Cytundeb llygredd plastig byd-eang

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb llygredd plastig byd-eang
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCynulliad Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2022 Edit this on Wikidata
Prif bwncllygredd plastig Edit this on Wikidata

Yn 2022-3 roedd Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig yn negodi cytundeb rhyngwladol, sy'n gyfreithiol-rwym[1], ar blastig a fydd yn mynd i'r afael â chylch bywyd cyfan: o ddylunio i gynhyrchu ac i waredu. Ar 2 Mawrth 2022 pleidleisiodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig yn y pumed Cynulliad Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a ailddechreuwyd (UNEA-5.2) i sefydlu Pwyllgor Negodi Rhynglywodraethol (INC) gyda’r nod o hyrwyddo cytundeb rhyngwladol sy’n rhwymo gwledydd yn gyfreithiol ar faterion plastig.[2][3][4] Teitl y cynnig yw “Diwedd ar lygredd plastig: Tuag at offeryn cyfreithiol-rwym, rhyngwladol.”

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Cytunodd Gwladwriaethau y bydd y cytundeb yn rhyngwladol ei gwmpas, yn gyfreithiol-rwym, ac y dylai fynd i'r afael â chylch bywyd llawn plastigion, gan gynnwys ei ddylunio, ei gynhyrchu a'i waredu. [5] Dadleuwyd bod angen mynd i'r afael â chemegau sydd wedi'u cynnwys mewn plastigion fel ychwanegion, cymhorthion yn y gwaith o'u prosesu, a sylweddau anfwriadol hefyd.[6][7]

Cefnogaeth i'r cytundeb[golygu | golygu cod]

Yn y cyfnod yn arwain at UNEA-5.2, roedd y mwyafrif o Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig wedi mynegi eu cefnogaeth i hyrwyddo cytundeb byd-eang.[8] Mae grwpiau eraill sy'n gwneud datganiadau cyhoeddus am yr angen am gytundeb yn cynnwys y sector busnes,[9] cymdeithasau sifil, Pobl Gynhenid, gweithwyr, undebau llafur,[10] a gwyddonwyr.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Bangor; adalwyd 10Mai 2023.
  2. Geddie, John (2 March 2022). "'Biggest green deal since Paris': UN agrees plastic treaty roadmap". Reuters.
  3. "Plastic pollution: Green light for 'historic' treaty". BBC News. March 2, 2022.
  4. Tabuchi, Hiroko (March 2, 2022). "The World Is Awash in Plastic. Nations Plan a Treaty to Fix That". The New York Times.
  5. "Historic day in the campaign to beat plastic pollution: Nations commit to develop a legally binding agreement". UN Environment (yn Saesneg). 2022-03-02. Cyrchwyd 2022-08-01.
  6. Wang, Zhanyun; Praetorius, Antonia (2022-11-22). "Integrating a Chemicals Perspective into the Global Plastic Treaty" (yn en). Environmental Science & Technology Letters 9 (12): 1000–1006. doi:10.1021/acs.estlett.2c00763. PMID 36530847. https://pubs.acs.org/doi/10.1021/acs.estlett.2c00763.
  7. Simon, Nils; Raubenheimer, Karen; Urho, Niko; Unger, Sebastian; Azoulay, David; Farrelly, Trisia; Sousa, Joao; van Asselt, Harro et al. (2021-07-02). "A binding global agreement to address the life cycle of plastics". Science 373 (6550): 43–47. doi:10.1126/science.abi9010. PMID 34210873.
  8. "Global Plastic Navigator". plasticnavigator.wwf.de. Cyrchwyd 2022-08-01.
  9. "THE BUSINESS CALL FOR A UN TREATY ON PLASTIC POLLUTION". www.plasticpollutiontreaty.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-01.
  10. "Civil Society, Indigenous Peoples, Workers and Trade Unions, and Other Organizations - A New Global Treaty On Plastic Pollution" (yn Saesneg). 2022-02-05. Cyrchwyd 2022-08-01.
  11. "Scientists - A New Global Treaty On Plastic Pollution". A New Global Treaty On Plastic Pollution - (yn Saesneg). 2022-02-05. Cyrchwyd 2022-08-01.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]