Deddfau Nuremberg
Jump to navigation
Jump to search
Cyfreithiau gwrth-Semitaidd yn yr Almaen Natsiaidd oedd Deddfau Nuremberg (Almaeneg: Nürnberger Gesetze). Fe'u cyflwynwyd ym 1935 yn rali flynyddol y Blaid Natsïaidd yn Nuremberg. Nodai'r deddfau mai Almaenwyr oedd pobl a oedd a phedwar mamgu neu dadcu "Almaenig neu o waed cyffelyb", tra bod Iddewon yn bobl a oedd a thri neu bedwar mamgu neu dadcu Iddewig. Galwyd person ag un neu ddau mamgu neu dadcu yn Mischling, o dras cymysg, neu "o waed cymysg". Rhwystrai Deddfau Nuremberg Iddewon rhag bod yn ddinasyddion a gwaharddasant briodas rhwng Iddewon ac Almaenwyr.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Y Ddeddf Dinasyddiaeth, ynghyd â Chyhoeddiad Atodol 14 Tachwedd 1935
- The Citizenship Law, Cyfieithad Saesneg o Brifysgol West of English
- Deddfau Hil
- Gwybodaeth o Amgueddfa'r Holocost
- Deddfau Hil y Natsiaid tan 1939