Defnyddiwr:Twm Elias/Amffibiaid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Llên Gwerin Byd Natur

Rhif 26 – Yr Amffibiaid

gan Twm Elias

Nifer gymharol fechan o wahanol amffibiaid sy' gennym yng Nghymru, ond er cyn lleied eu nifer gadawsant argraff fawr ar ein llên gwerin. Madfall y dŵr – ceir tair math: y fadfall ddŵr balfog, y gyffredin (neu 'lefn') a'r gribog. 'Doedd y werin ddim yn trafferthu i wahaniaethu rhyngthynt a chyfeirir atynt yn y gogledd fel genaugoeg y dŵr, genau dŵr (Caernarfon), galapi wirion dŵr (Môn), cennau pry gwirion dŵr (Arfon) ac yn y de: madfall y dŵr neu mablath y dŵr[1]. Mae'r enwau hyn yn cyfateb i'r amrywiol enwau lleol am y madfall (lizzard), gyda 'y dŵr' yn dangos mai mathau o newt sydd dan sylw.

Credid, os ceir madfall y dŵr mewn ffynnon bod y dŵr hwnnw yn iach ac yn lân. Erbyn heddiw mae sawl un a feddyliodd am ddatblygu darn o dir yn ystyried bod canfod madfall ddŵr gribog mewn pwll ar y safle yn anlwc o'r mwyaf! Gwarchodir y creadur a'i gynefin dan y gyfraith 'dach chi'n gweld, olyga un ai costau mawr i adleoli'r madfallod, neu roi'r gorau i'r cynllun yn gyfangwbwl.

Yn Iwerddon credir bod gan rywun a lyfodd fadfall y dŵr y gallu i wella anaf llosg ar gorff rhywun drwy lyfu'r rhan losgedig.

Enwau'r Llyffant / broga[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cymysgedd mawr rhwng yr enwau llyffant a broga rhwng de a gogledd Cymru. Yn y gogledd, llyffant neu lyffant melyn yw frog, ond broga ddywedir yn y de. Ond mewn rhannau o'r gogledd broga yw toad, tra mai llyffant, neu llyffan yw hwnnw yn y de. Ceir nifer o amrywiaethau lleol yn y gogledd ar y toad, yn cynnwys: llyffant du, llyffant dafadennog, llyffant dudennog (Cerrig y Drudion), llyffant rhydyfennog (Llŷn) a Llyffant cerrig (Nefyn).

Achosodd hyn gryn benbleth i'r panel sefydlwyd i safoni enwau creaduriaid ar ran Cymdeithas Edward Llwyd yn y 1980au. Wedi hir ddadlau dewiswyd llyffant dafadennog fel yr enw safonol ar y toad am fod yr elfen llyffant i'w gael dros rannau helaeth o'r gogledd yn ogystal a thrwy'r de a bod dafadennog yn ddisgrifiadol iawn o'r creadur ei hun. Ond methwyd yn llwyr a chael cytundeb yn achos y frog am fod pawb i'r gogledd o'r Afon Dyfi yn ei alw'n llyffant a phawb i'r de o'r afon yn dweud broga. I osgoi ffrae waedlyd penderfynwyd cydnabod bod iddo ei hawl i ddau enw swyddogol, sef broga a llyffant melyn, sy'n ddigon teg – tra bod pawb yn deall ei gilydd! Cafwyd un enw gwahanol i'r frog yng Nghwm Tawe, sef ffroca, sy'n gyfuniad mae'n debyg o frog a broga[2]. Llyffant melyn / broga – credir, fel yn achos madfall y dŵr, bod grifft neu benbyliaid mewn ffynnon yn arwydd bod y dŵr yn lân a iach. Ond peidiwch, da chi, a llyncu penbwl neu bydd llyffant/broga yn tyfu yn eich bol a'ch gwneud yn sal. Ar un adeg priodolid y dwymyn (malaria) effeithiai ar bobl yn ardal Cors Fochno i lyncu penbwl. [3] Ceir stori o Ddinbych am wraig wael yn mynd at Dr Price, oedd yn ŵr hysbys. Be wnaeth o oedd ei llwgu hi a hynny yn arogl bwyd. Yn y diwedd dechreuodd y wraig chwydu, a daeth llyffant i fyny.[4]

Os yw llyffant melyn / broga yn dodwy grifft ynghanol y pwll gallwn ddisgwyl tywydd sych. Ond os y dodwa ar yr ymyl gallwn ddisgwyl tywydd gwlyb. Coel dywydd arall yw fod lliw y creadur yn arwydd o'r tywydd. Sail hyn yw bod lliw y croen yn ymateb i lefel golau'r haul ac yn newid yn raddol i greu cuddliw iddo. Hynny yw, mae'n melynnu ar dywydd heulog ac yn tywyllu ar dywydd glawog. Dyma sail dywediadau megis: 'Llyffant melyn dan yr ŷd, braf yfory ar ei hyd' (4) neu 'Po melynaf fyddai y broga, goreu i gyd fydd y cynhaeaf'.[5] Ond ymateb i'r tywydd sy'n bod wna'r creadur yn hytrach na'i broffwydo, fel y gwelwn yn y stori ganlynnol:

Ar fferm Gwernhefin, Llanuwchllyn un tro roedd y gwas wedi gadael y gwair heb ei gario a hithau wedi dwad yn law trwm. Ei esgus i'r meistr oedd bod y llyffant yn felyn iawn. Ateb y meistr oedd “John bach, dwi'n disgw'l i ti gael chydig mwy yn dy ben na LLYFFANT!”        Y goel hon am berthynas lliw y llyffant melyn â'r tywydd roddodd inni'r enwau llyffant gwair (Dyffryn Nantlle) a llyffant medelwr (Dyffryn Conwy).Gwall cyfeirio: </ref> clo yn eisiau ar gyfer y tag <ref>; tud. 140.</ref>

Ceir cofnodion o lyffantod melyn yn cael eu defnyddio mewn swynion. Er enghraifft, yn y canolbarth, merch oedd eisiau i ŵr ifanc yr oedd wedi ei ffansïo i alw heibio yn yngan geiriau hudol a sticio pinnau i gorff llyffant druan cyn ei gaethiwo dan fowlen. Ac yn wir i chi, pwy alwodd heibio gyda'r nos honno ond y bachgen.[6] Rhyddhawyd y llyffant yn ddiweddarach ond ni ddywedwyd os dihangodd y bachgen. Gall y llyffant melyn ddod â lwc dda: 'Os digwyddid i ni weled broga melyn yn croesi ein llwybr ar ein taith gyntaf yn y boreu, arwyddai hynny y llwyddem yn yr hyn oedd gennym mewn llaw'.[7]

Llyffant dafadennog – mae cryn dipyn mwy o ofergoeliaeth am y creadur hwn oherwydd iddo gael ei gysylltu â gwrachod. Roedd gan pob gwrach gwerth ei halen lyffant dafadennog dof fyddai'n “Gyfarwydd” (cyfrwng i swynion) a gallai'r wrach droi ei hun yn lyffant pe dymunai. Gallai'r creadur roi i'r wrach rym y “llygad ddrwg” felltithiol.

Credid hefyd bod perl mewn pen llyffant dafadennog ac y byddai gan y berl honno rym i greu swynion ac i iachau effaith gwenwyn. Dywedwn “mae perl mewn pen llyffant” heddiw am rywun yn cael ysbrydoliaeth annisgwyl.

Llun: Tynnu perl o ben llyffant (Llun: 'Ortus Sanitatis' (1483))

Un o nodweddion amlycaf y creadur yw'r chwarennau neu'r dafadennau sy'n gorchuddio ei gorff. Pwrpas y rhain yw amddiffyn y creadur rhag cael ei fwyta gan gi neu anifail rheibus arall am eu bod yn llawn hylif gwenwynllyd a chwerw. Un o gyfansoddion yr hylif yw'r cyffur buffotin (sy'n tarddu o Bufo, sef enw gwyddonol y creadur).

Mae i buffotin briodolweddau fyddai'n bwysig iawn i wrachod ar Nos Glan Gaeaf[8]. Hynny yw, yr offeiriadesau ddilynnai yr hen grefydd cyn-Gristnogol ac a gymerai ran yn y defodau ffrwythlondeb o gwmpas y goelcerth. Roedd hon yn un o'r dair 'ysbrydnos', pryd yr agorai'r porth rhwng ein byd ni a'r arall-fyd fel y gallai'r offeiriadesau gysylltu â bodau o'r byd hwnnw i ofyn ffafriau ar ein rhan ac ar ran y llwyth – llwyddiant i'r cnydau, ffrwythlondeb, iechyd i'r anifeiliaid a'r bobl, llwyddiant mewn rhyfel a gosod neu ddadwneud melltithion.

I fynd i ysbryd y darn yn rhyddm y ddawns a'r ddefod byddai'r wrach yn iro'i chorff noeth efo eli arbennig – eli hedfan – oedd yn cynnwys dau gyffur grymus. Deuai un o'r madarch coch gwynfannog fyddai'n creu rhithweledigaethau byw iawn o'r bodau goruwchnaturiol y byddai'r wrach am gysylltu â nhw, a'r llall fyddai bwffotin fyddai'n lled-anesthateiddio'r corff a chreu'r ymdeimlad o hedfan. Dyma darddiad ein delwedd o wrachod yn hedfan ar ysgubau ar Nos Glan Gaeaf. Mi adawa'i beth yw ystyr yr ysgub i'ch dychymyg – ond cofiwch am y wrach yn marchogi'r ysgyb yn noeth ac mai defod ffrwythlondeb oedd hi.

Sylwch ar y cyswllt rhwng y madarch hudol a'r llyffant dafadennog yn eli hedfan y wrach. Ai hyn sy'n cyfri bod 'caws llyffant' yn enw am yr hyn ystyrrir yn ffyngau anfwytadwy neu wenwynig?

Dim rhyfedd bod coelion niferus am y llyffant dafadennog, e.e. 'Nid da gan neb weld y llyffan yn agos i'r tŷ. Nid oes iddo barch fel sydd i'r broga. Daw y llyffan i'r gwely i rifo dannedd plant a ddywedent anwiredd'[9]. Coel gyffredin yn y gogledd yw y dylsech guddio'ch ceg â'ch llaw os gwelwch lyffant dafadennog neu bydd eich dannedd yn troi'n ddu neu yn bren. Yn Nefyn rhybuddid plant i gadw o'r gors rhag iddyn nhw ddod ar draws 'Nansi dannedd'. Yng Nghaeathro ger Caernarfon os gwelid corff y creadur byddai plant yn poeri ar lawr i atal eu dannedd rhag troi'n bren, neu troi'n briciau yng Nghaernarfon.

Y llyffant blwydd yn lladd y dyflwydd

Dyma ddywediad cyffredin sy'n cyfeirio at yr hyn welir yn y pyllau ym mis Chwefror/Mawrth pan ddaw heidiau o lyffantod neu frogaod at ei gilydd i gydmaru. Digwydda hynny ar noson fwll, dynner, pan fydd glaw mân ac a elwir y 'dywydd grifft'. Bydd y rhai gwryw bychain yn cystadlu'n frwd am y fraint o ddringo ar gefn y fenyw fawr i sicrhau'r lle gorau i fwrw'u had dros yr wyau fel mae'r fenyw yn eu dodwy i'r dŵr a chyn i'r jeli grifft chwyddo. Bydd y gystadleuaeth mor ffyrnig rhwng nifer fawr o'r rhai gyrfod bach, gyda'r cryfaf yn gafael yn dyn am wddw'r fenyw fawr, nes bydd ambell fenyw yn cael ei thagu i farwolaeth hydnoed. Ceir esboniad difyr am yr hyn ddigwyddai, sef brwydr rhwng y llyffantod blwydd, llai o faint, a'r rhai dyflwydd mwy. Esboniad cyfeiliornus efallai, ond yn osgoi i bobl Capel orfod esbonio i'r plant mai 'orji' o gyfathrach rhywiol oedd yn digwydd.

Daeth yn ddywediad bod y llyffant blwydd yn lladd y dyflwydd. Cafodd sawl glaslanc anystywallt ei alw yn, “y llyffant blwydd diawl!”   

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dosbarthiad Enwau Creaduriaid: Llyffant/Broga a Genau goeg/Madfall, Twm Elias (1984), Y Naturiaethwr, Cyfres 1, rhif 11, tud.9
  2. Dosbarthiad Enwau Creaduriaid: Llyffant/Broga a Genau goeg/Madfall, Twm Elias (1984), Y Naturiaethwr, Cyfres 1, rhif 11, tud.9
  3. Welsh Folklore and Folk-Customs, T Gwynn Jones (1930), tud. 134
  4. Welsh Folklore and Folk-Customs, T Gwynn Jones (1930), tud. 134
  5. Casgliad o Lên Gwerin Meirion, W Davies, Traf. Eisteddfod Gen. Blaenau Ffestiniog 1898.
  6. WeIsh Folk-lore, Parch. Elias Owen (1888), tud. 281.
  7. Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, Parch. D G Williams, Cyf. Eisteddfod Gen. Llanelli 1895.
  8. Llên Gwerin a Byd Natur 25, Twm Elias (2016), Llafar Gwlad 134, tud. 14.
  9. Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, tud. 69.