Cynllun Llwybro

Oddi ar Wicipedia

Cynllun tracio myfyrwyr oedd Cynllun Llwybro a sefydlwyd gan Fenter a Busnes yn 2002.

Rôl Menter Môn[golygu | golygu cod]

Cynllun Awdurdod Datblygu Cymru yw 'Llwybro', sef cynllun oedd i edrych ar batrymau symudiadau pobl ifanc cefn gwlad. Roedd y cynllun yn tracio myfyrwyr er mwyn adnabod pwy oedd yn allfudo, pryd a pham, yn ogystal ag anfon gwybodaeth reolaidd am ddigwyddiadau a chyfleuon yn eu hardaloedd nhw.

Roedd y cynllun yn cael ei reoli gan Fenter a Busnes, a bu Menter Môn yn llwyddiannus yn eu cais i fod yn bartneriaid yn y cynllun. Aeth y fenter ati i gasglu data blwyddyn 11 yn holl ysgolion uwchradd Môn.[1]

Erbyn 2017 roedd y prosiect wedi dod i ben.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Menter Môn- Adroddiad Saith Mlynedd Cyntaf (Septennial Report). Llangefni: W.O Jones. 2003. t. 43.