Defnyddiwr:Twm Elias/Sêr a Phlanedau

Oddi ar Wicipedia

Y Lleuad[golygu | golygu cod]

Y Tywydd[golygu | golygu cod]

Mae'n goel gyffredin yndydy? – bod y tywydd yn gwella wrth i'r lleuad gyrraedd ei llawnder, ac mai yn ystod y lleuad llawn y cewch chi dywydd goreu'r mis. Rydw i'n grediniol fod yr hen goel yma yn eitha cywir hefyd – ar y cyfan. Ond cefais sawl dadl efo anghredinwyr am hynny – pobl Swyddfa'r Met ydi'r gwaetha – yn taeru nad oes tystiolaeth “ystadegol ddibynadwy” bod y lleuad yn effeithio ar y tywydd.

Wel am rwtsh! Meddyliwch – os ydi'r lleuad yn ddigon cryf i effeithio ar y llanw, ac yn achosi llanw mawr adeg y ddau gyhydnos – ddiwedd Mawrth a diwedd Medi – wel mae o'n bownd hefyd o effeithio ar bwysedd yr awyr – sy'n ei dro yn effeithio ar y tywydd. Fel y clywais i rywun yn dweud rhyw dro: “Mae o 'fatha gwrthod cydnabod bod gen ti dwll yn dy dîn – jyst am na fedri di' weld o! Ond mae o yna garantîd!”


Dylanwadau[golygu | golygu cod]

Mae'r “Hen leuad wen uwchben y lli” wedi cael dylanwad rhyfeddol arnom ni – ers cychwyn gwareiddiad am 'wn i. Roedd helwyr cyntefig yn maneisio ar oleuni'r lleuad i hela rhai mathau o greaduriaid – creaduriaid y nos, yn naturiol. A phan gododd gwareiddiad amaethyddol – yn y dwyrain canol a llefydd eraill – roedd y lleuad yn sail i'r calendrau cyntefig cynta, ac yn cael ei chysylltu â Duwies Ffrwythlondeb. Roedd hynny yn naturiol, o ystyried bod cylchdro'r lleuad yn 28 niwrnod, yn cyfateb i gylchdro ffrwythlondeb misol merch.

Cynnydd a Gwendid[golygu | golygu cod]

Mae hi'n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H.y., wrth i'r lleuad gryfhau (neu dod i'w llawnder) fe fyddai ei hegni yn ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu gwanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, byddai ffermwyr a garddwyr yn cynllunio'u gwaith o amgylch hynny ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.

Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid ieir i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei 'chelder (Morgannwg).

Adeg gwendid neu 'dywyllwch' y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear; pigo ffrwythau (credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt); tynnu llysiau; medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn).

Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn Leuad Babis.

Hen Lanter y Plwy a'r Lleuad Fedi Bu'r lleuad llawn yn garedig iawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni. Mae enwau fel 'Hen Lantar y Plwy', 'Canwyll y Plwy', y Lanter Fawr, neu hyd'noed 'Haul Tomos Jôs' yn dyst o hynny ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd a Steddfodau lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad llawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.

Cawsai y lleuad llawn gynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei alw y 'Lleuad Fedi' neu 'Leuad y Cynheuaf', pryd y ceid y 'Naw Nos Olau'. Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg am y ceid goleuni llachar, bron fel golau dydd, am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl, y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r sgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h.y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.

Lwc, Anlwc a Darogan[golygu | golygu cod]

Fe gred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu hydnoed drwy ganghennau coed (am fod y gwydr, neu'r canghennau, yn atal, neu ddwyn, lwc dda cynnydd y lleuad). Ac mae rhai yn dangos eu harian i'r lleuad newydd (neu ei droi drosodd yn eu poced) – er mwyn iddo gynyddu hefo'r lleuad ynde? Ond rhaid i'ch prês fod yn arian go iawn, neu weithith o ddim. Dim rhyfedd bod y £ wedi colli ei gwerth cymaint ers i gyfansoddiad ein harian poced newid o'r metel arian i cupro-nicel! [Gostyngodd i 50% arian yn 1920 ac i cupro-nicel pur yn 1947]

I sicrhau lwc dda arferai pobl Ceredigion godi eu hetiau'n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai'r merched yn bowio iddi. Mae'n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta'r flwyddyn fe gaiff ei wireddu (cofiwch honna!). Yn Sir Gaernarfon, pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i'r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno.

Lloerig[golygu | golygu cod]

Fe dybid hefyd fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae'r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a 'Lloerig' yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny - ac mae'r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o 'benwendid' yn y cyfnod a ddilynai'r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau'r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad!

Dyn neu Sgwarnog y Lleuad[golygu | golygu cod]

Coel sy'n gyffredin drwy wledydd Ewrop yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad o hen ŵr yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Ond yn yr India, Tsieina, Japan, a de Affrica sgwarnog neu wningen welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau'r Aztec ym Mecsico i bortreadu'r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â'r dduwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o'r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am Melangell yn rhoi lloches i'r sgwarnog rhag helgwn y tywysog Brochfael ym Maldwyn?

Mercher[golygu | golygu cod]

Dylanwadau Astrolegol[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg bod y goel y gall y sêr, y lleuad a'r planedau ddylanwadu ar ein bywydau a'n tynged ni, yn un o goelion hynna'r ddynoliaeth. Ond, ar ben hynny, mae'n syniad sydd wedi dal yn eithriadol o fyw hyd heddiw. Does ond ichi ystyried gwerth blynyddol y 'diwydiant' astrolegol modern a phoblogrwydd colofnau dweud ffortiwn seryddol mewn papurau newydd a chylchgronnau i weld hynny.

Un o hanfodion astroleg yw bod y planedau, fwy neu lai, yn gorwedd ar yr un gwastad wrth iddynt gylchdroi rownd yr haul. Golyga hynny bod llwybrau eu teithiau gofodol, fel meant i'w gweld o'r ddaear, i'w canfod ar hyd gwregys cul o awyr sy'n ymestyn rownd y ddaear ac o un gorwel i'r llall. Ar hyd y gwregys hwn y gorwedda'r cytserau sy'n ffurfio 12 arwydd y Sidydd fyddant yn cylchdroi yn araf bach uwch ein pennau yn ystod y flwyddyn gan ddylanwadu, yn eu tro, ar dynged bawb a phopeth – yn ôl yr astrolegwyr.

Credant hefyd y bydd y planedau, hwythau, yn dylanwad arnom gan ddibynnu ar pa arwydd Sidydd y byddent yn digwydd pasio drwyddo ar y pryd, e.e. credir bod Mercher yn rheoli arwyddion yr Efeilliaid (Gemini) yn ystod y dydd a'r Forwyn (Virgo) yn ystod y nos ac yn rhoi huodledd, medrusrwydd a sioncrwydd, yn ogystal ag anwadalwch i'r sawl sydd dan ei ddylanwad.

Mercher – negesydd y duwiau[golygu | golygu cod]

Mae yna wahaniaethau yn yr hyn a welwn o'r ddaear o batrwm symudiad y planedau. Bydd y rhai sy'n bellach na ni o'r haul yn ei hwylio hi'n braf ar draws yr awyr o un cwr i'r llall. Ond fedr Mercher, na Gwenner, sydd rhyngthom ni a'r haul, ddim gwneud hynny. Byddant hwy yn ymddangos am gyfnodau byrrach – yn gynnar ac yn hwyr yn y nos, a Mercher ddim ond am ryw awr ar y mwyaf cyn y wawr ac wedi'r machlud.

Bydd Mercher i'w gweld yn agos at y gorwel yn y gwyll rhwng dydd a nos, yn hebrwng yr haul tuag at oleuni'r wawr neu yn ei ddilyn i'r tywyllwch gyda'r machlud. Mae fel petae'n ffoi rhag y tywyllwch i'r goleuni neu rhag y goleuni i'r tywyllwch. Dim rhyfedd felly i'r blaned fach hon gael ei hystyried gan sawl gwareiddiad yn negesydd y duwiau; yn symyd rhwng goleuni a thywyllwch a rhwng bydoedd y byw a'r meirw i arwain eneidiau i wlad y meirwon. I'r Groegiaid, Hermes oedd ei enw, i'r Babiloniaid – Nabŵ y Doeth ac i'r Eifftiaid – Thoth.

Roedd yn amlwg hefyd bod Mercher yn symyd yn gyflym iawn o'i gymharu â'r planedau eraill. Ac mae hynny'n hollol gywir oherwydd yr agosaf ydych at yr haul y cyflyma yw eich hynt. Mae Mercher yn teithio tua dwywaith cyflymach na'r ddaear ac yn cwblhau ei 'flwyddyn' mewn 88 niwrnod. Dyma sy'n cyfri am ei ddelwedd fel rhedwr, wedi ei bortreadu hefo adenydd ar ei fferau a'i helmed.

Ond roedd Mercher hefyd yn gyflym a sgilgar mewn sawl maes. Ef oedd duw cerdd am iddo ddyfeisio'r delyn, a'i fab, Pan, oedd dyfeisydd y pibau Pan enwog sy'n dwyn ei enw. Roedd yn dduw masnach (tardda ei enw o'r un gwreiddyn a 'merchant') ac yn dduw lladron a thwyllwyr – am mai ef fyddai'r duwiau yn ei yrru i ddwyn yr hyn fyddai'n amhosib cael gafael arno. Roedd hefyd yn dduw ffraethineb (am ei fod yn slic iawn ei dafod), cyfrwysdra, direidi, gwybodaeth, lwc dda, ffyrdd, teithwyr, dynion ifanc a bugeiliaid. Yn ogystal, roedd ei ffon adeiniog, hefo dwy sarff wedi eu plethu am ei phen, yn arwydd ffrwythlondeb, iechyd a doethineb.

Mercher y Celtiaid[golygu | golygu cod]

Dywed Cesar am y Celtiaid: 'O'r holl dduwiau meant yn addoli Mercher yn fwy na'r un arall a chanddo y mae y nifer fwyaf o ddelweddau; dywedasant mai ef greodd gelfyddyd a'i fod yn dywysydd ar ffyrdd a siwrneiau, a chredasant mai ef sydd fwyaf dylanwadol i wneud arian a masnach'.

Gwaetha'r modd, ni chofnodwyd enw amgenach iddo gan y Rhufeiniaid na: 'Y Mercher Celtaidd', oedd yr un mor amryddawn a'r un Rhufeinig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel duw rhyfel yn ogystal. Caiff ei bortreadu ar allorau ac mewn cerfluniau hefo'i anifeiliaid sanctaidd – ceiliog, gafr (neu hwrdd) a chrwban o gwmpas ei draed. Weithiau mae ganddo dri phen neu dri wyneb, sy'n treblu ei ddoethineb, ac ar y cyfandir fe'i ceid yn aml ar gerfluniau yng nghwmni duwies golud.

Ychydig iawn o'r duwiau Celtaidd sydd ag enwau cydnabyddedig iddynt mewn gwirionedd. Mae'n debyg fod eu gwir enwau yn gyfrin, yn cuddio dan ochl sawl enw amgen fyddai'n amrywio dan wahanol amgylchiadau ac o un llwyth neu gwlt i'r llall. Ond os edrychwn ar y chwedlau Cymreig a Gwyddelig fe welwn bod ambell arwr yn cyfateb yn eitha agos i'r Mercher Celtaidd.

Yn yr Iwerddon gwelwn bod Ogma yn un fersiwn ohono – yn gysylltiedig â ffraethineb, yn fardd ac yn ddyfeisydd yr alffabet Ogam yn ogystal a bod yn hebryngydd eneidiau'r meirwon i'r byd arall.

Ond o'r cyfan, Lleu, neu'r 'Lugh' Gwyddelig, sydd agosa. Os disgrifid Mercher gan y Rhufeiniaid fel 'dyfeisydd pob celf', llysenw Gwyddelig Lugh oedd 'galluog ymhob celf'. Disgrifir hynny yn y stori amdano yn ceisio mynediad i wledd fawr yn Tara. A'r porthor yn gwrthod mynediad iddo onibai ei fod yn feistr ar gelf – ni chawsai neb fynediad heb hynny.

'Rydw i'n saer' meddai Lugh, ond roedd saer i mewn yn barod ac fe'i gwrthodwyd. 'Rydw i'n ofaint' meddai wedyn, ond roedd un o'r rheiny yno hefyd. Rhestrodd Lugh ei ddoniau fel arwr, telynor, bardd, hanesydd, dewin, heliwr, meddyg, crefftwr ayyb, ond roedd pob un crefft wedi ei chynrychioli yn barod. 'Wel, oes yna rywun sy'n cyfuno'r sgiliau hyn i gyd 'ta?' gofynodd. Ac am nad oedd, cafodd fynediad.

Dydd Mercher[golygu | golygu cod]

Cred rhai bod rhai dyddiau'r wythnos yn fwy lwcus neu anlwcus na'i gilydd, a bod dydd Mercher yn sicr yn dod dan ddylanwad y duw y'i galwyd ar ei ôl. Roedd yn ddydd o lwc gymysg, yn dda i ddechrau triniaeth feddygol, sgwennu llythyr, gofyn am ffafr ac i dorri gwinedd eich traed. Ond roedd yn ddydd sal i briodi (byddai eich plentyn yn siwr o fynd i'r crocbren), neu i gychwyn rhywbeth newydd – yn enwedig busnes am y byddai mwy o ladron a thwyllwyr o gwmpas ar ddydd Mercher. Roedd hefyd yn un o ddydiau'r gwrachod, felly rhaid peidio corddi menyn, clymu'r gwartheg am y gaeaf na chwaith gyrru moch – rhag ofn iddynt fynd ar goll. Ac os oedd hi'n gyfnod y lleuad newydd fe fyddai'r agweddau anlwcus hyn o ddydd Mercher yn saith gwaeth!

Gwener[golygu | golygu cod]

Y Blaned[golygu | golygu cod]

Gwenner ydy'r ail blaned o'r haul; cymdoges agosa'r ddaear a'r ddisgleiraf o'r holl blanedau. O ran maint mae'n debyg iawn i'n daear ni ac fe'i hystyriwyd ar un adeg fel efeilles inni. Ond mae iddi natur tra gwahanol. Cuddir ei hwyneb gan gymylau trwchus gwenwynig a danghosodd ymweliadau gan longau gofod, o'r 1970au ymlaen, bod yr wyneb ei hun yn uffern eiriasboeth a difywyd o losgfynyddoedd a chraterau enfawr. Bydd y tymheredd ar ei hwyneb yn cyrraedd tua 460°C a phwysau'r awyr tua 90 gwaith mwy na'n daear ni – nid rhywle i fynd ar eich gwyliau yn sicr!

Mae'n amlwg, felly, bod y blaned wedi cael ei chamenwi! Mae mor wahanol i'r ddelwedd o Wenner, duwies cariad a harddwch….onibai, ar y llaw arall, ei bod yn cynrychioli tempar merch sy' wedi ei phechu! Gwae chi wedyn rhag ei chynddeiriowgrwydd!

Oherwydd ei chymylau trwchus, sy'n adlewyrchu'r haul mor dda, ychydig iawn a wyddem amdani tan yn lled ddiweddar. Hydnoed cyn hwyred a'r 1960au tybid bod ei hwyneb yn gefnforoedd eang a bod rhannau ohonni, efallai, yn fforestydd tebyg i'r hyn oedd ar y ddaear adeg ffurfio'r meusydd glo. Roedd posibiliadau o'r fath yn sbardun enfawr i ddychymyg awduron ffuglen wyddonol. Faint ohonoch sy'n cofio Dan Dare a'r 'Fenwsiaid' yn y comic 'The Eagle' yn y 1950au? Ac yn ei stori fer enwog, 'The Illustrated Man', disgrifia Ray Bradbury helynt teithwyr gofod ar Gwenner yn ceisio lloches rhag y glaw parhaus. Roedd o'n rhannol gywir – mae hi yn bwrw'n barhaus yno – ond am fod wyneb y blaned mor boeth dydy'r glaw byth yn cyrraedd y llawr. Fe ddisgyna o tua 20 milltir uwchben y wyneb, ond try'n ager ar uchder o tua 10 milltir!

Rhaid oedd aros tan i longau gofod Rwsiaidd, yng nghyfres 'Venera' a 'Vega', lanio ar Gwenner rhwng 1970 a 1984, cyn y cawsom wybodaeth gywir am ei natur. Ers hynny llwyddwyd i fapio ei nodweddion daearyddol yn fanwl a chytunwyd, drwy'r Undeb Astronomegol Ryngwladol, ar enwau iddynt. Nid yn annisgwyl, enwau merched sydd i'r mwyafrif ohonynt, e.e. enwyd 'cyfandir' o lif folcanig ar ôl Aphrodite, duwies cariad y Groegiaid; crater anferth ar ôl y gantores Billie Holiday ac ucheldir Lada ar ôl y dduwies Slafaidd (nid y car!). Ac os ydych am gysylltiad Cymreig – ceir ucheldir 'Guinevere', neu Gwenhwyfar, wrth gwrs. Ond mae un eithriad, enwyd rhes o fynyddoedd ar ôl y gwyddonydd Albanaidd, James Clerk Maxwell. Ef, druan ohono, yw'r unig ddyn ar y blaned!

Am ei bod yn nes i'r haul na ni fe fydd ei hymddanghosiad yn newid, yn union fel y lleuad, o lawn i hanner i chwarter ayyb. Mae'n eitha hawdd gweld hynny os edrychwch arni drwy sbienddrych go dda, neu delisgôp.

Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir un ai yn Seren y Gweithiwr, am ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn Seren y Machlud. Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.

Eicon Sosialaidd[golygu | golygu cod]

Daeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i'r mudiad sosialaidd yn y ganrif ddiwethaf gan ymddangos yn amlach ar faneri'r gwledydd Comiwnyddol na hydynoed y morthwyl a'r cryman a'r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y proletariat. Fe'i gwelir hyd heddiw ar faner Tsieina, Angola, Y Congo, Ciwba, Gogledd Korea, Mozambique a Fietnam ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen USSR, yr hen Iwgoslafia ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri'r Undebau Llafur a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau enwog o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i'w gwaith yn y boreuau.

Cysylltiadau dwyfol[golygu | golygu cod]

Gwenner oedd duwies cariad a harddwch y Rhufeiniaid ac yn cyflawni swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte'r Groegiaid. Ond nid delweddau o'r fath geir i'r blaned gan bawb o bobol y byd. I'r Tsieineaid, mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd a'r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I'r Maya roedd y blaned yn un ryfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai'r bobl yn cau eu drysau a'u ffenestri rhag pelydrau, neu saethau, y duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I'r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.

Anodd nabod duwies gyfatebol i Gwenner ym mytholeg y Celtiaid, yn enwedig ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a'r gallu i wella yn ogystal a rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a'u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i'r llall. Tebyg i briodoleddau delfrydol merch go iawn ynde? Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwenner ar hyd a lled Ewrop, sy'n dangos grym dylanwad yr Imperialwyr yn eu cyfnod.

Seryddiaeth[golygu | golygu cod]

Creda seryddwyr bod y planedau yn dylanwadu'n drwm ar bobl. Yn 'Seryddiaeth, neu Lyfr Gwybodaeth yn Dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion', Llanrwst (1830), dywed Robert Roberts (mab i John Roberts, Almanac Caergybi): “Y mae y blaned hon (Gwenner) i'w chyfri yn blaned fawr…a'i natur yw gwneud priodasau, uno pobloedd trwy chwant; hon sy'n rheoli yr arenau, a'r natur yn y rhan honno sy'n peri carwriaeth a serch cnawdol y naill at y llall…” “Y mae'r bobl yma o dymer lawen, ysmala, yn hoffi bod mewn cwmni ysmala, sef mewn tafarnau, yfed diodydd cryfion mewn llawenydd a hawddgarwch, canu cerddi gwagedd, chwerthin, dawnsio, a tharo penill gyda'r tannau…” Maent yn swnio'n dipyn o hwyl i mi!

Y Ddaear[golygu | golygu cod]

Sut ar y ddaear mae hydnoed cychwyn son am lên gwerin y ddaear? Mae'n faes mor anferth fe fyddai angen cyfrol yn hytrach na cholofn neu ddwy i wneud cyfiawnder â fo. Ond o leia gallwn edrych ar un agwedd sy'n gydnaws â thema gosmig y gyfres hon, drwy holi sut y daeth y ddaear i fodolaeth yn y lle cynta.

Mae gan pob diwylliant ei stori am y creu – ceir dwy yn Genesis hydynoed. Serch hynny, er yr amrywiaeth rhyfeddol ym manylion y straeon hyn cawn sawl thema gyffredin.

Yn ôl y mwyafrif ohonynt doedd dim ond anrhefn yma ar y cychwyn ar ffurf môr diderfyn neu anialwch di-ffurf mewn tywyllwch llwyr. Cred eraill mai o freuddwyd y daeth popeth. Ond i gael trefn ar yr anrhefn cychwynol yma, a chreu bodolaeth o anfodolaeth, roedd angen gweithred ac fe ddigwydodd hynny un ai drwy ddamwain neu drwy fwriad rhyw greawdwr neu'i gilydd.

I'r Sgandinafiaid damwain oedd y cyfan, a'r byd wedi cychwyn drwy hap pan ddaeth tân a rhew at ei gilydd yng ngheubwll anrhefn, a elwir Ginnungagap. Ond y gred fwyaf cyffredin yw mai rhyw greawdwr fu ar waith, e.e. yn ôl y Tiv yng ngogledd Nigeria, saer coed oedd y creawdwr, oedd wedi cerfio popeth yn ôl ei ddelwedd ef o berffeithrwydd a rhoi bywyd iddynt.

Beth am gymryd golwg felly ar rai o brif themau stori'r creu drwy'r byd:

Ai breuddwyd yw'r cyfan?[golygu | golygu cod]

I frodorion Awstralia cychwynodd popeth yn amser y freuddwyd (dream time) ac mae'r ffin rhwng y freuddwyd fawr honno a'n realaeth ni yn dal yn un dennau iawn ar y gorau. Rhaid cynnal y defodau priodol, cadw at reolau tabŵ a pharchu ysbrydion pawb a phopeth os am i bethau aros yn eu priod le.

Efallai bod perthynas â hyn yn y syniad Hindwaidd mai myfyrdod y duw Brahma wedi troi'n realaeth yw ein bodolaeth ni ac mai drwy fyfyrdod y cawn ninnau'r allwedd i ystyr y bodolaeth hwnnw.

Anrhefn dyfrllyd a dreigiau[golygu | golygu cod]

Dyma'r stori fwyaf cyffredin ac eang ei dosbarthiad drwy'r byd am yr hyn oedd yma gynta, sef anrhefn dyfrllyd neu fôr di-ffurf ac, yn aml iawn, efo anghenfilod dinistriol yn byw ynddo. Rhaid oedd lladd yr anghenfilod hyn cyn i'n byd ni fedru dod i fodolaeth. Ym mytholeg y Sumeriaid, 3,500CC, ceir hanes Nammu (duwies y dyfroedd) roddodd enedigaeth i'r awyr a'r ddaear. Yn un rhan o'r stori mae'r arwr-dduw Ninwta yn lladd y sarff-ellyll Kur ac yn defnyddio'r corff fel morglawdd i wahanu'r tir oddiar y môr.

Hon yw'r fersiwn gynharaf o deulu cyfan o fythau Indo-Ewropeaidd am rai'n brwydro yn erbyn draig, e.e. Hercules a'r Hydra; Perseus a Medusa; Sant Siôr a'r ddraig; Beowulf a Grendel; Krishna a Kaliya a cheir sawl stori leol drwy'r byd Celtaidd am arwr yn lladd anghenfil y llyn i achub y ferch oedd am gael ei haberthu iddo.

Ceir straeon tebyg yn Tsieina am y dduwies-greawdwr Nu Wa yn brwydro yn erbyn draig yr Afon Felen, tra yn yr Aifft bu raid trechu sarff y dyfroedd a'i halltudio i'r is-fyd cyn y daethai'r byd i drefn. Mae brwydro yn erbyn sarff neu grocodeil enfawr yn thema gyffredin yn y straeon creu o Indonesia tra yn Awstralia ceir stori o amser y freuddwyd am y frwydr rhwng y dduwies-greawdwr ar ffurf sarff yr enfys a'i mab. Yn ystod y frwydr honno y daeth tir, mynyddoedd ac afonydd i fodolaeth.

Ym mhenod gynta Genesis sonir am “ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd”, ac “Yna dywedodd Duw 'casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych'”. Ni sonir am ddraig yma, ond yn Eseia 27, 1 dywedir: “Yn y dydd hwnnw bydd yr Arglwydd a'i gleddyf …yn cosbi Lefiathan y sarff…ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr”, ac yn y Salmau 74, 13-14: “Ti a'th nerth rannodd y môr, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan…”

Codi o'r dyfroedd[golygu | golygu cod]

Yn rhai fersiynnau o'r creu o anrhefn dyfrllyd ceir bod tir sych wedi ei godi o waelod y môr, un ai gan greawdwr-bysgotwr oedd wedi ei fachu a'i godi o'r dyfnder (Polynesia); crwban môr yn gwthio tywod i fyny (Hawai, de-ddwyrain Asia ac India) neu aderyn neu greadur arall yn plymio a chodi llaid (canol Asia, Siberia a gogledd America).

Creadigaeth sych[golygu | golygu cod]

Daw'r mwyafrif o'r straeon hyn o dde-ddwyrain Asia a'r rhannau sych o Affrica ac Awstraila, e.e. yn Gini Newydd sonir am fyd sych a chreigiog a phobl yn ymddangos o dwll yn y ddaear.

Yn ôl dehongliad rhai, ceir fersiwn arall o'r creu sych yn Genesis 2, 4-7. Yma, fel rhagymadrodd i hanes creu Adda o lwch y tir ac Efa o'i asen, dywedir: “Yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod i'r tir…”. Ni cheir son o gwbwl am y môr yn y fersiwn hon a daw dŵr i fodolaeth fel “tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.”

Ŵy cosmig[golygu | golygu cod]

I'r Dogon yng ngorllewin Affrica, y creawdwr Amma dorrodd blisgyn yr ŵy dwyfol oedd yma ar y cychwyn, gan ollwng yn rhydd y ddau dduw sy'n cynrychioli trefn ac anrhefn.

Yn Tsieina datblygodd y cawr dwyfol Pan Gu oddimewn i ŵy cosmig a nofiai yn anrhefn. Pan ddeffrodd y cawr torrodd y plisgyn yn ddau ddarn a elwir yn Yin (tywyllwch) a Yang (goleuni). Cyferbynia Yin a Yang hefyd fennyw a gwryw, oerni a gwres, meddal a chaled, da a drwg ayyb. Safodd Pan Gu, fel y gwnaeth Atlas, am oes gyfan yn cadw'r dau ddarn (y ddaear a'r awyr) ar wahan a phan fu farw daeth yr haul o'i lygad dde, y lleuad o'i lygad chwith, y gwynt o'i anadl, glâw a gwlith o'i chwys a mynyddoedd, afonydd, ffyrdd, coed, metalau a bob dim arall o wahanol rannau o'i gorff.

Lladd anrhefn drwy ddamwain[golygu | golygu cod]

Ceir ambell stori ddigon doniol. Er enghraifft o Tsieina daw hanes dau o Ymerawdrwyr y moroedd yn cyfarfod â Ymerawdwr Anrhefn. Sylwodd y ddau nad oedd gan Ymerawdwr Anrhefn y 7 twll corfforol arferol, fel yr oedd ganddynt hwy, i weld, clywed, anadlu ayyb. Dyma fynd ati felly, fel ffafr iddo, i dorri'r cyfryw dyllau efo ebillion a drilau, un twll y dydd. Ond roedd yr holl dyllu'n ormod ac ar ddiwedd y seithfed dydd bu farw Ymerawdwr Anrhefn druan. Ac o'r eiliad honno fe ddaeth ein byd trefnus ni i fodolaeth.

Cylch di-derfyn?[golygu | golygu cod]

Yn y frwydr ddi-derfyn rhwng trefn ac anrhefn disgrifia rhai mythau sut mae'r byd yn cael ei greu a'i ddinistrio'n gyson. I'r Hopi yn Arizina bu sawl byd, ond dinistriwyd y cynta gan dân, yr ail gan rew a'r trydydd gan ddilyw. Rydym yn awr yn y pedwerydd byd a bydd hwn yn dod i ben cyn bo hir.

Mae hyn yn debyg i syniad yr Aztec o greu a chwalu parhaus yn deillio o ffraeo rhwng pedwar mab y creawdwr. Gwaed aberth oedd yr unig beth gadwai byd yr Aztec rhag chwalu'n ôl i anrhefn.

Yn yr India gollyngodd y duw Vishnu lotus o'i fogail, ac ynddi y creawdwr Brahma. O fyfyrdod Brahma y creuwyd y byd cyntaf cyn i'r byd hwnnw ymdoddi yn ei ôl i anrhefn ac i fyd arall godi yn ei le. Erbyn hyn rydym yn y pedwerydd byd.

Er nad ydy'r traddodiad Groegaidd / Rhufeinig yn son am ddinistr y byd ar ddiwedd pob cylch, fe soniant am 5 oes, a phob oes yn gysylltiedig â phobol wahanol. Efallai bod cysylltiad yma â'r traddodiad Celtaidd a welwn ar ei fwyaf cyflawn yn stori 5 goresgyniad Iwerddon gan bump tylwyth chwedlonnol cyn dyfodiad y Gwyddelod eu hunnain.

Prin a gwasgaredig yw'r wybodaeth am stori'r creu yn ôl y Derwyddon. Fe esgeulusodd y mynachod a gofnododd yr hen chwedlau yn y canol oesoedd wneud hynny am ryw reswm. Ond yn ôl haneswyr Rhufeinig ystyriai'r Derwyddon eu hunnain yn gyfrifol am y creu a bod angen aberthu pobl yn flynyddol i gadarnhau ail-enedigaeth (neu ail-greu) yr haul yn rheolaidd. Roeddent hefyd yn credu mai'r modd y deuai'r byd i ben fyddai i'r awyr gwympo ar y ddaear!

Mawrth[golygu | golygu cod]

Mawrth yw'r unig blaned i roi ei henw i un o ddyddiau'r wythnos yn ogystal a un o fisoedd y flwyddyn. Hi yw'r bedwaredd blaned o'r haul ac am fod iddi liw coch trawiadol fe'i cysylltid â rhyfel, tywallt gwaed a thân yn y dyddiau a fu – yn enwedig yn Ewrop a'r dwyrain canol. Mae tua hanner maint y ddaear; tua 1½ gwaith pellach o'r haul na ni; yn troi ar ei hechel unwaith bob 24.63 awr ac yn cymeryd 687 o ddyddiau i fynd rownd yr haul, sy'n golygu bod ei blwyddyn bron ddwywaith hirach na'r un ddaearol.

Oherwydd ei bod yn bellach na ni o'r haul mae ei hwyneb yn oerach ac yn amrywio o –125°C yn y pegynnau rhewllyd i 25°C yn llygad yr haul ar y cyhydedd. Er nad yw pwysedd yr awyr ond yn 6mb (llai na 1% o bwysedd atmosfferig y ddaear), mae hynny'n dal yn ddigon i beru gwyntoedd cryfion sy'n achosi stormydd llwch amlwg iawn ar adegau a rheiny'n medru para am wythnosau. Mae'r aer dennau yn 95% carbon deuocsid, â'r gweddill yn neitrogen, argon ac ychydig bach bach o ocsigen ac anwedd dŵr.

Am na fu'r prosesau erydu sydd wedi llunio tirwedd y ddaear cyn gryfed ar Fawrth fe erys rhai o'i mynyddoedd yn eithriadol o uchel a garw a cheir ceunentydd enfawr a serth sydd sawl gwaith dyfnach a hirach na'r 'Grand Canyon'. Ceir hefyd losgfynyddoedd, e.e. Olympus Mons, sydd, eto, lawer iawn mwy na dim geir ar y ddaear, a sawl crater amlwg lle bu gwrthdrawiadau â sêr gwib o'r gofod yn y gorffennol. Nodwedd amlwg iawn yw'r pegynnau gwynion, sydd yn gapiau rhew – 85% carbon deuocsid a 15% dŵr. Heblaw am y pegynnau ni cheir dŵr ar yr wyneb ar hyn o bryd, ond yn ddiweddar daeth llawr o dystiolaeth ffotograffig y bu dŵr yn llifo yma ar un adeg – ni fedr rai o'r nentydd sychion a rhai nodweddion eraill fod wedi cael eu creu gan ddim byd arall yn ôl y farn wyddonol.

A oes Bywyd?[golygu | golygu cod]

Mae presenoldeb dŵr, yn codi'r cwestiwn dyrus: a oes, neu a fu, bywyd ar Fawrth? Ym Mehefin 1976 cyrhaeddodd Viking 1 wyneb y blaned ac arni lwy fecanyddol i godi samplau o bridd a'u dadansoddi'n gemegol am olion bywyd. Pan roddwyd maeth hylifol ar rai o'r samplau bu cyffro mawr pan gynhyrchwyd ocsigen, yn union fel y gellid ei ddisgwyl petae bacteria cyntefig yn y pridd. Gwaetha'r modd doedd y prawf ddim digon manwl oherwydd gallasai prosesau di-fywyd roi'r un canlyniad. Ers hynny cynhaliodd cerbyd bach crwydrol y Mars Pathfinder (1997), a dau arall – y Spirit ac Opportunity (2004) – brofion tebyg ond, eto, amhenodol fu'r canlyniadau. Mae'r ddadl yn parhau felly.

'Marshans'[golygu | golygu cod]

Ond os na fedr technoleg fodern brofi yr un ffordd na'r llall, hyd yn hyn, bod bywyd ar Fawrth doedd y fath ansicrwydd ddim yn bodoli yn hanner cynta'r 20g. Pan ddaeth Giovanni Schiaparelli i'r canlyniad, yn 1877, bod patrymau ar ffurf llinellau i'w gweld ar wyneb Mawrth (canali fel y'u gelwid yn yr Eidaleg), buan y daeth pobl, gan gynnwys y seryddwr enwog Percival Lowell ddechrau'r 20g, i gredu mai camlesi enfawr oeddent, wedi cael ei hadeiladu gan wareiddiad datblygiedig i drosglwyddo dŵr o'r pegynnau i ddyfrio'r anialdiroedd.

O ganlyniad aeth dychymyg pobl yn rhemp am fywyd ar blanedau eraill a buan y daeth nofelwyr i sgwennu am deithiau gofodol, gan gyfuno ychydig o wyddoniaeth, stori antur dda a chryn dipyn o wreiddioldeb! Esgorwyd ar 'genre' newydd o sgwennu ddaeth yn adnabyddus fel ffuglen wyddonol, e,e, Percy Gregg â'i Across the Zodiac (1890), ddisgrifiodd daith mewn llong ofod drwy system yr haul yn ymweld a'r planedau, gan gynnwys y Fawrth boblog. Yna, yn 1898 cyhoeddodd HG Wells ei nofel enwog War of the Worlds a The First Men in the Moon yn 1901. Daeth War of the Worlds i amlygrwydd byd eang yn 1938 pan y'i ddarlledwyd ar y radio yng ngogledd America gan Orson Welles. Roedd cyflwyniad Welles, ar ffurf adroddiad newyddion, mor ddramatig nes yr achosodd banic llwyr ymysg llawer o'i wrandawyr gan beri iddynt ffoi yn eu degau o filoedd o Efrog Newydd rhag llongau gofod dinistriol y 'Marshans', gan achosi'r tagfeydd traffig a'r llanast mwyaf welodd y ddinas erioed.

O'r 1920au hwyr daeth cylchgronnau a nofelau ffuglen wyddonol i werthu yn eu cannoedd o filoedd, a daeth y dynion bach gwyrdd, efo cyrn malwen ar eu pennau yn eiconau llenyddol poblogaidd mewn comics, dramâu radio cyffrous a rhai o ffilmiau byrrion Fflash Gordon a sawl ffilm wael, hirach, yn y 1950au. Ni chafwyd ymdriniaeth gall o Fawrth yn y maes hwn tan The Sands of Mars, Arthur C Clarke (1951), sy'n weddol agos at ei le o ran yr amgylchedd mae'n bortreadu ar y blaned goch.

Dim ond yn raddol, wrth i delescopau gwell gael eu datblygu, y gwelwyd mai twyll llygad oedd wedi rhoi'r argraff o linellau, neu ganali, ac mai anialwch orchuddiai wyneb y blaned goch. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth pan lwyddodd y lloeren Mariner 9, fu'n cylchdroi o amgylch Mawrth, yrru lluniau manwl yn ôl i'r ddaear yn 1971 – 72.

Ymlaen i Fawrth![golygu | golygu cod]

Cymaint oedd dylanwad ffuglen wyddonol ar bobl ifanc ddechrau'r 20g nes yr ysgogwyd rhai i chwilio am ddulliau o gyrraedd y gofod ac i arbrofi efo rocedi. Darllen War of the Worlds ysbrydolodd yr Americanwr ifanc Robert Goddard i ddyfeisio a lawnsio'r roced danwydd hylif gynta yn 1926. Darllen deunyddiau tebyg yn yr Almaeneg gychwynodd yrfa Werner von Braun (a ddyfeisiodd rocedi i Adolff Hitler, a'r Americanwyr yn ddieddarach) ac yr un oedd cefndir Fredrik Tsander fu'n gyfrifol am lawnsio rocedi cynta Rwsia. Cri Tsander i ysbrydoli ei gyd-weithwyr fyddai “Ymlaen i Fawrth!”

Mawrth y Duwiau[golygu | golygu cod]

Lliw coch y blaned, neu'r seren symudol hon, fu'n gyfrifol am iddi gael ei henwi ar ôl Mawrth – duw rhyfel y Rhufeiniaid – sy'n cyfateb âg Ares, duw rhyfel, terfysg a thywallt gwaed y Groegiaid a Nergal, y duw o Mesopotamia sy'n lladd drwy ryfel a phla. Yn Tsieina cysylltir y blaned â thân a gwaed.

Roedd gan y Celtiaid sawl duw a chwlt lleol fyddai'n cyfateb i'r Mawrth Rhufeinig ond yn hytrach na chyfyngu ei hun i fod yn dduw'r milwyr, ac un ffyrnig a didostur oedd o hefyd, yn cynrychioli rhyfel er mwyn rhyfel, roedd y 'Mawrth' Celtaidd yn ehangach ei fryd. Byddai'n amddiffyn rhag drygioni ag afiechydon yn ogystal. Cafwyd delwau ac arysgrifau o'r cyfnod Rhufeinig i 'Mars Nodeus', yn iachawr gysylltir â Lydney yn ne Lloegr; 'Mars Camulos' gysylltir â Camulodunum (Colchester) a Camuloressa (yn ne'r Alban); 'Mars Lenus' oedd yn iachawr ac amddiffynwr yr ifanc sy'n gysylltiedig â ffynhonnau yng Ngâl ac y cafwyd delw iddo yng Nghaerwent. Portreadir Lenus fel milwr efo gŵydd wrth ei droed – aderyn sy'n aml yn cael ei gysylltu â duw rhyfel y Celtiaid oherwydd ei natur ymosodol a'r ffaith y bydd yn rhybuddio rhag peryg. Cafwyd yr enw 'Mars Ocelus' hefyd yng Nghaerwent, efo Ocelus, mae'n debyg yn enw gan y Silwriaid lleol am y Mawrth Celtaidd.

Deimos a Phobos[golygu | golygu cod]

Mae gan Fawrth ddwy leuad fechan, Deimos (arswyd) a Phobos (ofn), sydd ddim ond rhyw chydig gilomedrau ar eu traws ac yn debyg o fod yn asteroidau wedi eu dal yn hytrach na lleuadau go iawn. Fe'u gelwid ar ôl meibion Ares ac Aphrodite – duw rhyfel a duwies cariad y Groegiaid. Mae cylchdro Phobos yn lleihau'n raddol – ryw ddwy fedr y flwyddyn – sy'n golygu y bydd yn disgyn, gan achosi craith ar wyneb ei 'dad', ond ymhen 50 miliwn o flynyddoedd!

Iau[golygu | golygu cod]

Iau yw'r mwyaf o'r planedau sy'n cylchdroi am yr haul, a'r mwyaf amlwg hefyd i'w gweld o'r ddaear. Dyma frenin y planedau, y pumed o'r haul, ac mae'n anferth – dros ddwywaith cymaint a'r holl blanedau eraill efo'i gilydd. Gellid ffitio 1,300 planed o faint ein daear ni, fel pŷs mewn pot jam, o'i mewn.

O ran cyfansoddiad mae'n wahanol i'r 4 planed carregog sydd agosaf i'r haul (Mercher, Gwenner, y Ddaear a Mawrth). Iau yw'r cyntaf a'r mwyaf o 4 o blanedau mawrion a ddisgrifir fel y 'cewri nwy' (Iau, Sadwrn, Iwranws a Neifion) a gyfansoddir, yn bennaf, o heidrogen, heliwm, dŵr, methên ag ammonia.

Mae'n ymddangos bod cnewyllyn eiriasboeth Iau wedi ei amgylchu gan haen drwchus o heidrogen metalaidd ac yna haen hylifog o heidrogen a heliwm. Troia'r Heidrogen yn fetalaidd dan ddylanwad pwysedd disgyrchiant enfawr a gwres aruthrol Iau (amcanir bod y cnewyllyn tua 30,000°C). Mewn gwirionedd petae'r blaned ychydig yn fwy byddai'n ddigon i gynneu ymasiad (fusion) niwclear fyddai'n ei throi yn ail haul. Wrth lwc ni ddigwyddodd hynny neu fe fyddai bywyd yn amhosib ar ein daear ni. O amgylch y cyfan ceir atmosffer o nwyon heidrogen a heliwm yn bennaf â chyfansoddion eraill megis dŵr, methên ag ammonia yn ffurfio sawl haen o gymylau trwchus lliwgar.

Am fod Iau yn troi ar ei echel bob 9.8 awr, sy'n llawer cyflymach na'r un blaned arall (cyflymder o 28,000 mya) yng nghysawd yr haul, ceir 'tywydd' amlwg iawn – efo gwyntoedd cryfion, hyd at 250 mya ar y cyhydedd, yn rhuthro'n ddi-baid gan roi cyfres o wregysau lliwgar o gymylau terfysglyd yn ymestyn i'r pegynnau, lle bydd y gwyntoedd wedi arafu i tua 100mya. Ceir patrymau tonnog hardd ar y ffiniau rhwng y gwregysau – a dim rhyfedd chwaith, oherwydd mae cyfeiriad y gwynt yn newid o un i'r llall gan lifo'n groes i'w gilydd, bob yn ail, yn union fel y gwnant ar ein daear ni, ond yn llai nerthol o gryn dipyn! Nodwedd amlwg iawn rhwng y cyhydedd a'r pegwn deheuol yw'r 'smotyn coch' enwog. Hyricên enfawr hirgron a pharhaus yw hwn, sydd tua 30,000 milltir o hyd a chymaint a phedair gwaith cymaint a'n daear ni.

Am fod patrymau'r cymylau yn newid yn gyson mae Iau wedi ennyn cryn chwilfrydedd ymysg seryddwyr, astrolegwyr ac artistiaid o bob math. Cyfansoddodd Mozart a Holst symffoinîae, neu rannau ohonynt, i'r blaned a seiliodd yr awdur Arthur C Clarke rai o'i nofelau ffug-wyddonol, e.e. 'Meeting with Medusa' (1972) a '2001, A Space Odessey' (ddaeth hefyd yn ffilm adnabyddus), ar ddigwyddiadau dychmygol yng nghyffiniau'r blaned fawr.

Astroleg[golygu | golygu cod]

Cymera Iau 11.9 mlynedd i gylchdroi rownd yr haul Golyga hynny ei fod, wrth ddilyn llwybr y planedau ar draws y wybren, yn symud yn araf drwy'r cytserau sy'n rhoi inni 12 arwydd y Sidydd yn eu tro, gan gymeryd tua blwyddyn i groesi bob un. Dim rhyfedd felly bod maint a rheoleidd-dra'r blaned Iau yn golygu ei bod yn fawr ei dylanwad mewn cyfundrefnau astrolegol ar draws y byd, e.e. yn astroleg Tsieina cynrychiola gyfraith a threfn ddwyfol sy' yn ei dro yn dylanwadu ar ffawd ac yn rhoi arweiniad i gyfreithwyr daearol.

Chwedloniaeth[golygu | golygu cod]

Ddwy fil o flynyddoedd cyn Crist yr enw ar y blaned Iau ym mytholeg Mesopotamia oedd Marduk. Ef oedd y duw greawdwr a fu'n gyfrifol am ladd y dduwies Tiamat a'i anghenfilod anrhefn cyn ei hollti'n ddwy ran i wneud y ddaear a'r awyr ac yna defnyddio ei phoer i wneud glaw, gwynt a chymylau. O ganlyniad daeth Marduk yn brif dduw y Mesopotamiaid ac yn gyfrifol yn arbennig am amaethyddiaeth a'r ffrwythlondeb ddeilliai o lawogydd a llifogydd tymhorol yr afonydd.

Ceir adlais gref o stori Marduk yn y fytholeg gynnar am Zeus, prif dduw'r Groegiaid, ddaeth i gynrychioli cyfraith, trefn ac awdurdod. Roedd yr hen Zeus yn enwog iawn am ei anturiaethau rhywiol niferus ac yn gyfrifol am dadogi llu o dduwiau eraill ac arwyr daearol. Dim rhyfedd, felly, i'r pedwar lleuad oedd yn hysbys i seryddwyr, cyn dyddiau telescopau modern, gael eu henwi ar ôl rhai o'i gariadon: Io, Ewropa, Ganymede a Callisto. Gelwir rhain y lleuadau Galileaidd, oherwydd mai Galileo a'u darganfyddodd yn 1610.

Yn dilyn ymweliadau lloerennau megis Galileo yn 1995 ac yn arbennig Cassini yn 2000 cynyddodd niferoedd lleuadau Iau erbyn hyn i dros 60! Canfyddwyd nodweddion arbennig iawn ar wynebau rhai ohonynt ac enwyd un o graterau amlwg Ewropa yn 'Pwyll' ar ôl pendefig Dyfed y Mabinogion.

Cafodd llawer o chwedloniaeth Zeus y Groegiaid ei fabwysiadu a'i addasu ar gyfer Iau y Rhufeiniaid, neu 'Jupiter Pluvalis' – duw y glaw. Cynrychiolai Iau awdurdod, trefn a chyfiawnder ac roedd hefyd yn athronydd, yn rhoi cyngor doeth ac yn athro. Ceir rhywbeth tebyg yn rhai o grefyddau'r dwyrain – enw'r blaned Iau i Hindwiaid yn yr India yw 'Guru', sy'n golygu athro ysbrydol.

Yn y byd Celtaidd y duw gyfatebai agosa i Iau oedd duw'r awyr, ddeuai mewn sawl ffurf, gyda sawl enw lleol arno. Yn amlycaf, mae'n debyg, oedd 'Taranis', neu'r Taranwr, a gariai daranfollt yn un llaw ac olwyn yn y llall. Cynrychiolai'r olwyn droiad y rhod (y tymhorau) ac roedd hefyd yn symbol o'r haul. Cysylltir duw'r awyr â rhyfel, stormydd a ffrwythlondeb y ddaear.

Fel yn achos duw'r haul ceid perthynas agos rhwng duw'r awyr a'r dderwen. Fe barhaodd hynny mewn llên gwerin tan yn lled ddiweddar. Er enghraifft ceid coel fod y dderwen yn cynnig noddfa, i'r cyfiawn, rhag mellt. Ond nid i'r anghyfiawn – fel y profwyd, yn nhŷb rhai, pan laddwyd gan fellten y crogwr fu'n gyfrifol am ddienyddio 200 o 'rebeliaid' yr Iarll Mynwy gondemniwyd gan y Cymro gorfrwdfrydig hwnnw, y Barnwr Jeffreys, wedi'r 'Brawdlys Gwaedlyd' yn 1685. Roedd y crogwr wedi llochesu dan dderwen ar y pryd! Bu farw Jeffreys yn Nhŵr Llundain.

Ond efallai mai'r delweddau grymusaf o'r duw awyr Celtaidd yw'r rheiny gafwyd ar bennau colofnau cerrig anferth yn Ffrainc a de'r Almaen. Yno, mor uchel yn yr awyr a phosib, fe'i portreadir yn carlamu ar draws y wybren ar ei geffyl, efo'i glogyn yn chwirlîo fel banner o'i ôl. Mae'n dal olwyn neu fellten yn ei law ac o dan garnau ei geffyl ddraig anrhefn neu anghenfil gyda choesau fel seirff. Cynrychiola hyn y frwydr barhaus rhwng yr awyr a'r dyfnder; rhwng bywyd a marwolaeth; da a drwg; goleuni a thywyllwch. Drwy hynny deuwn yn ein holau yn daclus at Marduk y duw Mesapotamaidd a'i frwydr yntau â dreigiau anrhefn.


Sadwrn[golygu | golygu cod]

Sadwrn, a'i gylchoedd amlwg, ydy'r ail fwya o'r planedau a'r chweched o'r haul (neu'r 7fed erbyn hyn os derbynir yr argymhelliad diweddar bod Ceres, y mwyaf o'r asteroidau, yn blaned). Sadwrn hefyd yw'r pellaf o'r planedau a ellir eu gweld â llygaid noeth, yn gorwedd 938 miliwn o filltiroedd o'r haul ac yn cymryd 29.5 o flynyddoedd i gylchdroi amdano. Blwyddyn Sadyrnaidd go hir felly ond mae ei ddydd yn fyr – 10 awr i droi ar ei echel. Golyga'r troelli dyddiol cyflym yma, a chyfansoddiad hylifol yn bennaf, ei fod yn taflu allan rhywfaint am ei ganol, fel ei fod 10% yn fwy ar ei draws nag ydy o'r de i'r gogledd.

Ar y cyd â Iau, Neifion ac Iwranws mae Sadwrn yn aelod o deulu o 4, y 'cewri nwy'. Mae tua 95 gwaith mwy na'r ddaear ac, fel y cewri nwy eraill, wedi ei gyfansoddi yn bennaf o heidrogen a heliwm, gyda chyfran fechan o nwyon eraill ar ffurf methên ag amonia'n bennaf yn yr atmosffêr tennau allanol. Wrth deithio tua'r canol byddai rywun yn suddo i fôr o heidrogen a heliwm hylifol fyddai'n newid wrth i'r pwysedd a'r tymheredd gynnyddu i ffurf fetalaidd hylifol yn amgylchynnu cnewyllyn bychan creigiog. Rhyfedd meddwl y byddai Sadwrn, er ei fod cymaint mwy o faint na'r ddaear, yn llai o ran dwysedd ar gyfartaledd. Golyga hynny y buasai'n nofio ar un o foroedd y ddaear – petae un digon mawr ynde?

Y Cylchoedd[golygu | golygu cod]

Nodwedd amlycaf Sadwrn, wrth edrych arno o bell, yw'r cylchoedd mawr sy'n ymestyn allan i'r gofod uwchben ei gyhydedd gan bron iawn ddyblu ei faint ymddanghosiadol. Mae'n bosib gweld tri cylch o'r ddaear: A, B, C a darganfyddwyd cylch arall mewnol yn 1969. Ond yna, pan ddaeth lluniau lloeren o Pioneer 11 yn 1979, Voyager 1 a 2 yn 1980 – 81, Galileo ddechrau'r 1990au ac yn ddiweddar Cassini ers 2004, darganfyddwyd llawer mwy a bod patrymau rhyfeddol o hardd a chymhleth iddynt.

Darnau o rew a chreigiau, â'u meintiau yn ymestyn o ronnynau o lwch i gyrff rai cilomedrau ar eu traws sydd yn y cylchoedd. Mae'r cylchoedd eu hunnain yn dennau iawn, tua kilomedr o drwch, ac mae, mewn gwirionedd, filoedd ohonynt. Rhai yn llyfn, eraill ar batrwm tebyg i blethen hir droellog ac eraill yn donnog. Mae'n debyg mai symudiadau creigiau go fawr neu leuadau bychain ymysg y cylchoedd sy'n gyfrifol am y patrymau hyn a bod y bylchau rhyngthynt wedi eu ffurfio wrth i lwch a cherrig gael eu sgubo i fyny gan greigiau neu leuadau bychain ar eu hynt.

A tharddiad y cylchoedd? Posib mai rhyw gorff neu gyrff astronomegol gafodd eu chwalu'n yfflon gan rym ddisgyrchiant Sadwrn ydynt, a bod rhai o'r gweddillion yn dal i gylchdroi hyd heddiw ar ffurf disg tennau. Mae'n ddifyr bod gan bob un o'r cewri nwy eraill gylchoedd hefyd, ond rhai llawer iawn llai na Sadwrn; rhai nas darganfyddwyd tan i luniau lloeren ein cyrraedd o'r 1980au ymlaen.

Ceir esboniad difyr o bwrpas cylchoedd Sadwrn yn Yr Anianydd Cristnogol, T Dick (1860), tud. 207: “Un o ddybenion eglur y modrwyau yma yw adlewyrchu goleuni ar y blaned yn absenoldeb yr haul; ac wrth bob tebyg, eu bod yn gwasanaethu fel cyfaneddle helaeth i fyrddiynau o fodau teimladol a deallol…”. Nid yw'n ymhelaethu, gwaetha'r modd, ar pa fath o fodau byw fyddai y rheiny.

Chwedloniaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1610, pan edrychodd Galileo ar Sadwrn drwy ei delescôp bychan fe welodd ddau lwmp yn sticio allan nail ochr iddo. Erbyn 1612 roedd y lympiau wedi diflannu! Bu i arsylliadau eraill ganddo ef ag eraill ddangos bod meintiau'r lympiau hyn yn cynnyddu a diflannu dros gyfnod o 15 mlynedd. O'r diwedd, yn 1659, dealltodd Christiaan Huygens o'r Iseldiroedd mai 'modrwy' neu gylch o amgylch Sadwrn oedd yn gyfrifol a bod hon yn fwy neu yn llai gweladwy yn ôl yr ongl yr oedd rhywun yn edrych arni wrth i'r blaned gylchdroi drwy'r gofod. Hynny yw, roedd yn hawdd i'w gweld wrth edrych arni o'r top neu'r gwaelod, ond yn anoddach pan edrychid yn syth ar draws arni.

Yn rhyfeddol, roedd ymddanghosiad a diflaniad lympiau neu 'glustiau' Sadwrn yn cyfateb (efo cryn dipyn o ddychymyg, hynny yw) i ran o'r chwedl Roegaidd wreiddiol am Cronos a ymgorfforwyd yn rhan o gefndir y Sadwrn Rhufeinig. Yn ôl y stori honno, wedi Iwranws (duw'r awyr) ffrwythlonni Gaia (y fam ddaear) fe geisiodd atal mwy o'u hepil erchyll – 3 chawr; 3 Seiclops hyll a 12 Titan – rhag cael eu geni drwy eu gwthio yn eu holau i groth eu mam. I ddial am y fath driniaeth fe roddodd Gaia gryman yn llaw ei holaf anedig, sef y Titan a elwid Cronos. Fe sbaddodd hwnnw ei dad a thaflodd ei geilliau i'r môr! O drochion y 'sblash' fawr honno y cododd Affrodite, duwies serch y Groegiaid.

Fel yr oedd Iwranws yn marw o ganlyniad i'r sbaddu fe broffwydodd y byddai Cronos hefyd yn cael ei ladd gan un o'i feibion ei hun. O ganlyniad byddai Cronos yn llyncu ei blant fel y byddai Rhea, ei wraig, yn rhoi genedigaeth iddynt. Yn naturiol, roedd Rhea braidd yn flin am hyn, a'r tro nesa dyma hi'n geni ei phlentyn yn y nos, ei guddio, a rhoi carreg i Cronos i'w llyncu. Zeus oedd y plentyn a achubwyd ac, yn unol â'r broffwydoliaeth fe drechodd ei dad a sefydlu ei oruchafiaeth ei hun.

Mabwysiadwyd stori Cronos gan y Rhufeiniaid a'i hasio i hanes Sadwrn, eu duw amaeth. Yn y fersiwn Rufeinig, y mab a guddiwyd gan Ops, gwraig Sadwrn, oedd Iau ac ef fu'n gyfrifol am drechu Sadwrn a'r Titans eraill a dyrchafu ei hun yn reolwr y bydysawd. Ymysg pethau eraill, roedd y Rhufeiniaid yn gweld ystyr amaethyddol i gryman Cronos!

Ystyriai rhai ei bod ymddanghosiad ysbeidiol y ddau lwmp welodd Galileo y nail ochr i'r blaned Sadwrn yn cyfateb, yn symbolaidd hynny yw, i enedigaeth epil Cronos a'u diflaniad yn cyfateb i'r hen Gronos yn eu traflyncu!

Y Satwrnalia[golygu | golygu cod]

Roedd y Sadwrn Rhufeinig yn dipyn mwy ewyllysgar na'r Cronos gwreiddiol a chynhelid gŵyl fawr yn ei enw bob blwyddyn am rai dyddiau nail ochr i'r dydd byrraf. Roedd y Satwrnalia yn dipyn o barti! Rhialtwch meddwol lle byddai rheolau cymdeithasol o bob math yn cael eu llacio, thrythyllwch rhywiol yn rhemp, y meistr yn gweini ar y gweision a chynhelid gêmau a charnifalau o dan ofal rywun apwyntiwyd fel 'arglwydd afreolaeth' dros gyfnod yr ŵyl – plentyn neu gaethwas yn aml iawn. Cyfle i'r isaf fod uchaf a'r lleiaf fod fwyaf. Gwelwn adlais o hyn yn nefod Hela'r Dryw, pan ddaw'r lleiaf, er iddo gael ei aberthu, yn frenin dros dro. Hefyd, oni elwir y dydd o'r wythnos roir i ymlacio a chwaraeon yn ddydd Sadwrn?

Astroleg[golygu | golygu cod]

Caiff taith awyrol ac araf Sadwrn drwy 12 arwydd y Sidydd ei chysylltu yn astrolegol â henaint, oerni a phrudd-der. Yn 'Seryddiaeth' (1830), disgrifia R Jones effaith Sadwrn ar y sawl gaiff ei eni dan ei ddylanwad: “A'r dyn a aner dani a gâr ddillad duon; ac fe fydd iddo lygaid trymion, a gweflau tewion…a gwedd athrist, sarug; ac o fywyd anfodlon, pifis yn ei natur…Y benywod yn hyswiod budron…a'u cyrph yn heneiddio yn fuan.”…!?

Wrth lwc, does dim llychedyn o wirionedd yn y fath rwtsh!

Iwranws[golygu | golygu cod]

Annisgwyl iawn oedd y darganfyddiad, gan William Herschell yn 1781, o blaned newydd y tu draw i Sadwrn. Hon oedd y gynta i gael ei darganfod drwy delescôp a'r gynta hefyd i gael ei nabod fel planed gan berson y gellir ei enwi. Roedd y 6 arall, am eu bod yn weladwy â'r llygad noeth, yn hen hysbys i seryddwyr ers cyn cof a thros y milenia roeddent wedi magu cyfoeth enfawr o chwedlau ac astroleg. Hynny ymhob un o'r hen ddiwylliannau 'clasurol' ar draws y byd o'r dwyrain pell ag Ewrop i ganolbarth America.

Problem i Astrolegwyr?[golygu | golygu cod]

Roedd y darganfyddiad yn peri dipyn o benbleth, embaras hyd'noed, i astrolegwyr. Hyd yn hyn roedd y planedau yn ffitio'n daclus iawn i batrwm cyfarwydd a hir-sefydliedig lle roedd gan bob un ei heffaith benodol (honedig) ar ein tynghedau ni ddaearolion wrth iddynt deithio'r llwybr drwy'r gofod oedd yn mynd a nhw ar draws y cytserau a elwir yn 12 arwydd y Sidydd. Ystyrid, er enghraifft, y byddai pa bynnag blaned ddigwyddai fod yn croesi eich arwydd Sidydd adeg eich genedigaeth yn ddylanwadol iawn arnoch am weddil eich oes.

I ddilynwyr y cyfundrefnau astrolegol Tsieiniaidd ac Indiaidd yr ateb hawdd oedd anwybyddu'r blaned newydd yn llwyr gan ei hystyried yn rhy bell i gael unrhyw effaith. Hydnoed yma, gwelwn nad oes son am Iwranws yng ngwaith yr astrolegwr / almanaciwr R Jones yn ei 'Seryddiaeth' (1830). Ond yn raddol, yma yn y gorllewin, aethpwyd ati i greu rôl newydd iddi a bellach fe'i cysylltir â deallusrwydd, dilyn eich trywydd eich hun, syniadau anghonfensiynnol a darganfyddiadau. Mae hyn yn codi, i raddau helaeth iawn, o'r ffaith fod darganfyddiad Iwranws, ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn Oes yr Ymoleuo (Enlightenment) pan ddaeth bri ar syniadau am ddemocratiaeth, cyfiawnder a hawliau dynol. Gwelwn hyn yn yr egwyddorion tu cefn i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau newydd a'r Chwyldro Ffrengig. Dyma hefyd gyfnod yr Oes Ramantaidd gyda'i phwyslais ar unigolyddiaeth a rhyddid mewn mynegiant celfyddydol.

Dadlau am yr enw[golygu | golygu cod]

Bu dipyn o firi ynghlyn ag enwi'r corff gofodol newydd. Roedd Herschell, fel sais teyrngar a oedd, yn sgîl ei ddarganfyddiad, bellach yn cael ei noddi'n hael gan y Brenin Sior III ac am ei henwi'n 'Georgium Sidus' neu'r blaned George ar ôl ei noddwr. Diolch i Dduw chafodd y syniad hwnnw fawr o groeso gan seryddwyr dramor. Cynigion eraill oedd 'Neptune', 'Herschillium' neu'r blaned Herschell ac Uranus.

Ymhen amser yr enw 'Uranus', gynigiwyd gan y seryddwr Almaenig Johann Bode, ddaeth i'r brîg. Dyma'r ffurf Ladin o Ouranos, sef duw'r awyr gwreiddiol y Groegiaid, gafodd ei sbaddu a'i ladd gan ei fab Cronos (Sadwrn) cyn i Cronos yntau gael ei drechu yn ei dro gan ei fab Zeus (Iau) a ddaeth yn frenin y duwiau (gweler rhif 7 o'r gyfres hon, Llafar Gwlad 98). Dadl Bode oedd, am mai Sadwrn oedd tad Iau, y dylsai'r blaned newydd gael ei henwi ar ôl tad Sadwrn, er mwyn cwbwlhau'r olyniaeth fel 'tae.

Daliodd llawer iawn o gyhoeddiadau seisnig at yr enw 'Georgium Sidus' tan yr 1850au. Mae'n ddiddorol bod 'Elfennau Seryddiaeth', gyhoeddwyd gan Thomas Gee yn 1851 yn dal i arddel yr enw Herschell, gan ychwanegu: ' Ond ar hyn o bryd, yn enwedi gan seryddion tramor, Uranus yw enw mwyaf cyffredin y blaned hon.'

Herschell oedd yr enw hefyd yn 'Yr Anianydd Cristnogol' (21ain arg., 1856), sef cyfieithiad y Parch Thomas Levi o waith Thomas Dick, lle dywed (tud. 209) bod bywyd arni: '…gallwn fod yn sicr, i'r hwn a osododd fodau teimladol mewn unrhyw barth, gymhwyso, yn ol deddfau anadnabyddus…(g)yfansoddiad yr aneddwr â natur ei aneddle.'

                      '…A'u cyflwr wedi'i wneuthur at y lle
                           A drefnwyd gan Ragluniaeth ddoeth y Ne.'

Y Blane[golygu | golygu cod]

Un rheswm pam na adnabyddwyd Iwranws fel planed tan 1781 oedd ei bod mor eithriadol o bell, ddwywaith pellach na Sadwrn o'r haul. Golyga hynny ei bod yn ymddangos yn fechan iawn iawn o'r ddaear (prin iawn yn weladwy â'r llygad noeth) ond hefyd mae'n eithriadol o araf yn teithio rownd yr haul – unwaith bob 84 mlynedd. Mewn gwirionedd roedd sawl seryddwr wedi ei nodi fel seren ers 1690, ond neb cyn Herschell wedi sylwi ei bod yn symyd yn araf bach.

O ran ei chyfansoddiad mae Iwranws yn un o'r bedair planed a elwir y 'cewri nwy' – Iau, Sadwrn, Iwranws a Neifion. Heidrigen a Heliwm ydynt yn bennaf o amgylch cnewyllyn bychan creigiog gyda ychydig bach o'r nwyon methên ag ammonia yn yr atmosffêr. Ond tra bo'r Heidrogen a Heliwm yn Iau a Sadwrn ar ffurf nwyon a hylifau poeth, maent ar ffurf rhew trwchus at Iwranws a Neifion, dan orchudd o gymylau trwchus llwydlas. Byddai'n gywir felly i alw Iwranws a Neifion yn 'gewri rhew'.

Er mai bychan yw Iwranws wrth ochr Iau (sydd tua x20 gwaith mwy na hi) a Sadwrn (sydd x10 gwaith mwy), erys hi a Neifion (sydd o faint tebyg iddi) yn dipyn mwy na'r ddaear – x63 gwaith yn fwy mewn gwirionedd.

Os yw Iwranws yn cymeryd 84 mlynedd i gylchdroi am yr haul – blwyddyn Iwranaidd go hir felly – mae'n cylchdroi ar ei hechel bob 17 awr, sy'n eitha cyflym o ystyried ei maint ac yn golygu bod gwyntoedd cryfion iawn yn chwyrlîo ar ei hwyneb. Nodwedd anarferol yw fod gogwydd ei chylchdroi 'dyddiol' ar ongl o 98° i'r fertigol. Hynny yw, mae fel 'tae'n gorwedd ar ei hochr o'i chymharu â'r planedau eraill. Un damcaniaeth i esbonio hynny yw ei bod wedi gwrthdaro a chorff arall yn y gorffennol pell a bod hynny wedi ei thaflu oddiar ei hechel.

Cylchoedd a Lleuadau[golygu | golygu cod]

Yn 1977 darganfyddwyd, drwy delescôp o'r ddaear, bod o leia 5 o gylchoedd am Iwranws a daeth mwy i'r fei ers hynny drwy ymchwiliadau'r lloeren Voyager 2 ganol yr 1980au a thelesgôp Hubble yn 2005. Rydym yn gwybod am 13 o gylchoedd hyd yn hyn; rhai gwan iawn o'u cymharu a Sadwrn efallai, ond yn nodwedd sy'n gyffredin i'r 4 'cawr nwy'.

Mae gan Iwranws 27 o leuadau, dipyn mwy na'r 5 oedd yn hysbys cyn i Voyager 2 gyrraedd yn 1986. Lleuadau gweddol fychan yw y rhain – dydy'r mwya ohonynt, Titania, ddim cymaint a hanner maint ein Lleuad ni ac ni fyddai'r cwbwl ohonynt efo'i gilydd ond tri chwarter maint y Lleuad beth bynnag.

Yn wahanol i brif leuadau'r 'hen' blanedau, fe enwyd lleuadau Iwranws ar ôl cymeriadau allan o weithiau Shakespeare ag Alexander Pope, e.e. Miranda, Ariel, Umbriel, Titania ac Oberon ayyb. Ymgais oedd hyn i'w delweddu fel planed 'fodern', gan symud i ffwrdd o'r traddodiad o enwi cyrff gofodol ar ôl duwiau ac arwyr y Rhufeiniaid – fe sylwch mai Iwranws yw'r unig blaned gafodd ei henwi ar ôl duw Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig. A pham ddim yn wir? Pam ddylsid parhau i glodfori delweddau imperialwyr y gorffennol? Na rhai yr oes fodern chwaith. Yn hynny o beth dwi'n falch mai Iwranws yw enw'r blaned y tu draw i Sadwrn yn yn hytrach na George!


Neifion[golygu | golygu cod]

Y Blaned[golygu | golygu cod]

Neifion ydi'r leiaf, yr oeraf a'r pellaf o'r bedair blaned fawr a elwir yn gewri nwy – er y byddai cewri rhew yn well disgrifiad o Iwranws a Neifion am fod y nwyon, sydd â'r rhan amlycaf yn eu cyfansoddiad, wedi rhewi'n gorn bron i gyd.

Fel yn achos y cewri eraill ni ellir gweld wyneb Neifion, sy' wedi ei guddio dan haen o darth a chymylau trwchus mewn atmosffer o heidrogen a heliwm yn bennaf, gyda ryw chydig o fethên yn ychwanegol. Glas tywyll ydi lliw Neifion hefo ambell gwmwl gwyn yn gwibio o'i chwmpas ond o bryd i'w gilydd gwelir smotiau mawr tywyll hefyd. Stormydd enbyd ydi'r rhain – tebyg i'r smotyn mawr coch ar Iau mewn gwirionedd. O dan y cymylau ceir haen drwchus iawn o rew, sydd wedi ei wneud o ddŵr, methân ag amonia, yn amgylchynnu cnewyllun bychan creigiog.

Gorwedda Neifion tua 2.8 biliwn o filtiroedd o'r haul, sydd tua x30 gwaith pellach i'r gofod na'n daear ni. O ganlyniad mae ei blwyddyn hi yn hir iawn: mae'n cymeryd 165 o'n blynyddoedd ni i fynd un waith rownd yr haul.

Ond os yw ei blwyddyn yn hir mae ei dydd yn fyr – 16 awr. Am ei bod cymaint mwy (x57) na'r ddaear golyga hynny ei bod yn troi'n eithriadol o gyflym, sy'n creu'r gwyntoedd ffyrnicaf geir ar unrhyw un o blanedau'r haul: 600 – 700mya yn arferol a hyd at 1,200mya o gwmpas y smotiau mawr tywyll.

Cylchoedd a lleuadau[golygu | golygu cod]

Dim ond un llong ofod – Voyager 2 – sydd wedi galw heibio Neifion hyd yn hyn a hynny yn 1989 ar ôl taith o 12 mlynedd. Erbyn iddi gyrraedd roedd yr offer cyfrifiadurol arni wedi mynd yn eithriadol o hen ffasiwn – fe fuasent yn well mewn amgueddfa! Ond, wrth lwc, er fod y signalau ohoni wedi gorfod teithio dros 4 biliwn o filltiroedd adre i'r ddaear, a bod eu nerth yn x20 biliwn gwaith gwanach na'r golau o wyneb oriawr ddigidol, roedd cyfrifiaduron daearol wedi gwella digon i fedru eu derbyn a'u prosesu fel y gellid gweld Neifion yn ei holl ogoniant.

Cadarnhaodd Voyager fod cylchoedd main gwan yn cylchdroi am Neifion, 4 ohonynt i gyd, sy'n ei gwneud yn debyg i'r cewri nwy eraill. Ar ben hynny ychwanegwyd 6 lleuad newydd at y 7 welwyd eisoes drwy delesgop – sy'n dwad â'r cyfanswm i 13. Y mwyaf o'r rhain yw Triton – y corff oeraf fesurwyd hyd yn hyn yng nghusawd yr haul: -235°C. Enwyd Triton ar ôl fforch dri-phig duw'r môr.

Ffraeo ymysg seryddwyr[golygu | golygu cod]

Mae Neifion yn ymddangos gyntaf fel un o'r sêr gofnodwyd gan Galileo o gwmpas y blaned Iau yn 1612 a 1613. Ond am ei bod yn symud mor eithriadol o araf fe fethodd Galileo a deal lei body n wahanol, gan feddwl mai seren sefydlog oedd hi. Chaiff o, felly, ddim y clod am ei darganfod.

Yn 1821 cyhoeddodd y Ffrancwr Alexis Bouvard dablau i ddisgrifio symudiadau Iwranws. Ond am ryw reswm doedd y blaned honno ddim yn dilyn y llwybr disgwyliedig yn ddigon manwl. Wedi ail fesur ac ailweithio ei ffigyrau dros nifer o flynyddoedd cynigiodd mai tynfa rhyw gorff neu blaned arall, ymhellach allan oedd yn achosi'r anghysondeb.

Erbyn 1843 roedd John Couch Adams yn Lloegr wedi geithio allan lle dylsid chwilio am y blaned ddirgel. Aeth at y Seryddwr Brenhinol yn Grenwich ac at bennaeth Gwylfa Caergrawnt i ofyn iddynt chwilio, ond wnaethon nhw ddim a gwneus hynny o ddifri. Ond yn ddiarwybod i'r seryddwyr saesnig roedd le Verrier ym Mharis hefyd wedi gweithio allan lle i chwylio. Drwy gyd-ddigwyddiad roedd yntau, yn yr un modd, wedi cael trafferth i berswadio arsyllwyr yn Ffrainc i weithredu am eu bod hwythau, fel y saeson, yn amheus o'r fath ganlyniadau. Gyrrodd le Verrier ei nodiadau i arsyllfa Berlin, a'r noson honno dyma'r Almaenwyr yn troi eu telescop i'r rhan o'r awyr y'u cyfeirwyd nhw ati ac o fewn chydig funudau roeddent wedi canfod y blaned newydd!

Wel am embaras i'r arsyllwyr yn Lloegr a Ffrainc! Bu dadlau a ffraeo ffyrnig rhyngthynt tra bod yr Almaenwyr a phawb arall yn chwerthin am eu pennau. Ar y llaw arall, doedd Adams a le Verrier ond yn falch bod y blaned newydd wedi dod i'r fei, a daethant yn ffrindiau mawr.

Enw[golygu | golygu cod]

Wrth lwc ni chafwyd fawr o drafferth i enwi'r corff newydd. Ddim fel yn achos Iwranws, ddarganfyddwyd yn 1781, lle bu anghytuno am 70 mlynedd cyn i'r enw gael ei dderbyn gan bawb. Eisoes roedd y prif dduwiau clasurol (Rhufeinig yn bennaf) wedi eu cynrychioli'n deilwng wrth enwi'r planedau, ond roedd dau go amlwg ar ôl, sef Neifion a Phlwto, brodyr Iau y prif dduw. Yn ôl y chwedl, wedi i Iau drechu ei dad, Sadwrn, aeth y tri brawd ati i dynnu byrraf docyn i benderfynu pwy fyddai'n dduw ar yr awyr, y môr ac annwfn – y byd arall. O ganlyniad Iau gafodd yr awyr, Neifion y moroedd a Phlwto yr arall-fyd.

Roedd hynny'n siwtio personoliaeth Neifion i'r dim. Un anwadal a therfysglyd ei dempar oedd o beth bynnag ac yn hoff iawn o geffylau gwynion – fel y gwelwn weithiau yn carlamu ar frîg y tonnau adeg storm. Cyd-ddigwyddiad ffodus a rhyfeddol iawn oedd bod lliw y blaned Neifion, pan gafwyd telescop digon cryf i'w weld yn iawn, yn las tywyll fel y moroedd efo ambell gwmwl gwyn ar ei wyneb – yn union fel tonnau'n brigo.

Astroleg[golygu | golygu cod]

Bu i Neifion, fel Iwranws a ddarganfyddwyd 65 mlynedd ynghynt, achosi cryn dipyn o grafu pen i astrolegwyr oherwydd doedd y planedau 'newydd' hyn ddim yn ffitio i'r drefn arferol. Ers miloedd o flynyddoedd ystyrid bod y planedau, wrth iddynt deithio'n araf ar eu llwybr drwy gytserau'r Sidydd, yn dylanwadu ar ffawd pobol y ddaear. Ond rwan dyma ddau newydd a rheiny heb unrhyw effeithiau gwybyddus. Roedd hyn yn codi'r cwestiwn: os oedd yna y fath blanedau dieffaith onid oedd hynny'n codi amheuaeth am effeithiau'r 'hen' blanedau hefyd ac felly am ddilysrwydd astroleg yn gyfangwbwl?

Be bynnag am y ddadl honno fe aethpwyd ati i ddyfeisio effeithiau arbennig iawn i'r planedau newydd, yn seiliedig ar be oedd yn digwydd yn y cyfnodau y'u darganfyddwyd. Er enghraifft, am fod Iwranws wedi dod i'r fei yng nghyfnod chwyldroadau America a Ffrainc, tŵf y mudiad 'Rhamantaidd' a gwawr y chwyldro diwydiannol, cymerwyd ei bod, pan yn symyd drwy ryw arwydd Sidydd neu'i gilydd (treulia tua 7 mlynedd ymhob un o'r 12 arwydd), yn cynnyddu gwreiddioldeb, syniadau anghonfensiynnol a dyfeisgarwch y sawl a anwyd dan yn arwydd hwnnw.

Pan ddarganfyddwyd Neifion roedd llawer o frwydrau cenedlaethol yn Ewrop, cyhoeddwyd y Maniffesto Comiwnyddol yn 1848 a gwelwyd twf syniadau Iwtopiaidd a chelfyddyd 'Impressionist'. Dim rhyfedd felly iddi gael ei chysylltu, dros yr oddeutu 14 mlynedd y cymera i deithio drwy bob arwydd Sidydd, â delfrydiaeth, tosturi, dryswch, twyll, ffantasi a dychymyg.

Hm! Fe hoffwn i ofyn pe bai Neifion ac Iwranws wedi eu canfod ar ryw gyfnodau hanesyddol eraill, tybed fyddai efeithiau astrolegol gwahanol wedi cael eu priodoli iddyn nhw? Ond dyna fo, dim ond rhyw hen anghrediniwr fel fi fyddai'n gofyn peth felly ynde?


Plwto[golygu | golygu cod]

Plwto – duw'r is-fyd[golygu | golygu cod]

Mae Plwto bell wedi ei enwi, yn addas iawn, ar ôl y duw'r is-fyd Rhufeinig sy'n cyfateb yn agos iawn i Hades y Groegiaid. Yn ôl y chwedl, wedi i Iau, y prif dduw, drechu a sbaddu ei dad Sadwrn, gwahoddodd ei ddau frawd i dynnu byrraf docyn i benderfynnu pwy gawsai reoli yr awyr, y môr a'r is-fyd. O ganlyniad Iau ddaeth i reoli'r awyr, Neifion y moroedd a Phlwto yr is-fyd.

Yr is-fyd yw trigfan y meirw ac yn le estron iawn i bopeth byw. Anaml iawn y deuai Plwto i fyd y byw, er iddo ddod unwaith a chipio Prosperina (Persephone i'r Groegiaid) a'i dwyn i'w fyd ei hun i fod yn frenhines iddo.

Pan ddarganfyddwyd planed newydd, y 9fed o'r haul, yn 1930 ni chafwyd llawer o drafferth i'w henwi – nid fel yn achos Iwranws (gw. Llafar Gwlad 99) oherwydd bod bron pob un o brif dduwiau clasurol y Rhufeiniaid erbyn hynny wedi eu cydnabod yn enwau'r planedau, heblaw Plwto. Cynhaliwyd cystadleuaeth gyhoeddus i chwilio am enw a dewiswyd Plwto yn unfrydol gan banel o staff Arsyllfa Lowell yn Arizona, lle darganfyddwyd y blaned newydd, wedi i ferch unarddeg oed, Venetia Burnley o Loegr, ei gynnig. Cafodd Venetia £5.00 o wobr.

Yr is-blaned Pliwto[golygu | golygu cod]

Am sawl rheswm penderfynodd yr Undeb Astronomegol Ryngwladol yn 2006 i ddiraddio Plwto, druan bach, o fod yn blaned i is-blaned. Bellach nis cydnabyddir yn ddim mwy na un o'r llu enfawr o gyrff bychain sy'n cylchdroi am yr haul yn wregys llydan tebyg i siap 'doughnut' a elwir yn Wregys Kuiper y tu draw i Neifion. A bychan ydi Plwto hefyd – ddim ond chwarter maint ein lleuad ni.

Tra bo cylchdaith y planedau eraill yn weddol gyson, h.y. maent yn aros tua'r un pellter o'r haul wrth deithio o'i amgylch, a'u bod hefyd i gyd yn gorwedd ar yr un gwastad, nid felly Plwto. Mae ei gylchdaith ef yn hirgron ac, yn y 248 mlynedd y mae'n gymeryd i deithio rownd yr haul, cyrhaedda hyd at 4.6 biliwn milltir o'r haul ar ei fan bellaf, a 2.8 biliwn milltir pan fo ar ei asgosaf. Daw hyn ag ef hydnoed yn agosach i'r haul na Neifion am gyfnod byr o ryw 15 – 20 mlynedd ym mhob cylchdro, fel a ddigwyddodd yn ddiwedar rhwng 1979 a 1999. Gwahaniaeth arall yw nad yw ei gylchdaith y gorwedd yn yr un gwastad â'r prif blanedau, ond ar ongl o 17° iddynt.

Os nad yn blaned…?[golygu | golygu cod]

Oherwydd ei gylchdro anarferol ni fu'n bosib i Voyager a lloerennau eraill alw heibio Plwto ar eu teithiau gofodol o'r 1980au ymlaen. Ychydig a wyddom amdano felly, hyd yn hyn, heblaw ei fod yn gymysgedd o graig a rhew – 'fel pelen eira llawn llwch a cherrig' yn ôl rhai . Yn hyn o beth mae ei gyfansoddiad yn debyg iawn i rai o'r comedau cylchdro byr ddaw i ymweld â ni o Wregys Kuiper o bryd i'w gilydd, e.e. Comed Halley bob 76 mlynedd a Chomed Swift-Tuttle bob 120 mlynedd. Mewn gwirionedd, petae Plwto yn newid ei gylchdaith ac yn dod yn nes at yr haul fe fyddai yntau'n magu cynffon!

Cofiwch fod yna gomedau cylchdro hir hefyd, ond daw y rheiny o ffynhonnell arall, a elwir yn gwmwl Oort, sydd lawer pellach i'r gofod, e.e. Comed Hale-Bopp welwyd yn 1997 ac na welir eto am 4,200 o flynyddoedd.

Gobeithir cael mwy o wybodaeth a lluniau agos o Plwto yn 2015, pan gyrhaeddith y lloeren New Horizons, a lawnsiwyd yn 2006, ato.

Chwilio am y Blaned X[golygu | golygu cod]

Er na ddarganfyddwyd Plwto tan 1930 roedd yna gred eitha cadarn fod yna rywbeth yn llechu yn y tywyllwch tu draw i Neifion. Mae hyn yn rhyw ailadrodd stori darganfod Neifion, mewn gwirionedd, oherwydd daeth y blaned honno i'r fei o ganlyniad i geisio esbonio be oedd yn achosi anghysonerau yng nghylchdro Iwranws (gw. Llafar Gwlad 100).

Ond hydnoed ar ôl canfod Neifion yn 1846, roedd anghysondeb mwy na'r disgwyl yn dal yng nghylchdroadau Iwranws a Neifion – digon i berswadio y miliwnydd Percivall Lowell, a sefydlodd Arsyllfa Lowell ger Flagstaff, Arizona yn 1894 mai planed arall, tu draw i Neifion, oedd yn achosi hyn. Galwyd hwn yn 'Blaned X' gan Lowell yn 1901 a bu'n chwilio'n ddygn amdano am y 15 mlynedd nesa hyd ei farwolaeth yn 1916.

Yna, yn 1929, ailddechreuwyd chwilio o ddifri pan gyflogwyd Clyde Tombaugh, mab fferm o Kansas, gan Arsyllfa Lowell i dynnu lluniau o rannau o'r gofod i'w cymharu â lluniau wythnos yn ddiweddarach. Treuliodd oriau maith gyda meicroscop yn chwilio am newidiadau bychan yn lleoliadau dros filiwn o sêr unigol rhwng un llun a'r llall cyn canfod yr hyn roedd yn chwilio amdano yn Ionawr 1930. Roedd wedi darganfod smotyn bach symudol – ai hon oedd y 'Blaned X' hir-ddisgwyliedig?

Erbyn hyn gwyddom mai camgymeriadau bychan yn yr amcanion o feintiau Neifion ac Iwranws oedd yn gyfrifol am yr anghysonderau yn eu cylchdeithiau. Felly doedd dim angen Planed X o gwbwl i esbonio hynny ac mai lwc llwyr oedd darganfod Plwto! Druan o Percival Lowell – roedd wedi gwneud llanast drwy ddehongli 'camlesi' honedig Mawrth fel tystiolaeth o fywyd ar y blaned goch (gw. Llafar Gwlad 96) ac yn awr roedd ei ddamcaniaeth am Blaned X yn anghywir! Ond chware teg iddo, bychan yw hynny o ystyried gwerth aruthrol cyfraniadau Arsyllfa Lowell dros y ganrif a mwy ddiwetha. Mae'r gorau'n methu weithiau!

Lleuadau Plwto[golygu | golygu cod]

Yn 1978 darganfyddwyd fod gan Plwto leuad oedd yn cylchdroi amdano bob 6 niwrnod a hynny'n eitha agos – dim ond 12,000 o filltiroedd i ffwrdd. Dyma Charon, a enwyd, yn addas iawn, ar ôl y cychwr fyddai'n rhwyfo eneidiau'r meirwon ar draws yr afon Styx i'r is-fyd. Yna, yn 2005 darganfyddwyd, drwy delescop Hubble, fod yna ddau leuad arall bychain – Nix, a enwyd ar ôl mam Charon oedd yn dduwies y tywyllwch a Hydra, oedd yn sarff erchyll â naw phen ganddi.

Ci a chath a phlwtoniwm[golygu | golygu cod]

Pan ddarganfyddwyd Plwto yn 1930 bu astrolegwyr yn meddwl pa ddylanwadau fyddai ganddo ar ffawd pobl. Penderfynwyd ei gysylltu â phwerau'r fall, oedd yn addas iawn o ystyried ei gefndir chedlonnol, ond hefyd am iddo gael ei ddarganfod ddechrau'r 1930au, pan welwyd tŵf ffasgaeth a chomiwnyddiaeth unbenaethol a gwawr yr oes atomig oedd a'i photensial dinistriol. Roedd rhoi'r enw Plwtoniwm ar elfen newydd, ddarganfyddwyd yn 1940, ac a ddaeth yn danwydd i fomiau niwclear yn addas iawn.

Ond mae ochor ysgafnach i'r stori hefyd – galwyd ci Mickey Mouse yn Plwto yn 1931ar ôl y blaned newydd ac roedd yn naturiol i Clyde Tombaugh, a'i canfyddodd ym mhellafion y gofod, i alw ei gath yn Plwto!

Sêr cynffon, sêr gwib, ac asteroidiau[golygu | golygu cod]

(Syw wici: Angen didoli i'r erthyglau priodol ar wici)

Mae yna dri dosbarth o gyrff bychain gofodol yng nghysawd yr haul nad ydynt yn blanedau na lleuadau chwaith. Ceir cryn dipyn o goelion difyr am rai ohonynt.

Sêr cynffon neu gomedau[golygu | golygu cod]

Rhyw gymysgedd o rew, cerrig a llwch, tebyg i belen eira go fudr, yw comed ac mae'n debyg bod rhai miliynnau ohonynt yn cylchdroi ymhell allan yn y gofod y tu draw i'r blaned Neifion. Weithiau bydd cylchdro un ohonynt yn dod a hi i lawr rhwng y planedau ac yn agos i'r haul cyn iddi gael ei hyrddio allan ymhen ychydig fisoedd i'r duwch pell. Ond wrth iddi ddynesu at yr haul bydd y rhew yn anweddu a hefyd bydd llwch yn cael ei hyrddio ohonni nes ffurfio cynffon fawreddog sy'n tyfu wrth iddi agosau at yr haul a lleihau wrth iddi bellhau. Dyma pryd y'i gelwir yn seren gynffon.

Ceir llawer o gofnodion o sêr cynffon – rai ohonynt yn mynd yn ôl hyd at 2 – 3,000 o flynyddoedd am y byddai gwareiddiadau y dwyrain pell, y dwyrain canol a de America yn credu'n gryf bod y sêr, y planedau a digwyddiadau / gwrthrychau gofodol eraill yn rheoli ffawd pob un ohonom.

Cysylltid sêr cynffon yn benodol â thrychinebau, e.e., yn Ewrop: comed 451AD âg ymosodiadau Attila yr Hun; comed 837AD âg ymosodiadau y Llychlynwyr; comed 1066 – y Normaniaid yn trechu'r Saeson a chomed 1354 yn newydd ddrwg eto i'r Saeson am mai dyma pryd ganwyd Owain Glyndŵr. Gwelwyd comed yn 1456, adeg cwymp Constantinople i'r Twrciaid ac fe ddylsai Napoleon fod wedi aros adre pan welodd gomed yn 1811 fel yr oedd yn paratoi ei ymgyrch drychinebus i Rwsia. Ar y llaw arall ni cheir drwg nad yw'n dda i rywun oherwydd roedd y comedau hyn yn arwyddion da iawn i Attila, y Normaniaid, y Twrciaid a'r Rwsiaid!

Gyda gwawrio'r oes wyddonol fe aeth seryddwyr ati o ddifri i geisio deall comedau a chanfod o le y deusant. Cynnigiodd Otto von Guericke (1602 - 86) eu bod yn teithio mewn cylch hir (elips) ond ni chafwyd prawf o hynny tan y sylwodd Edmund Halley (1656 - 1742) fod comed 1682 yn debyg iawn o ran ei disgrifiad i gomedau 1607, 1531 a 1456 a bod tua'r un amser rhyngthynt, sef 76 mlynedd. Penderfynodd mai yr un gomed oedd hi ac y dychwelai yn 1758. Doedd Halley ddim yn fyw i'w gweld, ond pan ddigwyddodd hynny yn 1759 dyma'r prawf cynta o natur taith comed, ac fel teyrnged iddo fe'i henwyd yn Gomed Halley ar ei ôl. Ers hynny enwyd a dadansoddwyd cylchdeithiau rai miloedd o gomedau.

Yn 1951 cynigiodd yr Iseldirwr Gerard Kuipier fod llawer o gomedau yn tarddu o ardal oedd ar ffurf disg llydan a thew, tebyg i 'ddoughnut', sydd yn gorwedd tu draw i Neifion rhwng 6 biliwn a 12 biliwn kilomedr oddiwrth yr haul. Cynnigiodd bod miliynnau o gyrff bychain comedaidd yma, y rhan fwyaf ohonynt yn aros o fewn yr ardal hon o'r gofod – a elwir yn wregys Kuipier – ond bod nifer fechan ohonynt yn dod yn agosach at yr haul o bryd i'w gilydd, gan ymddangos fel sêr cynffon. Tybir erbyn hyn mai un go fawr o'r cyrff Kuipier hyn yw Pliwto (gweler Llafar Gwlad 101) ac nid planed go iawn o gwbwl.

Ond os cylchdeithiau gweddol fyr sydd gan y cyrff yng ngwregys Kuipier, e.e., Halley yn 76 mlynedd, Swift-Tuttle yn 135 mlynedd, mae yna hefyd ddosbarth arall o gomedau sydd â'u cylchdeithiau yn dipyn hirach, e.e. comed Hale-Bopp welwyd yn 1997 ac ni welir eto am 4,200 o flynyddoedd; Hyakutake welwyd yn 1996 ac ni welir eto am 30,000 o flynyddoedd a West, welwyd yn 1975, ac ni ddaw'n ôl am 500,000 o flynyddoedd.

Tua'r un amser ag y cynigiodd Kuipier ei syniadau cynigiodd Iseldirwr arall, Jan Oort bod y comedau cylchdaith hir yn tarddu o gwmwl mawr o biliynnau o gomedau sydd ar ffurf sffêr enfawr, tebyg i groen oren go dew ac sy'n ymestyn hyd at 1.6 blwyddyn oleuni i'r gofod – sydd bron hanner ffordd tuag at y seren agosaf.

Sêr gwib[golygu | golygu cod]

Cyrff bychain yw y rhain fel arfer wrth lwc (!) sydd yn disgyn i'r ddaear ac yn llosgi wrth dreiddio drwy'r atmosffêr. Bydd y mwyafrif llethol yn llosgi'n llwyr cyn cyrraedd y llawr ond bydd ambell un yn glanio. Tarrodd un westy'r Tywysog Llywelyn, Beddgelert ar Fedi 21ain, 1949. Pwysai bum pwys a mesurai 6 modfedd ac, wrth lwc, fe laniodd yn unig loft wag y gwesty. Ceir disgrifiad o'r digwyddiad mewn rhifyn diweddar o'r cylchgrawn tâp: Utgorn Cymru, 23 (Awst 2008) gan Dyfed Evans oedd yn ohebydd i'r Cymro ac a gafodd sgŵp fawr i'r papur ar y pryd. Glaniodd un arall o fewn 6 llath i amaethwr Coch y Big, Brynaerau, Arfon yn Ebrill 1931. Pwysai honno 5 owns ac roedd tua maint ŵy.

Pe ceid hyd i garreg / maen awyr neu faen mellt fel hyn credid y deuai â lwc a llwyddiant i'w pherchenog, ond iddo edrych ar ei hôl yn ofalus. Pe'i gwerthai neu ei rhoi i rywun arall byddai ef neu ei deulu yn siwr o gael anffawd.

Pan welid byrdaith lachar seren wib ('Digwyddodd, derfy, megis seren wib', R Williams Parry) byddai pobl yn dymuno am lwc dda, ac os na wnaent hynny, anlwc a geid am weddill y flwyddyn. Byddai sêr gwib yn syrthio i'r gorllewin yn arwydd tristwch; i'r dwyrain – llawenydd; i'r gogledd – gaeaf caled ac i'r de – haf braf.

Ond tybed o le y daw a be yw sêr gwib? Deuant o sawl ffynhonell: Llwch a gronynnau sy'n weddillion o gynffon comed Cyrff a gwympodd o'r gwregys o asteroidau carregog sy'n cylchdroi am yr haul rhwng y planedau Mawrth a Iau. Mae miliynnau ohonynt a bydd gwrthdrawiadau rhyngthynt weithiau yn gyrru tameidiau i bob cyfeiriad – gan gynnwys y ddaear. Mae rhai asteroidau yn anferth, e.e. Cerres, a ystyrir bellach yn is-blaned a chafodd un a ddarganfyddwyd yn 2004 gan seryddwr Almaenig fu ar wyliau yng Nghymru ei henwi yn 'Snowdonia'. Ystyrrir eu bod yn weddillion planed a chwalwyd yn chwilfriw. Daw nifer fechan o'r lleuad ac o Fawrth – yn falurion daflwyd i'r gofod gan wrthdrawiadau meteoraidd.

O ran eu cyfansoddiad mae tua 93% o'r meini awyr hyn yn garregog; rhyw 5% yn aloi haearn-nicel a'r gweddill yn gyfuniad o garreg a haearn-nicel. Maent yn werthfawr iawn i ymchwilwyr am eu bod yn rhoi gwybodaeth inni am gyfnodau cynharaf ffurfio planedau cysawd yr haul.


Y sêr sefydlog[golygu | golygu cod]

Y lle gorau y gwn i amdano yng Nghymru i werthfawrogi'r sêr yw ar noson glir ddi-leuad ar Ynys Enlli. Yno does dim golau strydoedd ac mae'r mynydd yn fur rhag llewyrch melyn dinasoedd pell Llŷn fel nad oes dim i amharu ar y duwch perffaith sydd ei angen yn gefndir i olygfa naturiol fwya'r greadigaeth.

Does ryfedd i'r Brenin Dafydd ddweud:

'Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,
y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle,
beth yw dyn, iti ei gofio,
a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?' (Salm 8, 3 - 4)

I Ddafydd gwaith bysedd Duw oedd y sêr – yn dyst o fawredd y creawdwr ac, wrth gwrs o fawredd ei greadigaeth.

Trefn gosmig[golygu | golygu cod]

Go brin y gallasai unrhyw un, o ba wareiddiad cynnar bynnag drwy'r byd, beidio cael ei syfrdannu gan fawredd y nefoedd serog a'i weld yn brawf o drefn gosmig a reolid gan y duwiau. Yn sicr roedd yna drefn go bendant i'r hyn a welid. Hynny yw, roedd patrymau amlwg yn nosbarthiad y sêr sefydlog; roeddent yn troelli'n gyson o gwmpas seren y gogledd yn ystod y nos ac roedd y seren honno ei hun yn treiglo mewn cylch fyddai'n newid gogwydd y ffurfafen yn flynyddol gan ddiffinio inni y tymhorau.

Ar ben hyn roedd y lleuad yn dilyn ei chwrs ei hun gan newid ei chyflwr dros gyfnod o 28 niwrnod ac roedd rhai o'r sêr yn symudol – planedau (ystyr gwreiddiol y gair 'planed' yw teithiwr), sêr gwib a sêr cynffon fyddai y rhain. Sut oedd deall hyn oll mewn oes gyn-wyddonol? Mae'r esboniadau geir ar draws y byd yn niferus a hynod wreiddiol.

Y ffurfafen serog[golygu | golygu cod]

Un syniad cyffredin oedd mai bowlen â'i phen i lawr oedd y ffurfafen, neu babell, cragen crwban, neu hydnoed gloch anferth â'r sêr yn emau llachar yn sownd yn y nenfwd neu yn dyllau bychain fyddai'n dangos goleuni tanllyd yr haen nesa uwchlaw'r ffurfafen. Credai rhai y ceid sawl haen, un o amgylch y llall, oedd yn cynrychioli'r gwahanol lefelau oedd i'r bydysawd ac yn breswylfannau i'r duwiau.

I'r Celtiaid cyfandirol nenfwd cadarn oedd y ffurfafen a'r unig beth yn y byd yr oeddent ei ofn oedd y byddai'n disgyn ar eu pennau rhyw ddydd. Ond hydnoed petae hynny'n digwydd roedd y Galiaid dewr yn dychmygu y byddai'n bosib i'w ddal i fyny ar flaenau eu gwaewffyn.

Syniad arall, yn y dwyrain canol ac ynysoedd y dwyrain pell, oedd mai hylif diderfyn oedd nenfwd y ffurfafen yn amgylchynnu swigen o aer, sef yr awyr, ac mai cychod yn nofio ar wyneb cefnfor y gofod oedd y sêr. Yn ôl un hen chwedl o'r dwyrain canol oddiyma y daeth y dŵr ollyngwyd gan Jehofa i foddi'r byd drygionus – heblaw Noa a phreswylwyr yr Arch.

Ar adeg pan gredid yn gyffredin bod ein byd yn 'fflat', un esboniad o symudiad y sêr yn ystod y nos oedd bod y ffurfafen yn troi'n rheolaidd ar ei hechel – yr 'axis mundi' yn ôl y Rhufeiniaid paganaidd – a bod y cyfan yn cael ei gynnal gan gan biler neu hydnoed goeden fawr anweledig. Dyma dderwen fawr dragwyddol y Celtiaid a choeden fywyd (neu Ygdrassil) y Llychlynwyr – syniad y goroesodd arlliw ohono yn stori Jac a'r goeden ffa!

I'r hen Eifftiaid, bol Nut, duwies y nos, oedd y ffurfafen. Safai hi ar ei phedwar uwch ein pennau ac roedd y sêr yn addurniadau ar ei chorff. Byddai'n llyncu'r haul pob gyda'r nos ac yna, wedi iddo deithio drwy ei chorff, cawsai ei ail eni bob bore. Yn Siapan ambarel neu barasol anferth yn troi o gwmpas ei handlen oedd y ffurfafen.

Be ydi'r sêr?[golygu | golygu cod]

A'r sêr eu hunnain? Gemau, tyllau i lefel nesa'r bydysawd, neu hydnoed lynnoedd bychain disglair ar beithdir maith yr awyr – fel y creda'r Innuit yn y gogledd pell. Ond mae'n ddifyr pa mor gyffredin oedd y syniad mai bodau ysbrydol oeddent. Credai'r Iddewon bod angel gwarcheidiol yn gysylltiedig â phob seren; i bobl y dwyrain canol cynrychiolai eu niferoedd mawr ddisginyddion Abraham; i Incas Periw morynion duwies y lloer oeddent (ddim yr haul sylwer, oherwydd mai dim ond yn y nos y'u gwelid); i Aztecs Mecsico arwyr laddwyd mewn rhyfeloedd neu eneidiau y rhai aberthwyd yn seremonïol oeddent tra i bobl Tsieina eneidiau eu cyn deidiau ymadawedig oeddent.

Crwydrodd delweddau tebyg i hyn i'n diwylliant Eingl-Americanaidd ni o bryd i'w gilydd, e.e. yng nghartŵn Disney: y Lion King fe welwn Pwmba (y baedd gwyllt) a Timone (y mïrgath) yn gorwedd dan y sêr, ac un yn dweud wrth y llall: 'eneidiau dyrchafedig hen frenhinoedd ydi'r sêr wy'sdi?' 'O! Dyna ydyn nhw!' meddai'r llall, 'a finnau wedi meddwl mai pelenni enfawr o elfennau mewn cyflwr o ffrwydriad niwclear cyson oedden nhw!'

Yn ein chwedloniaeth ni'r Cymry ystyriai Idris Gawr mai ei ddefaid oedd y sêr ac arferai eistedd ar y Gader uwchlaw Dolgellau bob nos hefo'i ben yn sticio i fyny uwchlaw'r cymylau yn eu cyfri. Oedd, fe oedd o yn ddyn cyfoethog iawn o ystyried mai yr adeg honno, cyn i arian ddod yn gyffredin, nifer yr anifeiliaid yn eich preiddiau oedd mesur eich cyfoeth.

I wareiddiadau oedd nid yn unig yn credu mai eneidiau'r ymadawedig oedd y sêr ond a oeddent hefyd, fel y Tsineaid, yn addoli eu cyn deidiau, roedd y sêr yn fodd i gysylltu'n uniongyrchol a phersonol hefo anwyliaid y gorffenol. Gellid cael mantais o'u doethineb dwyfol am gymorth a chyngor ond ichi aberthu a dilyn y defodau priodol a dod yn hyddysg mewn darllen yr arwyddion seryddol. Daeth yn arfer, felly, i ymgynghori â'r sêr-hynafiaid ar gyfer pob math o weithredoedd a mentrau newydd a bydd pawb yn cynnig aberth i'w seren bersonol ef neu hi ar ddydd cyntaf y flwyddyn newydd Tsineaidd..

Gweld patrymau a darllen eich ffawd?[golygu | golygu cod]

Beth bynnag eu tarddiad, roedd yn amlwg bod rhai sêr yn amlycach na'i gilydd ac yn ffurfio clystyrau a adnabyddir fel cytser. I bobloedd ar draws y byd daeth y rhain yn gyfrwng cyfleus iawn i gynrychioli a chyflwyno mythau a chwedlau – fel rhyw sioe sleidiau i'r dychymyg ar sgrïn enfawr ffurfafen y nos.

Datblygiad o hynny fu diffinio ag enwi cytser a phriodoli iddyn nhw bwerau allasai ddylanwadu ar bersonoliaeth a ffawd pobl. Er enghraifft fe ystyrid y byddai rhai cytser, pe digwyddant fod yn amlwg neu yn codi mewn rhyw ran arwyddocaol o'r awyr ar adegau pwysig – fel eich genedigaeth neu achlysuron eraill drwy eich bywyd – yn cael effaith mawr arnoch. Deuai dylanwadau eraill i rym petae rhai o'r sêr symudol (pob un a'i heffaith pendant ei hun) yn digwydd croesi y rhan o'r ffurfafen lle gorwedda rhai sêr a chytser sefydlog arbennig. Esgorodd hynny ar ddisgyblaethau neu gyfundrefnau astrolegol cymleth ar draws y byd i esbonio'r gorffenol a'r presennol ac i ddarogan eich dyfodol.

Cytser y Sidydd[golygu | golygu cod]

Y cytser yw grwpiau o sêr sydd, o edrych arnynt o'r ddaear, yn ffurfio patrymau a ellir eu dehongli yn greaduriaid, cymeriadau mytholegol a gwrthrychau o bob math. Bu'r patrymau hyn yn gyfleus iawn ar hyd y canrifoedd i ddisgrifio rhannau arbennig o'r ffurfafen. Er enghraifft, mae'n llawer haws lleoli y sêr symudol (y planedau a sêr cynffon ayyb) ar eu hynt os dywedir: 'mae Comed Hagrid ar hyn o bryd yn Y Sosban Fach (Pleiades)', neu 'mae'r blaned Mawrth yn symyd drwy arwydd Y Tarw'. I'r anghyfarwydd, mae gweld patrymauymysg y sêr yn gofyn cryn ddychymyg. Onid ydych chi wedi meddwl o bryd i'w gilydd: 'Sut yn y nefoedd mae nhw'n gweld cranc (neu beth bynnag) yn fan'cw rwan?' Ond'dydach chi ddim ar eich pen eich hun yn hynny o beth oherwydd mae'r posibiliadau'n di-ri ynglyn â dewis pa sêr sy'n ffurfio pa batrwm cytserol. Na, mae'n amlwg nad oedd pawb yn gwirioni yn yr un ffordd drwy hanes chwaith fel y gwelwn yn y gwahaniaethau mawr a bach rhwng y Babiloniaid, Persiaid, Groegiaid, Indiaid, Tsineaid, Arabiaid, yr Aztec a'r Maya ayyb. Yn wir, heblaw am ychydig iawn o'r cytser amlycaf, neu rannau ohonynt, fel yr Heliwr (Orion), y Sosban Fach (Pliades) a'r Sosban Fawr (neu Yr Arth Fawr – Ursa Major) ychydig iawn iawn o gytser sy'n gyson i bawb. Yn Tsieina ni cheir ond 28 o gytser, tra yn y gorllewin ceir 88. Ar ben hyn ceir mwy o wahaniaeth fyth, efallai, yn y dulliau o ddehongli'r patrymau hyn yn astrolegol. Hynny yw pa effeithiau honedig arnom gaiff ymweld yr haul, sêr cynffon, y lleuad a'r planedau â chytser arbennig ar eu teithiau. Tair prif gyfundrefn Erbyn heddiw ceir tair prif gangen o astroleg – astroleg y gorllewin (fel a arferid gan Madam Sera); astroleg yr India ac astroleg y dwyrain pell. Datblygodd astroleg y gorllewi allan o sawl cyfundrefn gynharach – megis Mesopotamia (cofiwch y Doethion ddilynodd y seren i Fethlehem) a gafodd gryn ddylanwad ar y Groegiaid; a hwythau yn eu tro ar yr Aifft a Rhufain. Yn yr India mae astroleg Vedaidd yn rhan hanfodol o'r grefydd Hindwaidd ac felly'n bwysig iawn hyd heddiw i ddehongli ffawd ei dilynwyr. Yng nghanolbarth America ceid cyfundrefn wahanol eto lle plethid sawl calendr astrolegol fyddai'n para 260, 360, 584 niwrnod, a hydnoed 52 mlynedd ayyb. Byddai tynged pob bachgen yn cael ei ddarllen o'r calendrau pan fyddai'n bum niwrnod oed ar gyfer ei ddethol yn filwr, offeiriad, swyddog sifil neu i'w aberthu.

Y Sidydd[golygu | golygu cod]

Mae'r gwahaniaeth rhwng y cyfundrefnau astrolegol ar eu hamlycaf rhwng y dwyrain pell a'r gorllewin. Does dim ond inni edrych ar y cytser sy'n gorwedd yn y rhan honno o'r awyr sy'n ffurfio llwybr cul ar hyd yr hwn y bydd y planedau'n gorymdeithio'n flynyddol, sef llwybr y Sidydd. Yn Tsieina a gwledydd cyfagos rhennir y llwybr hwn yn ddeuddeg rhan a ddiffinir gan symudiad blynyddol y blaned Iau, a elwir yn seren y flwyddyn. Enwir y deuddeg rhan ar ôl anifeiliaid: llygoden fawr, ŷch (byfflo yn Fietnam), teigr, gwningen (cath yn Fietnam), draig (malwen yn Kasakstan), neidr, ceffyl, myharen (gafr yn Fietnam), mwnci, ceiliog, ci a mochyn (baedd gwyllt yn Japan). Blwyddyn yr ŷch ydi hi ar hyn o bryd gyda llaw. Yn y gorllewin mae arwyddion y Sidydd yn gysylltiedig â deuddeg cytser; pob un yn para tua mis â'u heffeithiau astrolegol honedig yn ddibynol ar eu symudiadau tymhorol drwy'r flwyddyn. Y rhain yw: yr hwrdd, y tarw, yr efeilliaid, y cranc, y llew, y forwyn, y glorian, sgorpion, y saethwr, yr afr, y cludwr dŵr a'r pysgodyn. 'Dydy'r amrywiaeth rhyfeddol 'ma ddim yn dweud rhyw lawer am gywirdeb cyffredinol y gwyddorau astrolegol yn nacydi? Ond, dyna fo, rhaid cydnabod y bu i'r ddisgyblaeth o gofnodi seryddol fod yn ragbaratoad hanfodol i ddatblygiad gwyddoniaeth fodern.

Straeon y Sidydd[golygu | golygu cod]

Mae i bob un o arwyddion y sidydd ei stori ei hun. Dyma fraslun o'r chwedlau sy'n gysylltiedig â'r deuddeg arwydd gorllewinol:

  • Yr Hwrdd (Aries) – Tosturiodd Aries dros y ddau blentyn Phrixus a Helle oedd am gael eu haberthu a chynnigiodd ei hun yn eu lle. I gydnabod ei aberth fe'i dyrchafwyd yn un o gytser y Sidydd.
  • Y Tarw (Tawrws) – newidiodd Iau ei hun yn darw gwyn hardd i dwyllo'r dywysoges Ewropa. Roedd hi wedi gwirioni cymaint efo'r tarw nes iddi ddringo ar ei gefn. Nofiodd yntau i Creta ac yno y gwelodd hi pwy oedd o go iawn.
  • Yr Efeilliaid (Gemini) – roedd i'r efeilliaid yma ddau dad; Phollux yn fab i Iau ac felly'n anfarwol a Castor yn fab i frenin Sparta ac felly'n feidrol. Pan fu Castor farw mynnodd Phollux iddynt ill dau rannu anfarwoldeb fel rhan o gytser Gemini.
  • Y Cranc (Cancer) – gyrrwyd y cranc i ymosod ar Hercules ond cafodd ei chwalu dan sawdl yr arwr. Cododd Juno ei weddillion i'r nefoedd yn wobr am aberthu ei fywyd.
  • Y Llew (Leo) – bu raid i Hercules ymladd Llew Nemea oedd â chroen oedd yn amhosib ei drywannu. Ond daeth Hercules dros y broblem honno drwy ei dagu i farwolaeth! Yna gwisgodd groen gwarchodoly llew yn amddiffynfa iddo'i hun.
  • Y Forwyn (Virgo) – hi yw un o'r ysbrydion anweledig sy'n gwarchod y ddynoliaeth ac yn cynrychioli tegwch a chyfiawnder. Mae'n dal clorian cyfiawnder yn ei llaw.
  • Y Glorian (Libra) – clorian cyfiawnder, yn gysylltiedig â'r forwyn warchodol, ond yn wreiddiol yn cynrychioli'r cyhydnos, neu gyfartalwch nos a dydd.
  • Y Sgorpion (Scorpio) – hwn laddodd yr heliwr Orion am iddo frolio na allai gael ei ladd gan unrhyw greadur. Rhoddwyd Orion a Scorpio ar ddau ben eitha'r ffurfafen i osgoi unrhyw ffrwgwd pellach rhyngthynt.
  • Y Saethwr (Sagitariws) – hwn oedd y sentawr Chiron a gynnigiodd ei hun yn lle'r gwystl Promethews. Cafodd ei ddyrchafu i'r sêr am ei ddaioni.
  • Yr Afr (Capricorn) – yn hanner gafr, hanner pysgodyn. Achubodd Iau rhag cael ei larpio gan y cawr erchyll Typhoeus.
  • Y Cludydd Dŵr (Aquarius) – Y bachgen hardd Ganymede oedd hwn. Fe'i ffansiwyd ef gan Iau a'i cipiodd o i weini byrddau i'r duwiau.
  • Y Pysgod (Pisces) – i ddianc rhag y cawr Typhoeus newidiodd Iau yn hwrdd; Diana yn gath; Bacchus yn afr a Gwenner a Cupid yn ddau bysgodyn. Dyrchafwyd y ddau bysgodyn yn un o'r cytser.


Chwedlau'r Cytser[golygu | golygu cod]

Fel y crybwyllais yn y 13fed erthygl yn y gyfres hon (Llafar Gwlad 104, tud 10) mae'r arfer o geisio gwneud synwyr o ddosbarthiad sêr y nos drwy ddiffinio patrymau yn eu mysg yn hen iawn. Dengys tystiolaeth archeolegol a hanesyddol fod hyn wedi datblygu yn annibynnol mewn sawl rhan o'r byd – yn y dwyrain canol, de Ewrop, Tsieina a chanolbarth America – a hynny cyn gynhared a 3,000 – 4,500 o flynyddoedd yn ôl.

Tybir nad oedd gogledd Ewrop yn rhyw bell iawn ar ei hol hi chwaith. Rydym yn gyfarwydd â'r syniad bod Côr y Cewri a chylchoedd cerrig tebyg yn medru gweithredu fel calendrau tymhorol i nodi symudiadau'r haul, y lloer ac efallai rhai o'r cytser hefyd. Byddai hynny yn bwysig i amseru gweithgareddau amaethyddol tymhorol a seremonïau mawr y flwyddyn. Daeth tystiolaeth newydd o'r Almaen yn lled ddiweddar i gadarnhau pwysigrwydd o leia un o'r cytser pan ganfyddwyd disg metel o'r Oes Efydd sy'n dangos yr haul, y lloer a chlwstwr o ddotiau ar ffurf y Sosban Fach (Pleiades). Cyfundrefnau gwahanol

Un peth ddaw'n amlwg iawn pan gymharwn gyfundrefnau astrolegol gwahanol ddiwylliannau'r byd yw'r gwahaniaethau sylweddol, mympwyol hyd'noed, sydd, neu oedd rhyngthynt. Roedd mytholegau cytserol gwreiddiol yr India, Persia, Mesopotamia, yr Aifft a Groeg yn dra gwahanol. Ond yn sgïl goresgyniadau ymerodraethol ac ymlediad phob math o ddylanwadau diwylliannol datblygodd rhywfaint o gysondeb yn eu patrymau cytserol ac yn natur rhai o'r chwedlau cysylltiedig. Dyma roddodd inni gyfundrefn astrolegol y 'gorllewin' – sydd yn dipyn o lobsgows i ddweud y lleia, o ran tarddiad ei 'chynhwysion'. Ond pan edrychwn ar gyfundrefnau'r dwyrain pell a rhai gwreiddiol canolbarth America gwelwn eu bod nhw yn dra gwahanol a llawer mwy cyfannol. Yn y gorllewin ceir 88 o gytser swyddogol, tra yn Tsieina rhennir yr awyr i 31 'ardal' sy'n cynnwys tair 'corlan' o amgylch pegwn y gogledd ac yna 28 'tŷ' yng ngweddill y ffurfafen. O fewn y 31 ardal ceir 23 o deuluoedd serog sy'n cyfateb i'r cytser gorllewinol ond, bron ymhob achos, mae cyfuniadau gwahanol o sêr ynddynt ac fe'u henwyd mewn dull gwahanol. Mae'r mwyafrif ohonynt yn cynrychioli gwrthrychau neu rannau o'r corff ac mae i bob un eu rhan yn y gyfundrefn astrolegol ddwyreiniol. Yn sicr dyma drefn soffistigedig iawn a ddefnyddir i ddarllen, ym mhatrymau'r sêr, ffawd y crediniwr.

Y cytser deheuol[golygu | golygu cod]

Os enwid y cytser gorllewinol gogleddol ar ôl creaduriaid neu bersonnau chwedlonol, nid felly cytser hemisffêr y de. Enwyd y rhan fwyaf o'r rhain gan un gŵr, sef yr Abad Nicolas de LaCaille, a yrrwyd gan y Pab i fapio'r cytser deheuol ganol y 18g. Fel swyddog eglwysig cydwybodol dewisodd osgoi enwau mytholegol paganaidd a defnyddiodd enwau oedd yn adlewyrchu technoleg ei oes yn hytrach. Er enghraifft: Antila (y pwmp); Circinus (y cwmpawd); Fornax (y ffwrnais); Horologium (y cloc); Microscopium (y meicroscôp); Norma (lefel y syrfêwr); Sextans (y secstant) a Telescopium. Ychwanegodd enwau ambell greadur megis: Chaemeleon; Grus (y garan); Musca (y pry); Pavo (y paun); Tucana (y twcan) a Volans (y pysgodyn ehedog). Hefyd ambell enw crefyddol megis: Ara (yr allor) a Crux (Croes y de). Tybed pa enwau a roddai pe cai'r gwaith heddiw? Y teledu, y beic cwad a'r ffôn symudol?


Y dull modern[golygu | golygu cod]

Erbyn heddiw safonwyd enwau a sefydlogwyd ffiniau'r cytser gan yr Undeb Astronomegol Ryngwladol (IAU) yn seiliedig, i raddau helaeth, ar waith Eugene Delporte yn y 1930au ac eraill. Lleolir pob un o'r cytser mewn sector benodol o'r ffurfafen gyda ffiniau pendant o fewn patrwm grid gofodol. Mae hynny yn ein galluogi i leoli'n fanwl pob seren a gwrthrych gofodol ar unrhyw adeg a'u cofrestru mewn catalog seryddol safonol.

Ambell chwedl[golygu | golygu cod]

Dyma ddetholiad byr o ddeunaw o'r chwedlau 'clasurol' a ddylunir gan y cytser: Andromeda – pan glymwyd Andromeda, merch brenin Ethiopia, i garreg yn llwybr yr anghenfil môr, Cetus, fe'i hachubwyd gan yr arwr Perseus a'i lladdodd drwy ddangos iddo ben torredig y Medusa. Roedd un golwg ar y pen erchyll hwnnw yn ddigon i droi unrhyw greadur yn garreg.

  • Aquila – dyma'r eryr a gipiodd y bachgen Ganymede a'i gario i'r nefoedd at Zeus.
  • Auriga – y cerbyd rhyfel. Yn cynrychioli Erichthonius, mab Fwlcan, a ddyfeisiodd y cerbyd rhyfel cynta.
  • Bootes – ef yw'r aradrwr sy'n dilyn yr Aradr rownd pegwn y gogledd. Mewn chwedl arall ef yw'r heliwr a'i gŵn sy'n ymlid yr Arth Fawr (Ursa Major).
  • Cepheus – ef oedd brenin Ethiopia, tad Andromeda, ac roedd yn un o'r Argonawtiaid aeth i gyrchu'r cnu aur. I'r Arabiaid mae'r cytser yn cynrychioli bugail a'i gi yn gwarchod gyrr o ddefaid, tra i'r Eifftiaid, Cheops, adeiladwr y pyramid mawr sydd yma.
  • Cetus – dyma'r anghenfil a drowyd yn garreg gan Perseus. Fe'i cysylltir hefyd â Lefiathan Job, a'r morfil lyncodd Jona.
  • Corvus – dyma'r frân achwynodd wrth Apollo am anffyddlondeb ei gariad Coronis.
  • Cygnus – yr alarch. Cymerodd Iau ffurf yr aderyn hwn i gael ei ffordd efo Leda, gwraig brenin Sparta. I'r Arabiaid, eryr yn hedfan ydyw.
  • Delphinius – hwn yw'r dolffin a gariodd y bardd a'r cerddor Arion ar ei gefn i ddiogelwch rhag ei elynion.
  • Draco – y ddraig i'r Caldeaid, y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, a'r aligetor yn yr India.
  • Hercules – mab Iau, ac yn enwog am ei nerth yn cyflawni ei 12 tasg . Hwyliodd efo'r Argonawtiaid i ddwyn y cnu aur. Ym Mesopotamia cysylltid y cytser â'u duw haul.
  • Hydra – sarff y dyfroedd. Roedd gan hon 9 pen ac os torrid un fe dyfai un arall yn ei le. Llwyddodd Hercules i'w lladd yn y diwedd. I'r Eifftiaid, yr Afon Nïl a gynrychiolir yma.
  • Lacerta – y madfall. Cytser diweddar a ddiffiniwyd gan Hevelius yn 1690.
  • Lepus – y sgwarnog. Am ei bod yn anifail yr hoffai Orion (yr Heliwr) ei hela, fe'i gosodwyd rhyngtho ef a'i gŵn – druan o'r sgwarnog! I'r Eifftiaid, cwch Osiris a gynrychiolir yma.
  • Lyra – dyma'r delyn a grefftiwyd gan Hermes. Fe'i rhoddwyd gan Apollo yn rhodd i Orpheus a swynodd pob creadur â'i gerddi.
  • Ophiuchus – y dyn a'r sarff. Yn Ewrop y Canoloesoedd: Moses a'r sarff ydoedd. I'r Grogiaid, Aesculapius, mab Apollo a thad meddygaeth yw'r dyn. Roedd o mor llwyddiannus yn cadw pobl yn fyw nes i Pluto, duw'r meirw, orchymyn ei ladd â tharanfollt!
  • Pegasus – dyma'r ceffyl adeiniog a gododd o waed y Medusa erchyll. Fe'i dofwyd gan Neifion a'i rhoddodd i Bellerophon i'w gario i'r frwydr lle lladdodd yr anghenfil Chimera.
  • Saggita – y saeth. Hefo hwn y lladdodd Hercules y fwltur oedd yn gwledda'n ddyddiol ar berfedd Prometheus a oedd wedi ei glymu ar glogwyn ym mynyddoedd y Cacasws. Dywed traddodiad arall mai hwn a saethwyd gan Apollo i ladd Cyclops ac fe'i cysylltwyd hefyd â saeth Cupid.


Sêr a Phlanedau[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg i fy niddordeb i yn y sêr a'r planedau gychwyn pan oeddwn yn hogyn bach yn y 1950au yn dwad adre o'r Band o' Hôp efo'm chwiorydd mawr ar nosweithiau tywyll yn y gaeaf. Doedd teledu ddim wedi cyrraedd cefn gwlad i gadw pobl adre bryd hynny ac roedd mynd mawr ar bob mathau o weithgareddau cymdeithasol i blant ac oedolion. Roedd athrawon yn byw yn eu cymunedau yr adeg honno ac yn barod i wirfoddoli i arwain y fath weithgareddau!

Ar ein ffordd adre byddai Marian, ar nosweithiau serog, wrth ei bodd yn pwyntio at seren y gogledd, y prif blanedau, y Sosban Fawr, y Llew, yr 'W' fawr, yr Heliwr, seren y ci a'r Sosban Fach ayyb. Deuthum i ddeall yn ddiweddarach bod gan y ddwy sosban enwau eraill: yr Arth Fawr neu'r Aradr (Ursa Major) oedd yr un fawr a'r Saith Chwaer neu'r Twr Sêr (Pleiades) oedd yr un fach. Ond roedden nhw'n edrych yn debyg iawn i ddwy sosban – bob un yn sgwaryn â handlen – ac o'u canfod fe fyddem yn siwr o floeddio canu arnynt:

'Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
Sosban bach yn berwi ar y tân...'

Hynny er mawr ddifyrrwch, mae'n siwr, i bobol Llwyn y Ne, Clynnog odditannom wrth inni ddringo'r allt am adre. Mae'r diddordeb seryddol yn dal ynddo' i hyd heddiw, nid yn unig yn yr ochr wyddonol neu astronomegol ond hefyd yn y chwedlau a'r mytholegau sy' gan wahanol bobloedd i ddisgrifio rhyfeddodau'r gofod a'u hesbonio yng nghyswllt eu diwylliant eu hunnain. Trueni braidd nad oes mwy o enwau a chwedloniaeth seryddol yr hen Gymru a'r gwareiddiad Celtaidd wedi goroesi ond, serch hynny, mae yna sawl cyfeiriad at chwedloniaeth Cymru ymysg y sêr:

Caer Arianrhod – dywed rhai mai enw ar gytser Goron y Gogledd (Corona Borealis) ydyw (Duwiau'r Celtiaid, Gwyn Thomas (1995), Cyfres Llafar Gwlad 24, tud. 28), sydd yn griw bychan o saith seren ar ffurf hanner cylch yn gorwedd rhwng Hercules a Bootes. Ond mae hefyd yn un o'r enwau Cymraeg ar y Llwybr Llaethog (Milky Way), sef y gwregys eang o sêr a welwn yn croesi'r awyr ac sydd yn ymddangos felly am ein bod yn edrych i mewn i ymylon ein galaeth arbennig ni. Enwau eraill ar y Llwybr Llaethog (Geiriadur yr Academi (1995)) yw: Caer Gwydion, y Ffordd Laethog, y Ffordd Laethwen, y Ffordd Wen, Heol y Gwynt a Llwybr y Gwynt.

Ceir hanes Arianrhod ym mhedwaredd gainc y Mabinogi. Hi oedd mam Lleu (duw'r haul) a chwaer Gwydion y dewin. Duwies y wawr oedd hi yn ôl Syr John Rhys, ond rhaid inni gofio hefyd ei phwysigrwydd hi a'r duwiau / duwiesau Cymreig eraill yn nhreigl y tymhorau neu yng nghylchdro rhod fawr y flwyddyn. Onid yw'r arian-rhod, neu yr olwyn arian, yn gyfeiriad at hynny? Mae Caer Gwydion yn enw arall ar y Llwybr Llaethog, yn deillio o hen stori [Welsh Folklore & Folk-custom, T Gwynn Jones (1929), tud. 16] am Gwydion yn mynd i chwilio drwy'r holl wledydd am ei fab colledig Huan ap Dôn. Yn y diwedd mae'n cyrraedd y ffordd laethog yn yr awyr lle mae'n canfod enaid Huan yn y nefoedd.

I'r Rhufeiniaid llaeth a gollwyd gan Juno pan yn magu'r ddau blentyn bach, Gwenner a Mawrth roddodd inni'r llwybr llaethog, tra i'r Groegiaid, Phaeton oedd ar fai. Fe berswadiodd o Apollo i adael iddo yrru cerbyd (chariot) newydd yr haul a oedd newydd gael ei adeiladu gan Vulcan. Ond mae'n amlwg nad oedd Phaeton fawr o yrrwr oherwydd fe redodd y cerbyd a'r haul yn wyllt ar draws y ffurfafen gan adael llwybr o lwch ar ei ôl.

Llys Dôn, Cadair Dôn – dyma enwau ar Cassiopeia neu yr 'W' fawr a welir yr ochr arall i seren y gogledd yn wynebu'r Sosban Fawr. Roedd Dôn yn enw ar fam dduwies y Brythoniaid ac yn cyfateb i Dana neu Danu yn yr Iwerddon. Roedd yn ferch i Mathonwy, yn chwaer i Math ac yn wraig i Beli, duw marwolaeth. Roedd ganddi lawer o blant a rheiny, yn cynnwys: Amaethon, Arianrhod, Gofannon, Gwydion, Gilfaethwy a Nudd sy'n cynrychioli sgiliau'r ddynoliaeth a phriodolweddau'r byd. Mae'n debyg bod llun mam dduwies Geltiaid y Cyfandir i'w gweld ar un o baneli arian y Pair Gundestrup enwog wedi ei hamgylchynnu gan blant, anifeiliaid ac adar. Ceir cysylltiad â chadair mewn mytholegau eraill hefyd, e.e. dynes mewn cadair yn un o ddelweddau'r Rhufeiniaid a'r Arabiaid. Ond delwedd o goes yw hi i'r Eifftiaid, camel yn penlinio yng ngogledd Affrica a lamp garreg i'r Esgimo.

Yr Heliwr – cytser amlwg iawn ac yn ddelwedd o Orïon a oedd, yn chwedloniaeth y Groegiaid, yr heliwr goreu yn y byd. Ond am ei fod yn meddwl gormod ohono'i hun fe yrrodd y duwiau sgorpion i'w bigo a'i ladd. Mae'r Sgorpius hwnnw yn un o gytser y Sidydd a welir yn y pen eitha o'r awyr i'r Heliwr, rhag ofn iddi fynd yn ffrwgwd pellach rhwng y ddau!

Mae'r tair seren sy'n ffurfio gwregys Orïon yn dwyn yr enwau: y Tri Brenin, y Groes Fendigaid, Llathen y Teiliwr neu Llathen Fair (Geiriadur yr Academi). Mae tair seren y gwregys yn anelu at seren y ci, neu Sirius, oedd yn bwysig iawn ar un adeg am y byddai ymddanghosiad y seren gyfnewidiol hon uwchben y gorwel yn nodi cychwyn tymor amaethyddol y dwyrain canol. Yma yng Nghymru gelwir y dyddiau pan ddaw i'w hanterth ganol haf yn ddyddiau'r cŵn.

Y Sosban Fawr – mae saith seren y Sosban Fawr (Ursa Major) yn adnabyddus drwy'r byd dan sawl enw. Hi oedd yr Arth i seryddwyr yr Ewffrates dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl a cheir yr un enw yn yr India a rhannau eraill o'r byd yn ogystal. Ymysg brodorion gogledd America y bedair seren sy'n ffurfio sgwâr yw yr arth tra bo tair seren y gynffon yn cynrychioli tri heliwr yn ei herlid – y cyntaf efo bwa a saeth, yr ail efo pot i ferwi'r cig a'r trydydd efo'r tân i'w roi dan y pot. Llwydda'r helwyr i'w dal bob hydref, a'i gwaed yn disgyn o'r awyr sy'n gyfrifol am gochi'r dail.

Enwau eraill arni yw yr Aradr, y Big Dipper yn yr Unol Daleithiau, y Car Llusg ym Mecsico a'r Sosban Fawr gan rai ohonom yng Nghymru. Mae'r ddwy seren ar flaen y sosban yn cyfeirio at seren y gogledd (Polaris) sydd hefyd yn dwyn yr enwau Seren y Pegwn a Seren y Morwyr (Geiriadur Prifysgol Cymru).

Y Sosban Fach (Pleiades) – er mai dyma un o'r cytser lleiaf mae hefyd ymysg y mwyaf adnabyddus. Mae'n gorwedd rhwng yr Heliwr (Orïon) a'r Efeilliaid (Gemini) ac yn rhan estynedig o gytser y Tarw (Taurus). Gellir gweld rhyw saith seren â'r llygad noeth, ond dengys sbienddrych bod clwstwr o rai ugeiniau yma i gyd. Ceir chwedlau gwahanol am y Sosban Fach o bob rhan o'r byd, ond i'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid roedd saith seren y Pleiades yn ferched i Atlas. Fe'u dyrchafwyd i'r ffurfafen am eu chwaer-garwch a'u cydymdeimlad â'u tad oedd yn gorfod cario pwysau'r byd ar ei ysgwyddau.

Yn ogystal â'r Saith Chwaer a'r Twr Sêr ceir enwau eraill arnynt (gw. Geiriadur yr Academi): y Saith Seren Siriol, y Saith Bardd, y Twr Tewdws (neu y Twr Tatws yn Sir Drefaldwyn yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru) a'r Trypser. Os gwyddoch am fwy o enwau na'r uchod am y cytser ac os ydych yn gwybod pa gytser y cyfeirir atynt dan yr enwau 'Caer Eiddionydd' (Geiriadur Prifysgol Cymru) a 'Dolen Teifi' (Welsh Folk Lore & Folk-custom, tud. 15) fe fyddwn yn falch iawn o gael gwybod.

Disgleirdeb y sêr[golygu | golygu cod]

Clyw, Asur! – Dy sêr clysion, - beth ydynt?
Bathodau angylion,
Neu lewyrch oddiar loywon
Lestri aur ym mhlasty'r Iôn. (Alafon)

Yn wahanol iawn i sêr y teledu, y sinema a'r meysydd chwarae, nodwedd amlycaf sêr y nos yw eu bod y mwyafrif ohonynt yn ymddangos yn ddigyfnewid dros amser mor faith. Wel, heblaw am ambell un sy'n amrywio'n gyfnodol yn ei disgleirdeb ac ambell siwpernofa, hynny yw. E'lla y byddai'n decach cymharu enwogion y cyfryngau â sêr gwib. Ac mi ddymunwn yr un diweddiad tanllyd i rai ohonyn nhw hefyd – yn enwedig y petha selebllyd afiach sy'n byw am ddim ond sylw gwirioniaid!

Mae'r miloedd o bwyntiau bychain o oleuni yr ydym ni yn eu hystyried yn sêr yn nhywyllwch y nos yn medru bod yn wahanol iawn eu natur. Soniais eisoes yn y gyfres hon am y sêr symudol, neu'r planedau (Llafar Gwlad 93-94, 95-101), tra bo eraill yn glystyrau serog sy'n edrych fel un (e.e. mae seren y ci, Sirius, yn seren ddwbwl) ac eraill yn alaethau sy'n cynnwys biliynnau o sêr yn araf gylchdroi am ei gilydd.

Gall sêr unigol amrywio yn eu disgleirdeb oherydd eu pellter a'u hoed. Yn naturiol disgwylir i'r rhai pellaf edrych yn llai ond hefyd mae eu hoed neu eu cyflwr yn gallu dylanwadu yn fawr ar eu hymddangosiad. Yn ystod ei bywyd gall seren tua maint ein haul ni newid yn raddol (dros tua 10 biliwn o flynyddoedd) o un fechan goch i un felyn fwy (cyflwr yr haul ar hyn o bryd) i gawr coch, cyn disgyn i mewn iddi ei hun i ffurfio yr hyn a elwir yn gorrach gwyn. Bydd seren fwy yn cynnyddu yn llawer iawn cynt, o fewn cyn lleied a 100 miliwn neu lai o flynyddoedd, i ffurfio cawr coch anferth fydd yn ffrwydro i greu siwpernofa, gan adael ar ei ôl un ai seren niwtron fechan neu, os oedd yn seren fawr iawn, gall greu 'twll du'.

Y Sêr amlycaf[golygu | golygu cod]

Mae rhai sêr amlwg wedi creu digon o argraff i gael eu henwi, un ai ar ôl bodau mytholegol neu am fod iddynt rhyw briodwedd benodol fel arfer. Isod rhestrir rhai o'r sêr amlycaf yn yr awyr ac un neu ddwy o rai eraill sy'n haeddu ein sylw:

  • Aldebaran – y seren fawr oren hon sy'n nodi llygad y tarw yng nghytser y tarw, Taurus. Mae ei henw (o'r Arabeg) yn golygu 'yr un sy'n dilyn' am ei bod fel petae'n dilyn y sosban fach, neu'r Pleiades.
  • Alpha Centauti – y drydedd seren ddisgleiriaf yn yr awyr a'r ail agosaf atom o ran pellter (dim ond 4.37 blwyddyn oleuni oddiwrthym). Gorwedda yng nghytser y Sentawr, yr hanner dyn hanner ceffyl a anafwyd gan Hercules. Oherwydd anfarwoldeb y Sentawr byddai'n sicr o deimlo poen i dragwyddoldeb, felly trugarhaodd Zeus wrtho a gadael iddo farw a'i ddyrchafu i'r sêr. Cyfeirir yn aml ati gan awduron ffuglen wyddonol am ryw reswm, ond rhaid mynd yn o bell i'w gweld – mae'n weddol agos i Groes y De.
  • Altair – seren wen amlwg, a'r ddisgleiriaf yng nghytser yr Eryr sy'n gorwedd ar draws y Llwybr Llaethog rhwng yr Alarch a Saggitarius.
  • Antares – i'r Rhufeiniaid roedd y seren fawr goch hon yn cynrychioli calon y sgorpion yng nghytser Scorpius. Ystyriai'r Persiaid hi yn warchodwr y nefoedd, tra yn Tsieina roedd ei llewyrch coch yn cynrychioli'r tân yng nghalon y ddraig.
  • Arcturus – seren fawr oren a'r bedwaredd fwyaf disglair. I'w chanfod yng nghytser Bootes, y bugail.
  • Bellatrix – yng nghongl uchaf dde yr Heliwr ac yn cynrychioli ei ysgwydd chwith.
  • Betelgeuse – yng nghongl uchaf chwith yr Heliwr, yn cynrychioli ei ysgwydd dde. Mae'n seren gyfnewidiol, gochaidd ei lliw, sy'n cynnyddu a gostwng yn ei disgleirdeb yn sylweddol dros gyfnod o bron 7 mlynedd.
  • Capella – un felen yng nghytser Auriga y gyrrwr chariot. Mae Auriga yn cario gafres ar ei gefn (sef Capella) a dau neu dri mynn gafr ar ei fraich.
  • Galaeth Andromeda – neu gwrthrych M31 o fewn Cytser Andromeda. Dyma un o'r galaethau agosaf atom ac yn debyg iawn ond ychydig bach yn fwy na'n galaeth ni – y llwybr llaethog. Fe'i canfyddwyd gan Edwin Hubble yn 1924 a hi oedd yr alaeth gyntaf i gael ei hadnabod y tu draw i'r llwybr llaethog. Hi hefyd yw un o'r gwrthrychau pellaf sy'n weladwy â llygad noeth.
  • Pollux a Castor – y sêr mwyaf disglair yng nghytser yr Efeilliaid (Gemini), deorwyd Pollux a Castor o ŵy wedi i Leda eu mam gael ei threisio gan Zeus. Aeth yr efeilliaid hefo Jason i gyrchu'r cnu aur ac am iddynt achub y llong Argo rhag suddo mewn storm maent yn cael eu parchu gan forwyr hyd heddiw.
  • Procyon – seren fawr felen hardd sy'n ganolbwynt i'r ci bach, Canis Minor, sy'n dilyn yr Heliwr (Orion).
  • Proxima Centauri – yng nghytser y Sentawr. Nid hon yw'r ddisgleiriaf o bell ffordd, rhaid cael telescôp i'w gweld, ond hi yw'r seren agosaf atom ar ôl yr haul. Gorwedda 4.24 blwyddyn oleuni oddiwrthym yn agos at groes y de.
  • Rigel – un wen, â'i henw'n tarddu o'r Arabeg am droed. Cynrychiola droed chwith yr Heliwr.
  • Seren Bethlehem – mae cryn ddadlau os oedd y fath seren yn bodoli. Nid oes cofnod o gwbwl gan seryddwyr Tsieina, India na Ewrop am ymddanghosiad seren lachar newydd na seren gynffon chwaith 2,000 o flynyddoedd yn ôl fel a ddisgrifir yn y Beibl. Ond, ar gyfnod tybiedig genedigaeth yr Iesu daeth Iau (sy'n cynrychioli bernin) i orgyffwrdd â Sadwrn (yn cynrychioli cyfiawnder) yng nghytser Pisces (yn cynrychioli yr Iddewon). I'r astrolegwyr byddai hyn yn arwyddo genedigaeth brenin fyddai'n dod a chyfiawnder i'r Iddewon ac yn gwireddu proffwydoliaeth o'r Hen Destament (Numeri 24, 17): 'daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel...'. Y dehongliad astrolegol hwn oedd wedi cynhyrfu'r hen Herod mae'n amlwg.
  • Seren y ci (Sirius) – un wreichionllyd ac amryliw, a'r fwyaf disglair o'r sêr i gyd. Byddai ei hymddangosiad uwchben y gorwel yn nodi cychwyn tymor amaethyddol y dwyrain canol. Yng Nghymru gelwir y dyddiau pan ddaw i'w hanterth ganol haf yn 'ddyddiau'r cŵn'.
  • Seren y Gogledd (Polaris) – un o'r sêr mwyaf adnabyddus, yn aros yn ei hunfan tra bo'r sêr eraill yn cylchdroi'n araf rownd y ffurfafen yn ystod y nos. Am ei bod mor sefydlog rhoddodd gyfeiriad i forwyr a theithwyr dros y canrifoedd:
Seren wir deg, llusern ar dŵr – y nen,
Siriola nos gwyliwr:
Mynegfys ar ddyrys ddŵr,
O law angel i longwr. (Morwyllt)
Llusern wyt uwch holl sêr nos – am arwain
Morwyr yn y cyfnos:
Mirain dy liw, morwyn dlos
Yn nôr y Pwnc yn aros. (Carnelian)

Un o enwau eraill seren y gogledd yw "seren y morwyr".

  • Spica – seren wen ddisglair yn cynrychioli ysgyb o wenith yn llaw y Forwyn (Virgo)
  • Vega – seren las ddisglair iawn yng nghongl uchaf y gytser fechan Lyra neu'r 'delyn'. Rhoddwyd y delyn gan Apollo i'w fab Orpheus a oedd yn ei chanu mor hyfryd nes y cawsai anifeiliaid gwylltion eu swyno.

Bodau ar blanedau eraill[golygu | golygu cod]

Y cwestiwn ydi, oes 'na fywyd allan yn fan'cw – y tu draw i amlen warchodol y ddaear? Mae pobol wedi credu bod bodau byw allan yna yn rhywle ers erioed am w'n i. Cyn gynhared a'r 4ydd ganrif CC, roedd y Groegwr Democritus yn ystyried y posibilrwydd o fywyd arallfydol. Cynnigiodd Lucretius yn ei De Reum Natura, yn 60CC, mai seren oedd yr haul ac os oedd planedau yn mynd o amgylch y sêr eraill, yna byddai bywydd yn gyffredin drwy'r bydysawd. Roedd ymhell o flaen ei oes.

Cododd y syniad hwn eto yn y Canol Oesoedd. Ond am iddo gynnig y syniad hereticaidd bod daearau eraill yn amgylchynnu'r sêr, a bod ar rai ohonynt ddiwylliannau oedd â'u fersiynnau eu hunnain o'r Iesu, cafodd Giordano Bruno ei gondemnio gan yr Eglwys a'i losgi ar y stanc yn Rhufain yn 1600.

Yn raddol drwy'r 17eg a'r 18fed ganrif daeth y syniad hwn yn un llai peryglus ac enillodd ei blwy ymysg gwyddonwyr y cyfnod. Erbyn y 19eg ganrif gallwn godi trywydd y drafodaeth Gymraeg oedd yn ymwneud â hyn yn Y Gwladgarwr, 8, Awst 9fed (1833), tud. 231, lle trafodir syniadau Thomas Dick ynghylch 'trigianolrwydd' y lleuad, h.y. y posibilrwydd bod pobl yn byw neu drigo yno. Cyfieithwyd amryw o lyfrau Dick i'r Gymraeg yn ystod y 19eg ganrif. Dyma ddetholion o'i sylwadau ar y mater:

“...y mae yn ymddangos na ddarfu iddo (y Creawdwr) adael unrhyw ran helaeth o'r greadigaeth sylweddol heb fodau byw...” (Yr Anianydd Cristnogol, cyfieithiad Thomas Jones, Amlwch (1842), tud. 144).

Am blanedau'r haul dywed na ystyriai bod cyflwr yr un o'r cyrff yn y “dosbarth heulog...yn eu hanghymhwyso yn drigfannau i fodau deallus teimladwy” (ibid.)

Yn ei Anianyddiaeth Sefyllfa Ddyfodol (cyfieithiad Richard Parry (1848), tud. 19) dywed bod “...y cyrph hyn (y planedau) wedi eu hamcanu gan y Creawdwr fod yn breswylfeydd creaduriaid deallgar, sydd yn cyfranogi o'i haelfrydedd, ac yn dychwelyd eu teyrnged o addoliad a mawl iddo”. Dyma'r union syniad y llosgwyd Giordano Bruno amdano yn 1600!

Mae hydnoed yn amcanu poblogaeth y lleuad: “Y mae arwynebedd y lloer yn cynnwys tua 15 miliwn o filldiroedd ysgwar, ac a gynhwysai boblogaeth gydradd gyfartal â'n daear ni, a chaniatau 53 o drigolion i bob milldir ysgwar. Y mae yn rhesymol i dybied ei bod yn cael ei chyfaneddu gan greaduriaid dealltwrus.” (Yr Anianydd Cristnogol (1842), tud.144).

Pa fath o fodau?[golygu | golygu cod]

Cyndyn iawn oedd neb i gynnig pa fathau o fodau gofodol oedd allan yna. Ond pan welodd Giovanni Schaparelli o'r Eidal batrymau ar wyneb Mawrth yn 1877, a ddehonglwyd fel camlesi (Llafar Gwlad, 96 (2007), tud. 24), dechreuodd dychymyg pobl danio. Cyhoeddodd nofelwyr bob mathau o anturiaethau ffug-wyddonol, e.e. Percy Gregg: Across the Zodiac (1890) yn disgrifio taith mewn llong ofod i ymweld â'r planedau, yn cynnwys y Fawrth boblog; HG Wells: War of the Worlds (1898) a The First Men on the Moon (1901). O'r 1920au hwyr daeth cylchgronnau a ffuglen wyddonol i werthu yn eu cannoedd o filoedd a dynion bach gwyrdd cas, efo cyrn malwen ar eu pennau, yn eiconau poblogaidd mewn comics, fel yr oedd ffilmiau byrrion Fflash Gordon yn sinemâu'r cyfnod. Erbyn y 1960au daeth bri enfawr ar llyfrau clawr meddal SF a pharhaodd y ffasiwn o ddelweddu arallfydolion hyd ein dyddiau ni – wele boblogrwydd, cyfresi Dr Who a Star Treck ar y teledu a ffilmiau fel ET, Star Wars ac Avatar.

Oes 'na bobol.....?[golygu | golygu cod]

Ond be ydi'r siawns go iawn bod bywyd yn y gofod? Yn 1961 mewn cynhadledd enwog ar y pwnc yn Green Bank, West Virginia, cyhoeddodd y seryddwr Americanaidd Frank Drake fformiwla fathemategol oedd yn ceisio amcannu'r siawns bod rhyw ddiwylliant arallfydol o fewn ein galaeth, ar hyn o bryd, yn ceisio cysylltu â ni. Rhywbeth fel hyn oedd y fformiwla:

N (y nifer sy'n ceisio cysylltu) = R x P x E x L x I x T

Anodd yw rhoi ffigyrau dibynadwy i'r llythrennau hyn. Mae rhai yn haws na'i gilydd, e.e. R = nifer y sêr yn ein galaeth (200 biliwn); P = cyfartaledd y sêr sydd â phlanedau (tua 30%); E = nifer y planedau hyn sy'n addas i fywyd (10 – 20%?); L = y cyfartaledd o'r planedau hyn ddatblygodd fywyd (?); I = y cyfartaledd o'r rhain ddatblygodd fywyd ddigon deallusol i fedru cyfathrebu â ni ar draws y gofod (isel iawn) a T = faint o amser fydd y gwareiddiadau hyn yn parhau i yrru eu signalau ( 5 – 10,00 o flynyddoedd? Tybed faint wnawn NI barhau cyn dinistrio ein hunnain?!). Dros y blynyddoedd bu gwyddonwyr yn ceisio datrys y pôs ac yn cael amcanion sy'n amrywio o ddim mwy nag un (sef ni yn unig), i rai degau o filoedd.

Ar y llaw arall, os gadawn ni 'I' a 'T' allan o'r fformiwla ac ystyried 'N' fel y nifer o blanedau â bywyd o unrhyw fath arnynt mae'r swm yn cynnyddu i filiynnau lawer. Wedi'r cyfan, bychan yw'r siawns o ddatblygu technoleg soffistigedig. Meddyliwch, ar y ar y ddaear hon, dim ond un (ni) o'r cannoedd o filiynnau o rywogaethau fu arni erioed a lwyddodd i wneud hynny. Oni ddylsem werthfawrogi mai bywyd er ei fwyn ei hun sy'n bwysig, be bynnag yw ei lefel, ac nid rhyw ddiffiniad cul ac annheg ohono sy'n adlewyrchu ein delwedd ddyn-ganolig ni? Mewn gwirionedd, o ystyried ein hymddygiad ni tuag at greaduriaid eraill, efallai mai y peth diwetha y dylsai unrhyw greadur deallus o'r gofod ei wneud fyddai cysylltu â ni!

Chwilio am y DBG[golygu | golygu cod]

Mae'r ymgeisiadau i ganfod a chysylltu â'r 'dynion bach gwyrdd' yn mynd yn ôl bron ddwy ganrif o leia. Yn 1826, cynnigiodd yr Almaenwr Karl Gauss ddull o yrru neges i'r lleuad, sef drwy agor ffosydd hirion ar ffurf patrymau yn y Sahara, eu llenwi â kerosene, a'u tanio. Ai cymhelliad tebyg oedd y tu ôl i greu'r patrymau enfawr yn anialwch Nazca, Periw a welir ddim ond o'r entrychion, neu hydnoed o'r gofod? Ond ceisio tynnu sylw y duwiau oedd y rheiny mae'n debyg.

Bu sawl achos o gamddehongli signalau tybiedig o'r gofod. Yn 1921 bu cryn stŵr pan gyhoeddodd yr arloeswr radio Marconi (fu'n cynnal llawer o'i arbrofion yng Nghymru) ei fod wedi dod ar draws tonfeddi radio anarferol – ac mai o Fawrth yr oeddent yn tarddu. Edrychai ymlaen i ddehongli eu hystyron a sefydlu cysylltiad radio rhwng y ddwy blaned. Ond interffirans naturiol oedden nhw!

Does ond angen crybwyll yr holl gofnodion o soreri ehedog neu UFOs ddaeth yn ffasiwn o'r 1930au ac a ddaethant i'w hanterth yn y 1960au – 70au. Ond wrth i dechnoleg a'n dealltwriaeth wella mae nifer y ffenomenâu anesboniadwy roddodd goel i UFOs wedi lleihau erbyn hyn. O leia, y dyddiau hyn, mae rhywun yn fwy tueddol o feddwl pa ffenomenon naturiol sy'n gyfrifol yn hytrach na neidio i'r casgliad mai DBG sy' yna!

Cafwyd achos difyr o hynny yn 1967 pan ddarganfu seryddwyr yn America donfeddi anarferol o'r gofod pell oedd yn newid yn gyflym a rheolaidd. Fe'u bedyddiwyd yn signalau LGM (little green men) cyn canfod yn ddiweddarach mai sêr-radio dwys iawn yn troelli'n gyflym oedd yr achos. Pylsar neu pylseren yw'r enw arnynt erbyn hyn.

Oes na rywun...neu rywbeth?[golygu | golygu cod]

Dyma'r cwestiwn mawr ynde? Mae maes ecsobioleg (bioleg y gofod) yn wyddor arbennig iawn – yr unig wyddor na chafwyd DIM BYD materol (neu ddim yn y byd), eto, i'w astudio! Ni all fod yn fwy na gwyddor ddamcaniaethol ar hyn o bryd.

Ond mae gwyddonwyr yn dal yn hyderus y canfyddwn fywyd allan acw rhyw ddydd. Mae bywyd yn beth gwydn iawn. Ar ein daear ni fe'i canfyddir mewn llefydd rhyfeddol o anffafriol – eithafion o wres ac oerni; mewn cemegau cryfion; dan bwysedd eithafol yng ngwaelod y dyfnfor ac nid oes angen ocsigen i rai organebau chwaith – gallant gael eu hegni o adweithion cemegol amrywiol iawn.

Mae bywyd ar ein daear ni yn eithriadol o amrywiol, ond tybed be allwn ddisgwyl ar blaned arall sy'n llawn bywyd. A fydd yr un raddfa o amrywiaeth a'r un math o reolau ecolegol yn weithredol? Fydd yna wryw a benyw? Fydd synhwyrau tebyg neu wahanol gan... beth bynnag?

Mae 'na stori bod yr Ewropeaid cynta i weld cangarŵ wedi gwrthod yn lan a derbyn bod y fath greadur yn bod. Tybed a fydd rhyw ddaearolyn yn teimlo'r un anghrediniaeth ar blaned bell yn y dyfodol? Yn y cyfamser, gadawer rhwydd hynt i'r dychymyg – mae hynny cystal a dim a bron cymaint o hwyl.