Neidio i'r cynnwys

Dawns forys cyffiniau Cymru

Oddi ar Wicipedia

Datblygodd dawns forys cyffiniau Cymru yn Swydd Henffordd, Swydd Gaerwrangon a Swydd Amwythig. Mae’r ddawns yn symlach na dawns forys canolbarth Lloegr, ond yn fwy bywiog, gyda bloeddio a defnyddio ffyn. Ceir pedwar, chwech, neu wyth o ddawnswyr yn gyffredin. Gwisgir cotiau gyda charpiau o frethyn, a duir wynebau’r dawnswyr. Cyfeilir y dawnswyr gan fandiau mawrion, gan gynnwys acordion, consertina, ffidil, offerynnau pres a drymiau.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ddawns. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.