Daeargrynfeydd Kamchatka
Roedd tri daeargryn a ddigwyddodd oddi ar arfordir Penrhyn Kamchatka yn nwyrain pell Rwsia yn 1737, yn 1923 ac yn 1952, yn ddaeargrynfeydd eithafol a achosodd tsunamis. Digwyddent lle roedd Plât y Môr Tawel yn islithro o dan y Blât Okhotsk at Ffôs Kuril-Kamchatka. Dyfnder y ffôs at bwynt y daeargrynfeydd oedd 7,000–7,500 m. Gorweddai gogledd Kamchatka ym mhen gorllewinol y ffawt Bering, rhwng Plât y Môr Tawel a Phlât Gogledd America,[1] neu blât Bering[2] Mae llawer mwy o ddaeargrynfeydd a tsunamis yn tarddu o Kamchatka, y mwyaf diweddar oedd yn naeargryn Kamchatka 1997 gyda tswnami'n tarddu ger Penrhyn Kronotsky.
Daeargryn 1737
[golygu | golygu cod]Lleoliad uwchganolbwynt daeargryn 1737 oedd 52°30′N 159°30′E / 52.5°N 159.5°E. Digwyddodd y ddaeargryn ar ddyfnder o 40 km. Amcangyfrifir mai maint y ddaeargryn oedd 8.3 Ms (9.0 Mw).[3]
Daeargrynfeydd 1923
[golygu | golygu cod]Ar Chwefror 4ydd, 1923, amcangyfrifir i ddaeargryn maint 8.3–8.5 Mw gyda lleoliad yn fras o 54°00′N 161°00′E / 54.0°N 161.0°E sbarduno tsunami o 8 medr o uchder a achosodd cryn ddifrod yn Kamchatka, gan ladd nifer o bobl.[4][5] Roedd yr un tsunami, pan gyrrhaeddodd Ynysoedd Hawai'i yn dal i fod yn 6 medr o uchder, a achosodd o leiaf un marwolaeth. Roedd daeargryn arall ym mis Ebrill 1923, a achosodd tsunami uchel yn lleol uchel ger Ust' Kamchatsk, a adawodd dyddodion a astudwyd gan Minoura ac eraill.[6]
Daeargryn 1952
[golygu | golygu cod]Tarodd y brif ddaeargryn am 16:58 GMT (04:58 amser lleol) ar y 4ydd o Dachwedd, 1952. Yn wreiddiol nodwyd y ddaeargryn yn faint o 8.2Mw, ond mewn blynyddoedd yn ddiweddarach fe'i hail ddynodwyd yn 9.0 Mw .[7] Yn y tsunami mawr a ddilynnodd y ddaeargryn hon,[8] achoswyd dinistr a marwolaethau o amgylch penrhyn Kamchatka ac Ynysoedd Kuril. Fe darwyd Hawai'i hefyd, gydag amcangyfrif o ddifrod hyd at US$1 miliwn a cholledion da byw, ond ni chofnodwyd unryw anafiadau i bobl. Ni adroddwyd unrhyw anafiadau na difrod yn Siapan, a chyrrhaeddodd y tsunami cyn belled a glannau Alaska, Chile a Seland Newydd.[9]
Roedd canolbwynt (hypocentre) y ddaeargryn wedi ei lleoli yn 52°45′N 159°30′E / 52.75°N 159.5°ECyfesurynnau: 52°45′N 159°30′E / 52.75°N 159.5°ECyfesurynnau: 52°45′N 159°30′E / 52.75°N 159.5°E , ar ddyfnder o 30 km. Hyd rhwyg y parth islithriad oedd 600 km. Cofnodwyd ôl-gryniadau mewn ardal o tua 247,000 km2, at ddyfnderoedd rhwng 40 a 60 km.[10][11] Mae dadansoddiad diweddar o ddosbarthiad rhediad y tsunami yn seiliedig ar gofnodion hanesyddol a daearegol yn rhoi rhywfaint o syniad i ddosbarthiad llithriad y rhwyg.[12]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Daeargryn Kamchatka 1959
- Daeargrynfeydd Kamchatka 2006
- Daeargryn eithafol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kamchatka: Edge of the Plate Archifwyd 2007-08-07 yn y Peiriant Wayback Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. - ↑ Pedoja, K., Bourgeois, J., Pinegina, T., Higman, B., 2006. Does Kamchatka belong to North America? An extruding Okhotsk block revealed by coastal neotectonics of the Ozernoi Peninsula, Kamchatka, Russia, Geology, v. 34(5), pp. 353–356.
- ↑ "Page on tsunami associated with event from West Coast and Alaska warning center". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-15. Cyrchwyd 2018-01-03.
- ↑ Tsunami Laboratory, Novosibirsk, Russia
- ↑ Largest Earthquakes in the World Since 1900 Archifwyd 2010-11-07 yn y Peiriant Wayback Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. United States Geological Survey - ↑ Minoura, K., Gusiakov, V.G., Kurbatov, A., Takeuti, S., Svendsen, J.I., Bondevik, S., and Oda, T., 1996, Tsunami sedimentation associated with the 1923 Kamchatka earthquake. Sedimentary Geology, v. 106, pp. 145–154.
- ↑ Historic Earthquakes Archifwyd 2009-08-25 yn y Peiriant Wayback Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. It was also said to be magnitude 9.2. - ↑ MacInnes,B.T., Weiss, R., Bourgeois, J., Pinegina, T.K., 2010. Slip distribution of the 1952 Kamchatka great earthquake based on near-field tsunami deposits and historical records. Bull. Seismol. Soc. America, v. 100(4), pp. 1695–1709.
- ↑ "Bureau of Meteorology: Tsunami Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-21. Cyrchwyd 2018-01-03.
- ↑ The aftershock sequence of the Kamchatka earthquake of November 4, 1952 - BÅTH and BENIOFF 48 (1): 1 - Bulletin of the Seismological Society of America
- ↑ Three Kamchatka earthquakes - STAUDER 50 (3): 347 - Bulletin of the Seismological Society of America
- ↑ MacInnes et al., 2010, see above.