Datblygu ffilmau nodwedd

Oddi ar Wicipedia

Cam cychwynnol mewn gwneud ffilmiau yw datblygu ffilmau nodwedd. Mae datblygu'n gallu cychwyn, er enghraifft, pan fydd cynhyrchydd yn penderfynu gweithio ar sgript addawol sydd eisoes wedi ei hysgrifennu, neu'n gynharach yn y broses, pan geir y syniad am y ffilm yn y lle cyntaf ac y comisiynir yr amlinelliad a'r sgript.

Ennill cefnogaeth ariannol yw'r cam cyntaf yn y broses datblygu. Gall y camau dilynol gynnwys comisiynu sgrin-awdur i ysgrifennu sgript, neu ennill hawliau sgript sydd eisoes wedi ei hysgrifennu, wedyn datblygu'r sgript: diwygio a pherffeithio'r drafftiau cychwynnol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.