Cynnig dydd cynnar

Oddi ar Wicipedia

Mae cynnig dydd cynnar yn gynnig mewn un frawddeg gan Aelodau Seneddol i gynnal dadl yn Nhŷ'r Cyffredin.

Daw'r enw, early day motion (EDM) o'r ffaith bod y cynigion yn arfer gofyn i'r ddadl digwydd ar ddydd cynnar, hynny yw, yn fuan ar ôl y cynnig.[1] Fodd bynnag, nid yw'n arferol i gynigion dydd cynnar cael eu dadlau. Eu pwrpas erbyn hyn felly yw i Aelodau cael cyfle i fynegi barn mewn modd swyddogol ar destun penodol na sy'n cael ei ddadlau. Gall Aelodau Seneddol eraill hefyd llofnodi cynigion dydd cynnar ac felly dangos eu cefnogaeth, fodd bynnag, mae rheolau yn rhwystro gweinidogion a rhai Aelodau Seneddol eraill gyda dyletswyddau penodol rhag ychwanegu eu henwau at gynigion dydd cynnar.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Early Day Motions". Senedd y DG. Unknown parameter |accessed= ignored (help)
  2. "What are Early day motions?". Senedd y DG. Unknown parameter |accessed= ignored (help)