Defnyddiwr:Dan awyren/Hellraiser (ffilm 2022)

Oddi ar Wicipedia

Hellraiser yw ffilm arswyd goruwchnaturiol Americanaidd 2022 a chyfarwyddwyd gan David Bruckner, efo sgript gan Ben Collins a Luke Piotrowvski o stori sgrin cyd-ysgrifennon nhw gyda David S. Goyer. Ail addasiad o'r nofela 1986 The Hellbound Heart gan Clive Barker, a weithredwyd fel sail ei ffilm 1987 Hellraiser, mae'n ailddechreuad o'r fasnachfraint teitl a'r unfed ar ddeg rhandaliad yn y cyfan. Cydweithrediad rhwng Spyglass Media Group a Phantom Four Films, ser y ffilm ydy Odessa A'zion, Jamie Clayton, Brandon Flynn, Goran Višnjić, Drew Starkey, Adam Faison, Aoife Hinds, Selina Lo and Hiam Abbass.

Dechreuodd planiau ar gyfer ail-greuad Hellraiser yn Hydref 2007, efo Alexandre Bustillo a Julien Maury wedi'u gadarnhau fel cyfarwyddwyr y prosiect, efo Barker yn cynhyrchu, a Marcus Dunstan a Patrick Melton yn ysgrifennu'r sgript. Ar ôl i Maury a Bustillo gadael y prosiect, cyhoeddodd Dimension Films bydd Todd Farmer a Patrick Lussier yn cymrud ymlaen y prosiect, gyda chynhyrchiad yn paratoi ar gyfer rhyddhad yn gynnar 2012. Er hyn, yn dilyn rhyddhad Hellraiser: Revelations er mwyn sicrhau hawliau, cadarnhaodd Farmer nid oedd ef neu Lussier yn ymwneud a'r prosiect rhagor. Erbyn 2018, ar ôl llwyddiant critigol Halloween, cadarnhaodd Miramax Films bod planiau ar gyfer rhandaliad newydd Hellraiser, gan gynnwys prequel a phennod newydd i'r gyfres. Cafodd y ffilm ei green-lit yn 2019 cynnar, efo Bruckner yn cyfarwyddo o sgript ysgrifennwyd gan Collins a Piotrowski. Wnaeth ffilmio cymryd lle rhwng Medi i Hydref 2021.

Cafodd Hellraiser ei premiere byd yn Fantastic Fest ar y 28ain o Fedi, 2022, a chafodd ei rhyddhau gan Disney Platform Distribution ar ei phlatfform ffrydio Hulu yn unig fel ffilm wreiddiol Hulu ar y 7fed o Hydref.

Plot[golygu | golygu cod]

Yn ystod parti yn blasdy miliwnydd hedonistaidd Roland Voight yn Massachussetts, mae gweithwr-rhyw Joey yn dod ar draws bocs pos mecanyddol a Voight ei hun. Mae Voight yn mynnu ei fod yn ei ddatrys er mwyn ennill "gwobr". Mae Joey yn datrys y ffurfwedd ac yn cael ei drywanu gan lafr cudd tu mewn i'r bocs.

Mae'r bocs yn agor porth i'r Uffern, o le mae cadwyni yn hedfan allan ac yn ei fachu e, wrth i Voight galw am gynulleidfa gyda Lefiathan. [[Categori:Ffilm Saesneg yn yr Unol Daleithiau]] [[Categori:Ffilmiau'n seiliedig ar lyfr o'r Deyrnas Gyfunol]] [[Categori:Ffilmiau arswyd]]