Cyngor yr Undeb Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia

Un o ddau sefydliad deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yw Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (yn anffurfiol: Cyngor Gweinidogion Ewrop); Senedd Ewrop yw'r llall. Dylid gwahaniaethu rhwng y Cyngor hwn, y Cyngor Ewropeaidd a Chyngor Ewrop. Lleolir Cyngor yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Gyda'i gilydd, mae'r Cyngor a'r Senedd yn llunio corff deddfwriaethol uchaf yr Undeb, ond tu mewn i gymwyseddau'r Gymuned Ewropeaidd yn unig. Mae'r Cyngor yn cynnwys 27 o weinidogion cenedlaethol (un o bob aelod-wladwriaeth), a dewis y gweinidog yn dibynnu ar y maes sy'n cael ei drafod: er enghraifft, mae gweinidogion amaethyddiaeth yn cyfarfod i drafod materion yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae'r gweinidogion yn atebol i'w hetholaethau cenedlaethol, a gyda'i gilydd maent yn gwasanaethu'r etholaeth ddemocrataidd ail fwyaf yn y byd (492 miliwn o etholwyr). Cyfyngir cyfraith yr Undeb i feysydd polisi penodol, ond mae'n gwrthwneud y gyfraith genedlaethol. Am fod yr Undeb yn gweithredu ar blatfformau uwchgenedlaethol a rhynglywodraethol, mae'r Cyngor yn uwchraddol i'r Senedd mewn rhai meysydd; yma mae rhaid iddo ymgynghori yn unig â'r Senedd er mwyn cael ei chydsyniad. Er hynny, y weithdrefn gydbenderfynu yw'r broses ddeddfwriaethol a ddefnyddir mewn llawer o feysydd bellach, sef gweithdrefn lle mae'r ddau corff â grym cyfartal.

Nid oes gan y Cyngor un Lywydd yn yr ystyr draddodiadol, ond mae'r rôl yn symud rhwng y gwahanol aelod-wladwriaethau bob chwe mis (gelwir hyn yn Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd), a chaiff y gweinidog o'r wladwriaeth honno benderfynu'r agenda. Swydd ddylanwadol arall yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gynrychiolydd polisi tramor yr Undeb.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.