (Caltha palustris)
gw. Melyn Mair

Gwialen Mair [Arfon] [2] - crib y ceiliog

Montbretia (Crocosmia x crocosmiiflora)
eurwialen - goldenrod (rh. Solidago)

Gwlyddyn Mair - pimpernel (rh. Anagallis) Gwlyddyn-Mair y gors - bog pimpernel (Anagallis tenella) Gwlyddyn melyn Mair - yellow pimpernel (Lysimachia nemorum) Gwlydd Mair gwryw - llysiau'r cryman - scarlet pimpernel (Anagallis arvensis) Gwlydd Mair benyw - blue pimpernel (Anagallis arvensis subsp. caerulea) Gwlyddyn-Mair bach [3] - chaffweed (Anagallis minima)

Gwniadur Mair = Menyg Mair - bysedd y cŵn (Digitalis purpurea)

Helygen Fair - bog myrtle (Myrica gale)

Joseff, Mair a Martha [1] = Mair a Martha [2] - gw. Llysiau bronnau Mair

Llaeth bronnau Mair - gw. Llysiau bronnau Mair, Dagrau Mair

Llwyn mwyar Mair [3] - dewberry (Rubus caesius)

Llysiau Mair - glesyn y coed - common bugle (Ajuga reptans)

gw. Gold Mair

Llys Mair Fadlen - gw. Mintys Mair, Tansi Mair

Llysiau bronnau Mair = Llaeth bronnau Mair = Dagrau Mair = Joseff, Mair a Martha [1]

= Mair a Martha [2] - llysiau'r ysgyfaint - lungwort (Pulmonaria officinalis)

Llysiau Santes Fair - gw. Blodau Santes Fair Mair a Martha [2] - gw. Llysiau bronnau Mair

Mantell Fair - lady's mantle (Alchemilla vulgaris) [ceir nifer o is-rywogaethau, gw. 2] Mantell-Fair y mynydd - alpine lady's mantle (Alchemilla alpina)

Mantell-Fair ariannaidd [3] - silver lady's mantle (Alchemilla conjuncta)

Mantell Mair [Meir.] [2] - blodyn llefrith - cuckoo flower (Cardamine pratensis)

Meddyg Mair - meddyg y bugail - pluoughman's spikenard (Inula conyzae)

Meipen Fair [Môn, Arfon, Mald.] [2] - bloneg y ddaear - white bryony (Bryonia dioeca)

- Erfinen Fair [2], Sêl Mair [4] - cwlwm y coed -
  black bryony (Tamus communis)  

Melyn Mair - pot marigold (Calendula officinalis) Melyn Mair yr ŷd [3] = Melyn Mair yr âr - field marigold (Calendula arvensis)

Menyg Mair = Gwniadur Mair - bysedd y cŵn - foxglove (Digitalis purpurea)

Mintys Mair - mintys ysbigog - spearmint (Mentha spicata)

- gw. Tansi Mair, Llys Mair Fadlen

Mwyaren Fair - gw. Llwyn mwyar Mair

Miaren Fair = drysïen bêr fân-flodeuog - small-flowered sweet-briar (Rosa micrantha)

Pumbys Mair [Meir.] [2] = y gronnell - globeflower (Trollius europaeus)

- gw. hefyd Blodau pumbys Mair

Rhedynen Fair - lady fern (Athyrium filix-femina)

- rhedynen gyfrdwy - royal fern (Osmunda regalis)
- [Ceredig.] [2] creithig bêr - sweet cisely (Myrrhis odorata)

Rhedynen-Fair Alpaidd - Alpine lady-fern (Athyrium distentifolium)

Rhedynen-Fair Newman [3] - Newman's lady-fern (Athyrium flexile)

Rhos Mair - gw. Rhosmari

Rhosmari - rosemary (Rosmarinus officinalis)

Rhosmari gwyllt = Rhosmair gwyllt = Rhosus Mair - andromeda'r gors - bog rosemary (Andromeda polifolia)

Rhosmari'r Morfa = lafant y môr - sea lavender (Limonium vulgare)

Rhosus Mair - gw. Rhosmari gwyllt

Sêl Mair [4] – gw. Erfinen Mair, Meipen Fair

Tafolen Mair - clustered dock (Rumex conglomeratus)

Tansi Mair = Mintys Fair = Llys Mair Fadlen - costmary (Tanacetum balsamita)

Tapr Mair = pannog felen - great mullein (Verbascum thapsus)

Ysgaw Mair [Arfon] [2] - llysiau'r gymalwst - ground elder (Aegopodium podagraria)

Ysgawen Fair = Creulif Mair - dwarf elder (Sambucus ebulis)

Ysgallen Fair = Cribau Mair - milk thistle (Silybum marinus)

Ysgol Fair [Dyfed] [2] = Ystol Fair [Arfon] [2] - y ganrhi goch - common centaury (Centaurium erythraea) - eurinllys trydwll - perforated St John's wort (Hypericum perforatum)

Ysnoden Fair - galingale (Cyperus longus)

Ysnoden Fair welw - pale galingale (Cyperus eragrostis)

Ysnoden Fair lwytgoch - brown galingale (Cyperus fuscus)


Gwna hyn gyfanswm o 81 o enwau planhigion hefo'r elfen 'Mair' ynddynt - ar 66 o rywogaethau.

Ffynhonnellau: Daeth y mwyafrif o'r enwau o gyfrol Dafydd Davies ac Arthur Jones: Enwau Cymraeg ar Blanhigion (1994), ynghyd â rhai ychwanegol o: 1 Geiriadur yr Academi (1995), Bruce Griffiths & Dafydd Glyn Jones 2 Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad (1995), Gwen Awbery 3 Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion, Cyfrol 2: Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn (2003), Cymdeithas Edward Llwyd: 4 Geiriadur y Brifysgol


Twm Elias