Cysyniadau ffiseg
Enghraifft o'r canlynol | amlinelliad o erthygl ![]() |
---|---|
Prif bwnc | ffiseg ![]() |
Dyma restr o gysyniadau ffiseg mwyaf adnabyddus.
Gwefr (Q)
[golygu | golygu cod]Gwefr yw craidd trydan. Y gwefriad lleiaf sydd ar gael yw gwefriad electron sy'n 1.6 X10−19.
Cerrynt (I)
[golygu | golygu cod]Cerrynt yw'r gyfradd llif gwefr trydanol.
Pellter (S)
[golygu | golygu cod]Dyma un o'r mesuriadau anniffiniedig ffiseg, mae'n mesur gwahaniad dau beth.
Newidyn
[golygu | golygu cod]Pan mae dau newidyn yn gysylltiedig, dwedwn fod un yn dibynnu a'r y llall. Mewn arbrofion defnyddir y newidyn annibynnol i fesur y newidyn dibynnol.
Egni (E)
[golygu | golygu cod]Mesurir egni mewn jouleau, defnyddir egni ym mhob achlysur o fywyd, trwy egni gemegol, biolegol, cinetig, potesial a thrydanol. Gellir cysylltu'r egniau yma drwy nifer o fformiwlâu.
Grym (F)
[golygu | golygu cod]Mae maint y grym yn dibynnu ar y gyfradd mae'r grym yn gallu cyflymu 1 kg o fas.
Egni Cinetig (K)
[golygu | golygu cod]Dyma'r egni sy'n gwneud i wrthrych symud. Mesurir eto mewn jouleau.
Mas (m)
[golygu | golygu cod]Mesuriad anniffiniedig arall yw mas. Mesuriad interia yw mas. Uned mas yw Kilogram (Kg).
Lleoliad (x)
[golygu | golygu cod]Mae lleoliad yn dibynnu ar y pellter o sero. Mae'r lleoliad yn dibynnu ar darddiad y mesuriad.
Pwer (P)
[golygu | golygu cod]Pwer yw cyfradd gwaith. Lluosir foltedd a cherrynt i greu pwer mewn trydan. Mesurir pwer mewn wattiau.
Buanedd a chyflymder (v)
[golygu | golygu cod]Cyfradd newid lleoliad yw cyflymder.
Foltedd (V)
[golygu | golygu cod]Mesuriad o egni dros wefr ydy foltedd. Defnyddir y mesuriad yma pan yn sôn am gryfder trydan.