Defnyddiwr:Twm Elias/Ymadroddion Cymraeg

Oddi ar Wicipedia

Rhestr o ymadroddion byd natur

Rydan ni’n defnyddio pob mathau o ymadroddion, diarhebion a dywediadau am fyd natur yn hollol naturiol yn ein hiaith bob dydd. Maent yn ddefnyddiol iawn i wneud ryw bwynt neu’i gilydd drwy gymhariaeth â ryw greadur, boed o ran ei olwg, ei gymeriad neu ei ymddygiad. Mae’r cymhariaethau hyn yn lliwio a bywiogi ein sgwrs a phob tro y crybwyllir y creadur dan sylw mae’n creu darlun yn y meddwl yn syth – sy’n gwneud y peth yn llawer mwy byw a chofiadwy. Gall yr ymadroddion hyn fod yn drawiadol, yn ddoniol ac yn wreiddiol iawn ar adegau.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Aderyn – rhywun a lwyddodd drwy gyfrwysdra: “yn dipyn o dderyn”
    • ‘adar o’r un lliw ehedant i’r un lle’.
    • ‘gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn’.
    • aderyn brith: rhywun â chefndir amheus
  • Alarch – yn wyn fel alarch.
    • yn osgeiddig fel alarch.
  • Anifail – am rhywun creulon: “mae o’n anifail o ddyn”, yn anifeilaidd.
  • Arth – yn gryf fel arth
    • am le chwyslyd a drewllyd: “fatha cesail arth”.
  • Asyn – asyn gariodd yr Iesu i Jeriwsalem.
  • Barcud – dywedir bod gan rywun craff ei olwg ‘lygad barcud’.
  • Brân – yn ddu fel y frân.
    • yn dennau fatha brân.
    • am rywun sy’n canu’n aflafar: “fatha brân”.
    • yn syth yr ehed y frân.
    • am sgwennu bler: ‘sgwennu traed brain’ neu ‘bagle brain’ (Ceredigion). Dywedir hyn hefyd i ddisgrifio’r ysgrif Tsineaidd.
    • y frân wen. Hon fyddai’n achwyn am ddrygioni plant: ‘ryw hen frân wen dd’wedodd wrtha i’.
    • ‘gwyn y gwel y frân ei chyw’.
    • ‘mae ’na frân i frân yn rhywle’
  • Bustach – pan fo rhywun yn gweithio’n galed i ddim pwrpas dywedir ei fod yn ‘bystachu’ (yn gymhariaeth â bustach, sef llo gwr’w wedi ei gweirio, yn ceisio’n aflwyddianus i rhoi gwasanaeth i fuwch).
  • Buwch – am ddynes anhylaw neu annifyr: “yr hen fuwch!”
    • pan fo’r jwg llefrith yn wag dywedir: ‘mae’r fuwch yn hesb’
    • pan fo peswch dyfn ar rywun: “ydy’r hach arnat ti d’wad?” (Clynnog). Yr hach (husk) yw
                   peswch dyfn iawn ar wartheg. 
  • Bwch – rhywun yn edrych yn sarrug, “fatha bwch”.
  • Bytheaid – helgwn, pac o helgwn. ‘Roedden nhw fel bytheaid ar ei ôl o’/ am ei waed o fel bytheaid’
  • Cacwn – yn flin fatha cacwn / wedi gwylltio’n gacwn
  • Camel – dywediad gan rywun â syched mawr: “mae nhafod i fatha cesail camal” (Waunfawr)
               – rhywun sychedig: ‘yn yfed fel camel’.
  • Cath – wrth ei bodd yn cael ei dandwn, “yn fwythus fatha cath”.
               – yn mynd fel cath i gythraul.
               – yng Ngheredigion ‘cwrci’ yw’r enw am gath wr’w ac mae’n ddywediad am ddyn sydd ag    
                  enw am hel merchaid: “hen gwrci yw e”.  
               –  dywediad arall o Geredigion: “mae’n rhatach cadw cath na llygod.” 
  • Ceffyl – “ishio bod yn geffyl blaen”.
               – ‘anodd tynnu cast o hen geffyl’.
               – yn gry’ fel ceffyl / ceffyl gwedd.
               – yn by’ta fel ceffyl.
               – y ceffyl benthyg gaiff ei weithio galetaf.
               – disgrifiad o rywun yn chwerthin yn uchel: “yn gwehyrru” 
  • Ceiliog – fatha ceiliog ar ben doman.
               – mi gana ceiliog ar ei domen ei hun.
               – am ddyn yn cael dipyn o lwyddiant efo’r marched: “yn dipyn o hen geiliog”.
               – am rywyn sy’n canmol ei lwyddiant ei hun: “i be mae hwn yn dwad i fa’ma i glochdar”.
               – am rywun sy’n meddwl ei fod yn well nag ydi o: “y ceiliog dandi!”
               – pan fydd rhywun sy’n meddwl ei hun neu yn or-hyderus wedi cael gwers go chwerw am    
                  rywbeth dywedir ei fod wedi cael ‘torri ei grïb’.  
               – am y byddai ceiliog du yn cael ei aberthu i greu swyn ddrwg gan wrach, dywedid:
                                 Na chad o gylch dy dŷ
                                 Gath wen na cheiliog du.   
  • Ceit – enw yn tarddu o ‘Kite’, Barcud. Yn enw dilornus (Ceredigion) am rywun sy’n manteisio ar
                  rywun arall: “y ceit / ’ma fe rêl ceit”. Yn tarddu o arfer y barcud o gipio cywion ieir oddiar y  
                  ddaear.   
  • Ci – ‘ciaidd’ yn ddisgrifiad o ymosodiad milain a chreulon.
               – am ddyn go drachwantus: “dipyn o hen gi ydi o”, hwrgi.  
               – ‘fel ci bach’ yn ddisgrifiad o ddyn sy’n llwyr dan fawd ryw ferch ac yn mwynhau bod felly.
               – ‘y ci a grwydra a gaiff’.  
               – gwneud rhywbeth dibwrpas / gwastraffus: ‘cadw ci a chyfarth dy hunnan’ 
               – yn sgleinio fatha ceilliau ci.
               – yn sal fel ci.
               – rhywun yn dal ati er gwaetha popeth: “mae o fatha daeargi”.
               – pan fo golwg lechwraidd, euog ar rywun dywedir ei fod: “fatha ryw hen gi lladd defaid”.
               – ‘yr hen straelgi’: dywediad/gair o Glynnog yn tarddu o strae-gi (ci crwydr) yn golygu rhywun   
                   llechwraidd sy’n gwneud drygioni yn y dirgel. Ystyr tebyg sydd i ‘rhechgi’ am rywun llwfr 
                   sy’n dial yng nghefn rhywun yn lle ei wynebu. 
    • ci rhech, ci anwes bychan. Daw’r syniad am bwrpas y fath gi o’r ddelwedd o ddynes
                   ffroenuchel efo ci anwes bychan ar ei braich: petae hi yn rhoi rhech gallai roi’r bai ar y ci!
    • pan ddaeth criw o ferched o Fynytho i Blas Tan y Bwlch un tro am sgwrs a byffet, mi
                   gliriwyd y bwyd yn llwyr. Minnau’n gofyn i un wraig oedd â phlat lwythog iawn: “Rargian,  
                   ’dyn nhw ddim yn y’ch bwydo chi yn Mynytho ’cw?”  Ei hateb oedd: “boliad ci a bery 
                    dridiau”.
    • ceir pennill o Lŷn yn gwarafun y syrthni / diogi ar ôl bwyta cinio mawr:
                               O na bawn i fel hen gi,
                               Yn b’yta ’mwyd a ffwrdd a fi;
                               Yn lle fy mod i fel hen fochyn
                               Yn b’yta ’mwyd a gorwadd wedyn.               
  • Colomen – yn symbol o heddwch a phurdeb.
**ar y llaw arall, am ferch anwadal a thrafferthus: “yr hen g’loman”. 
  • Cranc – “mae o rêl cranc”, h.y. ddim yn barod i gydweithredu.
  • Creyr glas – am rywun tal a main: “ryw greyr glas o foi”.
  • Cudyll – am rywyn yn edrych yn sarrug arnoch ond heb dd’eud dim: “yn sbïo fatha cudyll”.
  • Cwningen – am ferch or-nwydus (‘ofer-sexd)’: “ma’ hi fatha gwningan”.
 **‘bwyd cwningen’ am salad a bwydydd eraill mae fejiterian yn eu byta. 
  • Cyffylog – nid wrth ei big y mae prynnu cyffylog
  • Cynrhon – am rhywun sy’n methu eistedd yn llonydd: “Oes gen ti g’nonod yn dy din d’wad?” (Llŷn)
  • Cyw – wrth gyfarch rhywun annwyl: “helo cyw”.
 **y plentyn ola i adael cartre: “cyw ola’r nyth”.
 **y cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn e fod.
 **paid a chyfri dy gywion cyn iddyn nhw ddeor.
  • Chwadan – cerddediad dynes dew, fyr ei choesau: “fatha chwadan”.
  • Chwanen – yn niferus iawn: “fatha chwain yn bob man”
**disgrifiad o rywbeth na wna lawer o argraff : ‘cic chwanen’ (Ceredigion) 
  • Dafad – “well imi dorri fy locsyn rhag imi fynd yn sownd yn y drain fatha ryw hen ddafad”.
**enw yn ardal Blaenau am ryw hen ddafad fler sy’ wedi hanner colli ei gwlân ydi 
                    ‘sgrymlan’ – sy’n enw da i ddisgrifio dynes fler: “yr hen sgrymlan”. 
  • Dryw – yn ddilornus am rywun bychan: “pwy ’di’r dryw yma?”
 **am wneud rhywbeth diwerth neu na chaiff lawer o effaith: “fel piso dryw yn y môr.”
  • Ebol – yn edrych yn ifanc a llawn bywyd: “fatha ebol blwydd” / “mae hi fel polas (eboles) ifanc”.
 **‘ebol gwyllt wna farch gwych’.
  • Eos – yn swynol fel eos.
  • Ffurat – dywediad (o Bethesda) yn disgrifio’r blas afiach yng ngheg rhywun ar ôl bod ar ‘sesh
                     feddw’ am ddiwrnod neu ddau a heb llnau ei ddannedd: “ma’ ngheg i fatha twll din   
                     ffurat”.
  • Ffwlbart – yn drewi fel ffwlbart.
 **yn ddiog fel ffwlbart.
  • Gafr – fel gafr ar darannau (= wedi cynhyrfu).
 **yn drewi fel ryw hen fwch gafr.
 **yn rhedeg neu’n mynd yn gyflym ar draws creigiau: yn ‘gafrio’ / mynd fel gafr.
  • Gast – dirmygus, am ferch: “Yr hen ast”.
  • Geloden – yn dal gafael yn dyn: “fatha gelan”.
  • Gwalch – aderyn ysglyfaethus sy’n dueddol o gipio adar bach neu gywion ieir. Am rhywun drwg
                      dywedir: “y gwalch!”.  Gw. hefyd ‘ceit’.
  • Gwenyn – yn ddiwyd fel gwenynen.
  • Gwennol – ‘un wennol ni wna wanwyn’.
  **yn mynd fel wennol (h.y., yn gyflym iawn)
  • Gwybedyn – dihareb yn cyfleu rhinweddau amyneddgarwch: “Yn ara bach a fesyl tipyn, mae stwffio
                       bys i din gwybedyn” (dywediad o Hiraethog). 
  **rywbeth tennau iawn: ‘trwch adain gwybedyn’.
  • Gwylan – dywedir bod rhywun â’r dolur rhydd yn “pibo fel gwylan”.
  • Hwch – yn cerdded yn fân ac yn fuan, fel trot yr hwch at y baedd.
 **yn gam fatha piso hwch.
  • Iâr – golwg druenus ar rywun – ‘fel iâr ar y glaw’, neu: ‘fel iâr dan drol’ (yn cysgodi rhag y glaw).
 **merch ddi-briod sy’n disgwyl babi: ‘wedi gori allan mae hi’.
 **lle crafa’r iâr y piga’r cyw
  • Llo – am rywun di-glem: “Y llo! / y llo g’lyb / llo cors (= di-glem a styfnig hefyd)”
 **canu’n ansoniarus:  “clyw hwnna’n brefu”.
 **os ydi rhywun yn dal ymlaen i swnian, caiff yr ymateb: “paid a brefu! / taw a dy frefu”. 
 **graffiti a welwyd ar waliau toiledau drwy Gymru yn 1969 adeg coroni neu arwisgo ‘Carlo’ 
                     yng Nghaernarfon oedd:  “Câr lo, câr Carlo”!
  • Llwdwn – oen myharen. Am rywun styfnig neu anodd ei drin: ‘y llwdwn diawl’.
  • Llwynog – am rywun cyfrwys: “mae o’n dipyn o hen lwynog”.
 **‘wnaiff llwynog byth hela yn rhy agos at ei gartref’.
  • Llyffant – dilornus: ‘y llyffant diawl’.
 **am rywun gafodd fflach o weledigaeth neu syniad da: ‘mae perl mewn pen llyffant’.
 **ceid hen goel gyfeiliornus bod ‘llyffant blwydd yn lladd y dyflwydd’. Hyn yn seiliedig ar yr 
                      argraff bod llyffint bychain (y blwydd) yn ymosod ar y rhai mwy (y dyflwydd) yn y pyllau  
                      yn y gwanwyn. Ond cydmaru mae nhw! Y rhai bach ydi’r gyrfod yn gafael yn dyn am y 
                      fenyw fawr. Pan o’n i’n hogyn drwg, byddai ’nhad yn gwaeddi arnaf: “y llyffant blwydd 
                      diawl!”  
 **am rywun sy’n teimlo’n oer a llaith: “rwyt ti’n oer fatha llyffant”.
 **“yn llyffanta”, am rywun aflonydd yn ei wely dros nos (dywediad o Lŷn).   
  • Llygoden – am rywun ofnus: “fatha ll’godan”.
 **am rywun wedi gwlychu at ei groen: “roedd o fatha ll’godan fawr”.
 **dihareb (o Gwm Pennant) yn rhybuddio rhag ceisio gwneud yr hyn sy’ y tu draw i’ch gallu:  
                     “gwae y llygoden a geisia biso fel caseg”! 
  • Llysywen – “R’odd hi fatha sliwan o dennau”.
 **yn llithrig fel sliwan.
  • Malwen – yn cyfeirio at arafwch diarhebol y falwen: “yn ara’ fatha malwan / fatha malwan mewn
                      côl tar / fatha malwan gloff”.  
 **am gyllell hollol ddi-fin neu ddi-awch: ‘cyllell sbaddu malwoden’ (Ceredigion).   
  • March – “marcho” yn derm am y weithred rywiol (Ceredigion)
  • Milgi – cyflym, ‘yn mynd fel milgi’.
 **yn dennau fel milgi.
 **‘yn denna’ fatha milgi Jipshiwns – yn ddim byd ond coc a sennau’. (dywediad o Lŷn).
  • Mochyn – am rywun budr (baw), yn fler neu’n b’yta’n fler: “yr hen fochyn / rêl mochyn”.
 ** yn hapus fel mochyn mewn ffos.
 ** efo arferion rhywiol budr neu afiach / yn ‘mocha’ efo genod.  
 ** am rywun yn chwyrnu yn ei gwsg: “yn chw’rnu fatha mochyn”.
 ** yn gwaedu fel mochyn (h.y., pan fo’r mochyn yn cael ei ladd).
 ** yn sgrechian fel mochyn (eto, pan y’i lleddid).
 **yn gam fatha piso mochyn.
 **hyfryd meichiad pan fo gwynt (= ni fydd un sy’n cadw moch yn drewi pan fo gwynt)
  • Morgrug – yn ddiwyd fel morgrug
  • Mul / mwlsyn – yn ‘styfnig fatha mul’. Dywediad o Geredigion am rywun styfnig: “y mwlsyn”.
  **am rywyn wedi styfnigo: ‘mae o wedi mulo’, ‘paid a mulo’. 
  **disgrifiad o rywun yn gwneud sŵn aflafar: “yn nadu fatha mul”.
 **be sy’ i’w ddisgw’l gan ful ond cic?  
  **cic galed : ‘cic fatha mul’. 
 **am gwrw cryf: “ma’ gan hwn gic fatha mul”. Erbyn hyn ceir cwrw o’r enw Cic Mul. 
  • Myswynog / Swynog – buwch sydd wedi mynd yn rhy hen i genhedlu. Dywedir hefyd am wraig (nad
                      ydych yn ei hoffi) sydd yn rhy hen i gael plant: “I be wyt ti ishio poetsho efo ryw hen  
                      swynog fatha honna?”. 
  • Neidr – disgrifiad o ferch dennau feichiog: “fatha neidar wedi llyncu nionyn picl” (Pwllheli).
  • Oen – defnyddir yr Oen fel symbol o Grist am ei ddiniweidrwydd ac am iddo gael ei aberthu.
 **dihareb: “mor ddiniwed â’r oen”.
 **am rywun diniwed a llywaeth: “mae o fatha oen”.
 **yr oen yn dysgu’r ddafad i bori.  
 **gwell oen fy hun na ŷch rhywun arall.
 **yn ddilornus am rywun gwirion neu hurt: “yn dipyn o goc oen / y coc oen diawl!”   
  • Paun – am rywyn rhodresgar: “yn rêl peunes”.
  • Pioden – dywediad dilornus am rywun sy’n gecrus a thrahaus ac sy’ am feddiannu bob dim: “yr hen
                     biodan!”
 **am rywyn sy’n hoffi casglu pethau, yn enwedig ryw dlysau gloew: “fatha piodan”.
  • Penci – (h.y. y pysgodyn, morgi) am rywun styfnig: “yr hen benci” (am fod pysgotwyr môr yn ei
                      gael yn drafferthus i’w dynnu o’u cewyll cimychiaid).
  • Pry – dilornus: “pwy wyt ti’r pry diawl?!”
 **rhywun yn dwad i geisio cael mantais: “yli hwn yn dwad, fatha pry at gachu”.
 **am rywun sy’n symud yn brysur iawn: “yn mynd o gwmpas y lle ’ma fatha pry tinlas”.
  • Rhegen yr ŷd – aderyn cyffredin unwaith ond a ddiflanodd erbyn hyn. Roedd ganddo sŵn undonog
                      fyddai yn parhau am oriau drwy’r nos. Am rywun sy’n swnian yn ddi-ddiwedd dywedir: 
                      “Taw, rwyt ti fatha ryw raga rug!”
  • Sarff – am rywun tywyllodrus / bradwrus: “yr hen sarff”.
  • Sguthan – am ferch annifyr neu ddrwg: “yr hen sguthan”.
  • Stalwyn – disgrifiad o ferchetwr: “mae o fatha stalwyn y Sir”. Arferai stalwyni gael eu llogi gan
                     Gymdeithasau Sirol hyd at ganol yr 20fed ganrif i wasanaethu cesyg y gwahanol fröydd. 
  • Tarw – mynd yn syth ar draws gwlad = ‘llwybr tarw’.
 **pan dynwyd sylw adeiladwr o Langefni at rhywbeth yn crogi’n rhydd o’r sgaffaldiau ei ateb 
                     oedd: “mae cŵd tarw’n rhydd hefyd ysti, ond ddaw o byth i ffwrdd chwaith”.  
  • Twrci – wedi gwylltio nes bod ei wyneb yn goch: “wedi mynd yn goch fel tyrci”.
  • Tylluan – llygaid mawr ‘fatha tylluan’.
  • Wiwar – am rywun sy’n newid ei feddwl / meddwl bob munud. [Tra’n gyrru car, welsoch chi wiwar
                     lwyd yn mynd ’nol ac ymlaen ar y ffordd o’ch blaen a ddim yn neidio i’r gwrych tan yr 
                     eiliad ola?]: “y blydi wiwar!” (Bethesda).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ymadroddion Byd Natur; gan Twm Elias. Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn Llygad Barcud (Cylchgrawn Cymdeithas Ted Breeze Jones), rhifyn 23, Haf 2011, gyda ychwanegiadau yma.