Cynllun Mônallu

Oddi ar Wicipedia

Prosiect a sefydlwyd gan Fenter Môn oedd Cynllun Mônallu.

Roedd Mônallu yn gynllun oedd yn ceisio cyfrannu at atal problem diboblogi ymysg pobl ifanc ar Ynys Mon. Roedd y rhaglen yn cael ei gyllido gan Leader +, gyda swyddog yn cael ei gyflogi gan Fwrdd yr Iaith. Mae'r cynllun yn cynnwys lleoli myfyrwyr mewn lleoliadau gwaith ar yr ynys yn ystod gwyliau'r Haf.[1]

Cynhadledd Mônallu[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd cynhadledd i fyfyrwyr prifysgol a gymerodd ran yn y lleoliadau gwaith uchod er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o'r cyfleon oedd ar gael i gychwyn busnes ym Môn. Denwyd dros 20 o fyfyrwyr i gymeryd rhan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Menter Môn- Adroddiad Saith Mlynedd Cyntaf (Septennial Report). Llangefni: W.O Jones. 2003. t. 43.