Neidio i'r cynnwys

Dawns forys glocsen Gogledd-orllewinol

Oddi ar Wicipedia

Tarddiad Dawns forys glocsen Gogledd-orllewinol oedd trefi diwydiannol Swydd Gaer a Swydd Gaerhirfryn. Mae’r gwisg yn dueddol o fod yn drawiadol, a gwisgir clocsiau gyda haearn ar wadnau a sodlau, yn pwysleisio rhythm y ddawns. Gall y ddawns fod yn orymdaith – yn aml yn ystod wythnos y gwyliau, yn dilyn ‘rushcart’ - neu’n digwydd mewn un lle. Defnyddir ffyn neu raffau byrion neu cadachau. Mae arweinydd yn rheoli’r ddawns, yn defnyddio chwibanogl i ddynodi newidiadau pwysig. Mae gan y pentrefi Winster a Tidesdale yn Swydd Derby ddawns debyg, ond yn gwisgo sgidiau.[1]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am ddawns. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.