Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Gwrthwynebiad i'r Natsïaid

Oddi ar Wicipedia
  • Grwpiau'r gwrthwynebiad heb gyfuno neu gydweithio
  • dim hyd yn oed undeb o fewn yr eglwysi
  • yn ôl adroddiadau'r Gestapo, roedd y sosialwyr yn newid tactegau (o wrthwynebiad ysgrifenedig i lafar), ac roedd y Comiwnyddion yn fwy o fygythiad na'r Sosialwyr

Yr adain chwith[golygu | golygu cod]

Y Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd (SPD)[golygu | golygu cod]

  • 1 miliwn o aelodau, 5 miliwn o bleidleiswyr ar ddechrau 1933
  • pleidleisio'n erbyn y Ddeddf Alluogi
  • diddymu'r blaid gan y Natsïaid yn haf 1933
  • arweinwyr y blaid yn ffoi i Lundain, Paris, a Phrâg
  • ar ôl 1933: sefydlu system soffistigedig danddaearol
  • y grŵp Siocfilwyr Cochion (Red Shock Troop - Alm.?): 3000 o aelodau erbyn diwedd 1933, myfyrwyr yn bennaf, cyhoeddi papur newydd. Erbyn diwedd 1933, arweinwyr y Siocfilwyr wed'u harestio gan y Gestapo a'u danfon i'r gwersylloedd crynhoi
  • arweinwyr wnaeth ffoi yn anfon arian
  • dosbarthu'r papur newydd sosialaidd (Socialist Action - Alm.?) o amgylch Berlin
  • mwy o arweinwyr yn cael eu harestio gan y Gestapo
  • adroddiadau SOPAD: ar ôl 1939, yr SPD yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am y farn gyhoeddus ynglŷn â'r Natsïaid
  • sefydlu'r grŵp Dechreuad Newydd (New Beginning - Alm.?), yn dymuno cyfuno ideolegau'r comiwnyddion a'r sosialwyr. Erbyn 1935 cafodd y mwyafrif o'r arweinwyr eu harestio.

Y Blaid Gomiwnyddol (KPD)[golygu | golygu cod]

  • Tân y Reichstaf → anghyfreithloni gweithgareddau'r Comiwnyddion, felly bu'n rhai iddynt ymgyrchu yn danddaearol.
  • 1933-39: 150,000 mewn gwersylloedd crynhoi, 30,000 wedi'u lladd
  • 1933-35: 36,000 o aelodau (10% ohonynt) yn weithredol yn y cudd-wrthwynebiad (underground resistance)
  • dan oruchwyliaeth y Gestapo: targedu'r Comiwnyddion mwy nag unrhyw grŵp arall oherwydd y bygythiad o gomiwnyddiaeth fel grym rhyngwladol
  • dosbarthu papurau a phamffledi gwrth-Natsïaidd mewn gweithleoedd a neuaddau cwrw
  • Rote Fahne ("Y Faner Goch") oedd y prif bapur newydd
  • llên y Comiwnyddion yn canolbwyntio ar weithredoedd treisgar y blaid (yr SA a'r SS) yn erbyn y dosbarth gweithiol
  • 1.2 miliwn o bamffledi wedi'u cymryd gan y Gestapo yn 1934; 1.67 miliwn yn 1935
  • anodd i weithredu'r rhwydwaith tanddaearol
    • 1934: 14,000 wedi eu harestio gan y Gestapo
    • 1938: 3800 yn cael eu harestio - yr ymgyrch yn lleihau
  • 1941: trobwynt Ymgyrch Barbarossa - gwrthwynebiad yn atgyfodi
  • ymgyrch yn cynyddu: 62 o bamffledi'n cael eu cymryd gan y Gestapo yn Ionawr 1941 i 10,227 yn Hydref 1941
  • nifer o fudiadau yn dod i'r amlwg - Grŵp Uhrig, Ffrynt Gartref, Cerddorfa Goch, Grŵp Baum - ond heb gyswllt i'r KPD
  • rhai'n credu dylai'r comiwnyddion a'r sosialwyr wedi uno neu gyd-gysylltu i ddod yn fwy pwerus
  • Sopade
    • trefniadaeth alltud o'r KPD - rheoli o Brâg, 33-38; Paris, 38-45
    • creu adroddiadau ar faterion y Natsïaid, e.e. ar ôl Noson y Cyllyll Hirion
    • cydnabod bod gan Hitler gefnogaeth y mwyafrif, ond dal yn pwysleisio'r gwrthwynebiad
    • dim arweiniad
    • cydnabod bod y gwrthwynebiad yn ansicr - dim llawer o gynlluniau hirdymor
    • dweud mae'r Natsïaid mor gryf oherwydd mae'r gwrthwynebiad mor wan

Yr adain dde a'r lluoedd arfog[golygu | golygu cod]

Grŵp Beck-Goerdeler[golygu | golygu cod]

  • Goerdeler
    • wedi cydweithio â'r Natsïaid nes 1935
    • anghytuno â'r syniad o genedl bur: ymladd yn y Reichstag dros hawliau'r Iddewon
    • rhan o grŵp bach o lywodraethwyr oedd yn gwrthwynebu polisïau Hitler
  • teithio i Ffrainc, UDA, y DU, a Chanada ac yn rhybuddio pobl yn erbyn polisi economaidd (peryglus, yn ei farn ef) yr Almaen Natsïaidd
  • Beck
    • cadfridog a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
    • dim yn hoff i Hitler - Hitler yn gwneud i'r fyddin ufuddhau i'r Natsïaid ac yn cynllunio rhyfel o goncwest
    • ymddiswyddo yn 1938 - dim dylanwad rhagor mewn materion milwrol yr Almaen, colli ei statws a mynediad i wybodaeth
  • Beck yn ynysig - cwrdd â Goerdeler a von Hassell, dechrau cynlluniau i ladd Hitler gyda bom
  • y grŵp yma oedd tu ôl i'r Cynllwyn Bom
  • roedd potensial gan y rhein i wneud rhywbeth mawr

Cylch Kreisau[golygu | golygu cod]

  • y Cownt Helmuth von Moltke yn arweinydd - dechrau yn 1943
  • credu bod Hitler yn dinistrio'r genedl mewn ymgais i dra-arglwyddiaeth fyd-eang
  • creu cynllun er mwyn gwella trefn gymdeithasol am bobl yr Almaen yn seiliedig ar egwyddor Gristnogol
  • dymuniad am ryddid yn eu huno
  • 20 Gorffennaf 1944: cynllwyn i ddymchwel Hitler
  • Gestapo'n eu harchwilio ac yn lladd yr arweinwyr

Abwehr[golygu | golygu cod]

  • sefydliad gwybodaeth milwrol yr Almaen o 1866 i 1944
  • rhan o'r Swyddfa Dramor
  • gwrth-ysbïaeth, ysbïaeth, a difethwyr bwriadol (saboteurs): tair adran yr Abwehr
  • dan arweiniad Wilhelm Canaris gyda Hans Oster
  • gweithio'n erbyn peiriant braw yr SS
  • trosglwyddo gwybodaeth i'r Cynghreiriaid trwy Beck-Goerdeler
  • Oster yn un o'r rhai cyntaf i gael eu harestio yn 1944
  • arestio Canaris fel rhan o'r Cynllwyn Bom

Y Cynllwyn Bom[golygu | golygu cod]

  • 20 Gorffennaf 1944
  • trio lladd Hitler a dod â'r Ail Ryfel Byd i ben
  • nid yr ymgais gyntaf i ladd Hitler, ond yr un a ddaeth yn agosaf at lwyddiant
  • 9 aelod allweddol tu ôl i'r Cynllwyn
  • aelodau milwrol yn credu bod Hitler yn achosi'r Almaen i golli'r rhyfel
  • cynllwynio'n ofalus - ymdrech y gwrthsafiad nid jyst gwrthwynebiad
  • Claus von Stauffenberg
  • cuddio bom mewn bag dan fwrdd
  • methiant - swyddog wedi symud y bag i ben arall y bwrdd
  • Canlyniadau:
    • cannoedd o swyddogion yn cael eu diarddel o'r NSDAP - y blaid wedi colli wyneb yn dilyn y Cynllwyn ac eisiau dial
    • arweinwyr y Cynllwyn i gyd yn cael eu dienyddio neu'n cymryd bywydau eu hunain
    • dienyddiadau'n cael eu recordio i wneud esiampl
    • hongian ar wifren piano o fachau cig
    • bron 5000 o Almaenwyr yn cael eu lladd am ddial
    • diwedd y gwrthwynebiad

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Yr Eglwys Brotestannaidd[golygu | golygu cod]

  • Natsïaid yn caniatáu dim on Aryaid i ymuno â'r Eglwys
  • cynnid cred wahanol o Natsïaid: ffurfio'r Eglwys Gyffes dan arweiniad Martin Niemoller
  • Eglwys Genedlaethol y Reich (Müller yn arweinydd): Natsïeiddio'r Eglwys
  • Niemoller yn pregethu yn erbyn y Natsïaid - nid yn danddaearol, ond yn agored
  • Eglwys y Reich yn dymuno puro Cristnogaeth o unrhyw syniadau Iddewig o'r Hen Destament
  • 800 o weinidogion wedi'u carcharu gan y Natsïaid
  • yr Eglwys ddi-Natsïaidd wedi goroesi erbyn diwedd y rhyfel: y ffydd yn gryfach na'r wladwriaeth

Yr Eglwys Gatholig[golygu | golygu cod]

  • Catholigiaeth Rufeinig yn rym rhyngwladol - pŵer allanol y Pab
  • yr Eglwys Gatholig yn cydweithio gyda'r Natsïaid ar y dechrau
  • Concordat (Gorffennaf 1933): Pab yn cytuno i Gatholigion cadw allan o system wleidyddol yr Almaen ar yr amod bod y Natsïaid yn cydnabod safle gymdeithasol yr Eglwys Gatholig (ysgolion Catholig, mudiadau ieuenctid Catholig, ayyb)
  • torri'r Concordat gan Hitler - cau'r ysgolion Catholig
  • gwrthwynebwyr ar lefel offeiriaid lleol - dim fawr o ymateb gan y Pab
  • gwrthwynebu rhaglen ewthanasia'r Natsïaid
  • Mit brennender Sorge (with burning concern) - Pab yn cyflwyno yn erbyn Natsïaeth yn 1937
  • y Cardinal von Galen yn arwain y gwrthwynebiad yn erbyn ewthanasia
  • protestiadau yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn 1941
  • ymdrechion unigolion
  • crefydd yn goroesi'r Natsïaid unwaith eto

Mudiadau llafur[golygu | golygu cod]

  • absenoldeb o waith
  • difrodi peiriannau ar bwrpas
  • gweithio'n araf ac aneffeithlon ar bwrpas
  • gwrthod ymuno â'r fyddin neu wneud arfau
  • mynd ar streic yn 1935: prisiau bwyd yn cynyddu
  • streicwyr a gweithwyr aneffeithlon ar bwrpas yn cael eu harestio a'u danfon i'r gwersylloedd crynhoi
  • Georg Elser: gosod bom yn Neuadd Cwrw München yn Nhachwedd 1939 i ladd Hitler (Hitler heb droi lan)
  • grwpiau o weithwyr yn weithredol yn erbyn y Natsïaid
  • dim arweinydd, dim trefn: gwrthwynebiad llafur yn methu

Cymdeithasau sifil[golygu | golygu cod]

Môr-ladron Edelweiss[golygu | golygu cod]

  • gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau Ieuenctid Hitler
  • ymladd Ieuenctid Hitler ar strydoedd Dusseldorf, Essen, a Chwlen
  • mwyafrif yng Ngorllewin yr Almaen ac o'r dosbarth gweithiol
  • troseddu (e.e. fandaleiddio) fel ffordd o wrthod cydymffurfio
  • y nifer fwyaf rhwng 16 a 18, rhai yn ferched
  • grwpiau o tua 10 i 15 person
  • dim agenda wleidyddol ganddynt - gwrthwynebu ar lefel fach
  • dod yn ddewrach: graffiti gwrth-Natsïaidd, dwyn arfau a bomiau o orsafoedd milwrol, lladd pennaeth Gestapo Cwlen
  • Natsïaid yn ymateb: rhybuddio, arestio, danfon yn ôl i'r ysgol, rhoi ar brawf, danfon i wersylloedd crynhoi
  • Cwlen: taflu briciau trwy ffenestri ffatrïoedd a rhoi dŵr siwgr mewn tanciau petrol y Natsïaid
  • 1944: rhai'n cael eu harestio gan y Gestapo a'u harteithio
  • 10 Tachwedd 1944: Gestapo'n crogi 13 ohonynt yn gyhoeddus

Y Rhosyn Gwyn[golygu | golygu cod]

  • myfyrwyr o Brifysgol München a'u hathro athroniaeth (Kurt Huber)
  • danfon taflenni anhysbys yn galw am wrthwynebiad i gyfundrefn Hitler
  • Mehefin 1942 i Chwefror 1943: cyfnod bach iawn
  • dim agenda wleidyddol - yn dymuno rhyddid a thegwch i bawb
  • chwe phamffled - dyfynnu o'r Beibl, Aristoteles, Novalis; targedu Bafaria ac Awstria
  • prif aelodau: Sophie a Hans Scholl, Alex Schmorell, Willi Graff, Christoph Probst
  • cael eu harestio gan y Gestapo (18 Chwefror 1943) am ddarparu taflenni ym Mhrifysgol München
  • cael eu dienyddio
  • llwyddodd y chweched pamffled i gael ei ddarparu gan awyrennau'r Cynghreiriaid ym Mehefin 1943

Mudiadau diwylliannol[golygu | golygu cod]

  • mudiad cerddoriaeth swing a jazz yn gwrthwynebu'r Almaen, yr heddlu, y blaid a'i pholisïau, Ieuenctid Hitler, gwaith, y lluoedd milwrol, a'r rhyfel
  • dim agenda wleidyddol
  • eisiau dilyn y ffordd Brydeinig o fyw
  • yn erbyn y syniad o genedl bur
  • gwrando ar orsafoedd radio tramor
  • lledaenu propaganda gwrth-Natsïaidd
  • ffurfio gangiau strydoedd
  • gwrthod gwrando ar gerddoriaeth y Natsïaid
  • Ieuenctid Hitler yn ysbïo arnynt
  • 300 wedi'u harestio a'u danfon yn ôl i'r ysgol dan arolwg
  • gwrando ar Glenn Miller a Louis Armstrong
  • rhai'n cael eu hanfon i'r gwersylloedd crynhoi
  • smyglo recordiau jazz i mewn i'r wlad

Unigolion o nod[golygu | golygu cod]

Karl von Ossietzky[golygu | golygu cod]

  • heddychwr democrataidd
  • cael ei ddanfon i wersyll crynhoi
  • ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1935 - y Natsïaid yn gwrthod rhoi pasbort iddo i deithio i dderbyn y wobr

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]