Darfudiad

Oddi ar Wicipedia
Mae'r schlieren liw hon yn dangos darfudiad gwres o law ddynol i'r atmosffer o'i hamgylch.

Darfudiad yw trosglwyddiad gwres o ganlyniad i symudiad llwyth o foleculiwlau o fewn i nwyon a hylifau, gan gynnwys carreg dawdd. Mae darfudiad yn cynnwys is-fecanweithiau llorfudiad a gwasgariad.

Ni cheir darfudiad yn y rhan fwyaf o solidau am nad yw llifoedd cerrynt na gwasgariad mater yn gallu digwydd ynddynt. Mae dargludiad gwres i'w gael mewn solidau sefydlog, ond gelwir hynny'n ddargludiad. Gall darfudiad ddigwydd mewn solidau meddal neu gymysgeddau ble gall gronynnau solid symud heibio i'w gilydd.

Gellir arddangos darfudiad gwres trwy osod ffynhonnell wres (e.e. llosgwr Bunsen) wrth ochr gwydr wedi'i lenwi â hylif, a sylwi ar y newid yn nhymheredd y gwydr sy'n cael ei achosi gan yr hylif cynhesach yn symud i rannau oerach.