Damcaniaeth anghynrychiadol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Man cychwyn damcaniaeth anghynrychioliadol yw’r syniad bod y gwyddorau dynol wedi tueddu i gymryd agwedd arsylwadol ac adroddiadol tuag at ymchwilio, sydd yn rhoi blaenoriaeth i’r agweddau hynny o brofiad y gellid eu harsylwi a’u hailadrodd, ac yn tanbrisio neu anwybyddu’r perthnasau rhyngweithiol a thrawsnewidiol sy’n cysylltu ac yn bywiogi elfennau gwahanol. Mae anghynrychioliadoledd yn ceisio symud ymlaen o edrych ar ddigwyddiadau trwy eu gweddillion a’u holion (h.y. fel canlyniadau) trwy ddathlu arwyddocâd digwyddiadau fel ‘pethau sy’n digwydd’. Mae elfen ‘gynrychioliad’ y broses ymchwil yn digwydd yn gyntaf wrth i ymchwilwyr feddwl eu bod yn gallu arsylwi a ‘gweld’ digwyddiadau (yn hytrach na’u deall fel profiadau), ac yn ail, wrth iddynt geisio siarad ar eu cyfer, fel petai, trwy eu hail gyflwyno a’u hail-adrodd yn oddrychol.

Trwy’r broses o ailgyflwyno digwyddiadau, mae fersiynau newydd ohonynt yn cael eu creu sydd yn disodli ac ail-osod y ‘digwyddiad’ o fewn cyd-destun gofodol ac amserol gwahanol, gan negyddu ei natur fywiog a darfodedig. Mae’r cyd-destun yn hollbwysig, oherwydd bod anghynrychioliadoledd yn pwysleisio rôl y cydberthnasau a’r rhyngweithiad rhwng gwahanol elfennau, wrth iddynt gwrdd yn nyfodiad eu ‘digwydd’. Hynny yw, mae digwyddiad a bodolaeth yr hyn sydd yn cael ei astudio yn amodol ar nifer o elfennau yn cydweithio â’i gilydd. Nid yr elfennau eu hun yw’r peth pwysicaf, ond y ffordd maent yn dod ynghyd ac yn byw trwy ‘ddigwydd’. A dyma’r pwynt allweddol: er y gall y ‘gymysgedd’ o elfennau gael ei chyfathrebu, gan gyfleu rhywfaint o’r hyn sydd dan sylw, mae elfen ddeinamig bwysig y ‘gwneud’ yn osgoi sylw oherwydd dulliau traddodiadol o gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau byw.

Un o brif gryfderau damcaniaeth anghynrychioliadol yw ei fod yn tynnu sylw at ddiffygion meddylfryd methodolegol sy’n gaeth i’r hyn y gellir ei ddweud a’i ddangos trwy ddulliau ymchwilio confensiynol, a dulliau traddodiadol o’u cymhwyso. Mae’r orddibyniaeth ar fethodoleg i arwain yr agenda ymchwil, yn golygu bod yr hyn sy’n gallu cael ei ddweud yn arwain at yr hyn yr ydym ni am ei wybod. Yr hyn y mae hyrwyddwyr anghynrychioliadoledd yn ei honni yw bod angen i ni fod yn fwy creadigol a dyfeisgar wrth ddethol ein dulliau methodolegol, ac yn fwy chwilfrydig yn ein hymchwiliadau.

Yn hytrach na’i weld fel damcaniaeth ar y byd neu fel methodoleg ynddo’i hun, efallai mai ffordd fwy defnyddiol fyddai ystyried damcaniaeth anghynrychioliadol fel cais i ymchwilwyr i fod yn fwy agored i’r hyn na ellir ei gyfathrebu yn hawdd. Hynny yw, yr elfennau llithrig a drygionus; y rhyngweithiadau, cyfnewidiadau a’r profiadau, yn hytrach na’r canlyniadau a’r gweddillion gwag. Yn lle mân bethau ymylol, dyma yn aml yw’r union resymau pam fod pobl yn gwneud y pethau maent yn eu gwneud, neu yn ymddwyn mewn ffyrdd arbennig. Mae gan fywyd ein hymarferion wersi pwysig i ddaearyddwyr, ynglŷn â phrofiad a thrawsnewidiad gofodol, a sut y profwyd strwythurau mesurol fel pellter a gofod ac amser.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Anderson, B. & Harrison, P. (Gol.) (2010) Taking-Place: Non-Representational Theories and Geography, Farnham, Ashgate.
  • Thrift, N. (2008) Non-representational Theory: Space, Politics, Affect, Abingdon. Routledge
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Damcaniaeth Anghynrychiadol ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.