Defnyddiwr:Merchymachlyd/Pwll Tywod

Oddi ar Wicipedia

MENTER IAITH MALDWYN

[[1]]

Merchymachlyd/Pwll Tywod


Pwy yden ni?[golygu | golygu cod]

Mudiad cymunedol, lleol yw Menter Iaith Maldwyn – un o 22 Menter Iaith sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae’r Fenter yn sefydliad byrlymus, sy’n gweithio gyda phobl o bob oed ar draws Maldwyn. Ein hanfod yw rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ynghyd â chynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg.

Be’ allwn ni ei gynnig i…[golygu | golygu cod]

DEULUOEDD[golygu | golygu cod]

– Gweithgareddau a gweithdai i hybu defnydd o’r iaith Gymraeg – Cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol – Cyngor i rieni ar fagu plant yn ddwyieithog – Cyngor am addysg Gymraeg – Cyngor a gwybodaeth i unigolion sydd yn / am ddysgu Cymraeg

BLANT A PHOBL IFANC?[golygu | golygu cod]

Mae Menter Maldwyn yn cyd-weithio a phartneriaid i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith Gymraeg tu allan i’r dosbarth trwy drefnu a rhedeg gwahanol weithgareddau, gweithdai a chlybiau ieuenctid. Rydym hefyd yn cyd-weithio gyda’r ysgolion lleol i gynnig prosiectau a phrofiadau i hybu defnydd o’r iaith o fewn a thu allan i’r ysgol.

GYMUNEDAU?[golygu | golygu cod]

Mae Menter Iaith Maldwyn yn cyd-weithio’n agos gyda mudiadau a phwyllgorau lleol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn Sir Drefaldwyn. – Fforwm Iaith Maldwyn – Mudiad Meithrin – Twf – Yr Urdd – CFFI / YFC – Ysgolion Cynradd ac Uwchradd – Cymdeithas Adloniant Tanat – Cymdeithas Adloniant Llanfair Caereinion – Cymdeithas Gymreig Caersws – Merched y Wawr – Coleg Powys – Papurau Bro Maldwyn: Yr Ysgub, Plu’r Gwenydd, Seren Hafren, Blewyn Glas Gall Menter Maldwyn gynnig y gwasanaethau canlynol: – Cyfieithu / offer cyfieithu ar y pryd i fudiadau a grwpiau cymunedol – System sain sy’n addas i gyfarfodydd, Gigs a chyngherddau bach – Cyngor a chymorth i gynnig gwasanaethau dwyieithog ac ehangu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich mudiad Mae Menter Iaith Maldwyn yn awyddus i gydweithio efo grwpiau cymunedol, clybiau ieuenctid a busnesau i hyrwyddo’r Gymraeg yn Sir Drefaldwyn. [[2]]