Cymorth:Sut i Olygu Wicipedia

Oddi ar Wicipedia

Dewisiwch 'Golygu' i weld y testun yn ei fformat wreiddiol. Prawfddarllenwch os gwelwch yn dda. Peidiwch a phoeni am y bylchau; bydd y llyfryn hwn yn cael ei argraffu ar bapur yn ogystal a fersiwn ar-lein.


Dychmygwch fyd ble mae pob person ar y blaned yn cael mynediad am ddim i gyfanswm holl wybodaeth ddynol. Jimmy Wales












Croeso i Wicipedia

Wikipedia yw’r gwyddoniadur mwyaf yn y byd. Mae’n cael ei greu a’i gynnal gan fwy na 100 mil o gyfranwyr ym mhedwar ban y byd. Pob mis mae Wikipedia yn derbyn dros 388 miliwn o ymwelwyr unigryw. Mae ar Wikipedia fwy na 16 miliwn o erthyglau mewn tros 260 o ieithoedd gwahanol. Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, yn rhad ac am ddim i’w olygu, a does yr un hysbyseb i’w gweld. (Data o fis Gorffennaf 2010).










Helo! Sara ydw i. Dwi’n defnyddio Wicipedia pan fydda i eisiau dysgu am bwnc newydd. Ond yn ddiweddar ’dw i ‘di bod yn meddwl, pwy sy’n ysgrifennu’r erthyglau yma? Pam bod erthyglau weithiau’n newid? ‘Dw i wedi darllen y gall unrhyw un olygu Wicipedia. Fedra i wneud hynny hefyd? Sut?

Wedi darllen Croeso i Wicipedia, byddwch yn: » Deall sut mae Wicipedia yn gweithio » Gallu creu cyfrif defnyddiwr ar gyfer Wicipedia » Deall rhyngwyneb defnyddwyr Wicipedia » Gallu rhestru’r gwahanol ffyrdd y medrwch chi gyfrannu i Wicipedia » Gallu cyfathrebu gyda defnyddwyr eraill drwy’ch tudalen ‘Fy sgwrs’. » Gallu egluro sut mae erthygl yn esblygu ar Wicipedia » Gallu disgrifio nodweddion erthygl o ansawdd » Gallu creu erthygl newydd












1

Sut mae Wicipedia yn gweithio?

Mae popeth ar Wikipedia wedi ei ysgrifennu gan bobl fel chi. Wikipedia yw gwyddoniadur ar-lein mwyaf y byd am y rheswm bod pobl yn cyfrannu gwybodaeth, delweddau a data yn barhaus. Mae Wicipedia yn tyfu gan yn agos i 1200 o erthyglau'r dydd a thros 4 miliwn o gyfraniadau’r mis. (Data o fis Gorffennaf 2010).


Mae llawer o gyfranwyr (Wicipedwyr) yn rhannu’r dyhead i ddarparu gwybodaeth am ddim i bawb. Dyma’r rheswm pam bod pobl dros y byd i gyd yn gwirfoddoli eu hamser i amddiffyn a gwella ansawdd erthyglau Wicipedia. Drwy ganiatáu i bawb gael mynediad, lawr lwytho ac ail-ddefnyddio cynnwys, mae Wicipedia yn darparu nifer o opsiynau o ran rhannu gwybodaeth.





Ond pwy sy’n penderfynu beth sy’n cael ei gyhoeddi? Prif olygydd, rhywle?


2

Mae Wicipedwyr yn creu cymaint o erthyglau newydd ac yn golygu erthyglau sydd eisoes yn bod mor aml fel y byddai hi’n amhosib bron i fod â thîm digon mawr i adolygu a dilysu pob cyfraniad sy’n cael ei wneud i’r gwyddoniadur. Yn hytrach, mae Wicipedia yn dibynnu ar fewnbwn cyfranwyr o amgylch y byd i greu ystorfa fwyaf y byd o gynnwys gwyddoniadurol.


I’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhan o wella Wicipedia mae’r gwaith yma yn ddifyrrus a gwobrwyol. Tra bo agwedd gymdeithasol gweithio tuag at yr un nod yn hwyl, yr hyn sy’n gyrru’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr gweithredol yw dymuniad i ddosbarthu gwybodaeth am ddim o amgylch y byd.


Helpu pawb ar draws y byd i gael mynediad i gynnwys yn rhad ac am ddim - mae hynny’n swnio’n dda. Dwedwch fwy. Ble medra i ddechrau?



Rhowch gynnig arni! Pwy all olygu erthyglau sydd eisoes yn bod ar Wicipedia? Dewiswch yr ateb cywir.

Dim ond golygyddion profiadol Prif olygydd Wicipedia Unrhyw un sydd â mynediad at y Rhyngrwyd

Mae’r atebion i’r cwestiwn yma a phosau eraill i’w cael ar dudalen ôl y cyfeirlyfr yma. 3

Creu cyfrif Wicipedia

Mae creu cyfrif defnyddiwr yn fan cychwyn da wrth ddechrau cyfrannu i Wicipedia. Mae cyfrif yn caniatáu ichi greu erthyglau (tudalenau) newydd, uwch-lwytho delweddau, ailenwi tudalenau. Hefyd fe gewch fynediad at nodweddion arbennig fel Fy Rhestr Wylio. Mae rhestr wylio yn caniatáu ichi ddilyn yr erthyglau rydych yn eu golygu a llyfrnodi tudalennau diddorol eraill. I ychwanegu erthygl i’ch rhestr wylio, cliciwch ar yr eicon seren ar frig yr erthygl.


Yn bwysicach fyth, am fod eich holl waith golygu wedi ei gysylltu â’ch enw defnyddiwr, mae gennych hunaniaeth ar Wicipedia. Mae hyn y eich cynorthwyo i ryngweithio gydag eraill sy’n golygu’r un erthyglau, ac yn eich helpu i ennill ymddiriedaeth aelodau eraill o’r gymuned. Wrth ichi gynefino â Wicipedia, fe fydd gennych fwy i’w ddweud mewn trafodaethau ac o bosib byddwch yn gallu cynorthwyo eraill i ddatrys problemau.


Mae modd golygu Wicipedia heb fod â chyfrif. Fodd bynnag, heb gyfrif, bydd eich golygiadau wedi ei aseinio i gyfeiriad protocol rhyngrwyd eich cyfrifiadur (Internet protocol - IP). Mae’r gymuned Wicipedia yn tueddu i ddrwgdybio gwaith o gyfeiriad IP, yn enwedig os oes modd ei olrhain i gyfeiriad ysgol neu rwydwaith cymunedol ble gall defnyddwyr sydd heb eu cofrestru wneud golygiadau ar sail eu diddordebau rhagfarnllyd. Os yw hi’n anodd aros yn ddiduedd wrth olygu erthyglau , mae hyn yn cael ei ystyried i fod yn achos o wrthdaro buddiannau ar Wicipedia. Er enghraifft, os yw myfyriwr yn golygu erthygl am ei hysgol, mae’n bosib fod ganddi bersbectif rhagfarnllyd o bwysigrwydd cenedlaethol ei hysgol.


Mae creu cyfrif Wicipedia yn syml a does dim rhaid darparu unrhyw wybodaeth bersonol:


1. Cliciwch Mewngofnodi/creu cyfrif, sydd ar frig y dudalen ar y dde.

2. Dewiswch eich Enw Defnyddiwr.

3. Dewiswch Gyfrinair.

4. Cliciwch i Greu Cyfrif.

Rhowch gynnig arni!

Creu cyfrif defnyddiwr ar Wicipedia

Lluniwch restr wylio o’ch hoff erthyglau Wicipedia drwy glicio ar y seren ar frig y dudalen. Sylwer sut mae newidiadau i’r erthygl yn cael eu tracio ar eich rhestr wylio.


Dyna ni sydyn! Nawr fod gen i gyfrif, mi fedra i gyfrannu at y gwaith o greu erthyglau o safon.

4

Rhyngwyneb defnyddwyr Wicicpedia

Prif Dudalen Wicipedia.

Mae Trafodaeth i’w weld ar frig pob erthygl. Trafodaeth yw’r man ble medrwch chi a chyfranwyr eraill gynllunio strwythur erthygl, trafod ac adeiladu cydsyniad ar gynnwys erthygl, a gofyn am gymorth gan eich gilydd.

Mae Newidiadau Diweddar yn dangos y golygiadau a wnaed i holl erthyglau Wicipedia mewn trefn amser. Mae hyn yn golygu bod modd monitro erthyglau am gamgymeriadau a fandaliaeth.

Yn Cymorth mae help ar gael i ddysgu mwy am sut mae Wicipedia yn gweithio.

Mae Wicipedia yn bodoli mewn mwy na 250 o ieithoedd gwahanol.

5 Pwy ysgrifennodd yr erthygl hon? Dyma un dda! Dwi ddim yn siŵr os medra i ysgrifennu erthygl gystal â hon.


Mae Creu Cyfrif, sydd ar frig y dudalen, yn rhoi mynediad at holl nodweddion Wicipedia, ac yn eich cynorthwyo i adeiladu’ch proffil ar-lein.


Mae Gweld Hanes yn gadael ichi weld a chymharu fersiynau eraill o’r dudalen fu gynt.

Mae Chwilio yn mynd â chi at yr erthygl sy’n cyd-fynd â’ch ymholiad. Os nad yw’r erthygl yn bodoli, mae’n dangos erthyglau ble mae’r gair/geiriau yn ymddangos.

Rhowch gynnig arni! Cliciwch Newidiadau Diweddar ar gyfer unrhyw erthygl ac edrychwch ar y dudalen. Fe welwch fod pob gwaith golygu wedi ei aseinio i ddefnyddiwr neu gyfeiriad IP penodol, a bod stamp amser ar gyfer pob un. Fe welwch hefyd bod rhai cyfranwyr yn egluro eu golygiadau. Mae hyn yn arferiad da am ei fod yn helpu eraill i ddeall eich rhesymau tros olygu.


Mae ffrind Sara, Josh, newydd ddechrau golygu ac angen gwybod mwy am bolisïau a chanllawiau Wicipedia, safonau’r gymuned a chymorth cyffredinol gan olygyddion. Ble mae cymorth ar gael? Dewiswch yr ateb cywir. Newidiadau Diweddar Cymorth Chwilio


6

Sut medra i gyfrannu?

Wyddoch chi fod sawl rôl wahanol ar eich cyfer chi ar Wicipedia? Dim ond un o’r opsiynau yw ysgrifennu. Dyma rai o’r rolau eraill:


Wicigorrach: Sy’n gwneud mân-newidiadau, er enghraifft cywiro gwallau ysgrifennu. Maent yn awgrymu gwelliannau i erthyglau drwy adael negeseuon ar gyfer awduron drwy glicio ar dudalen Trafodaeth yr erthygl.

Canolwr: Sy’n cymedroli trafodaeth ar destunau dadleuol, yn helpu i ddatrys dadleuon, ac yn darparu canllawiau ar ymddygiad cyfranwyr.

Fformatiwr: Sy’n strwythuro neu’n “wicieiddio” erthyglau, gan ddefnyddio iaith olygu cystrawen wici (wiki markup), i’w gwneud yn haws i’w darllen.

Golygydd Copi: Sy’n gwella iaith a gramadeg erthygl.

Cynhaliwr: Sy’n monitro erthyglau am olygiadau rhagfarnllyd a’u cywiro. Mae cynhaliwr yn cadw llygad ar agor am newidiadau a wnaed gan gyfranwyr sydd ag agenda personol neu safbwynt gwleidyddol/athronyddol, ac yn sicrhau bod cywirdeb ffeithiol yr erthyglau.

Darluniwr: Sy’n uwch lwytho delweddau, ffotograffau, mapiau a chymorth gweledol sy’n berthnasol i’r erthygl.

Awdur: Sy’n ychwanegu gwybodaeth i erthyglau o lyfrau, gwefannau, papurau newydd a ffynonellau credadwy eraill. Mae awdur hefyd yn cychwyn y broses o greu erthyglau newydd.



Rydw i newydd gywiro ffaith hanesyddol am Lahore, dinas ym Mhacistan, a wyddoch chi beth? Roedd fy newidiadau golygu yn fyw unwaith i mi gadw’r dudalen. Am gyffrous!



7

Tudalen Defnyddiwr a Fy Nhudalen Sgwrs

Mae miloedd o gyfranwyr yn golygu Wicipedia pob dydd. Nid oes modd dilysu rhai golygiadau neu maent yn cael eu gwneud o safbwynt rhagfarnllyd. Dyma pam bod rhai Wicipedwyr yn monitro bron pob achos o olygu gan ddefnyddio Newidiadau Diweddar (dan Rhyngweithio ar y bar dewislen ar y chwith). Mae’r nodwedd yma yn cynnig trosolwg o’r holl waith golygu a wnaed mewn fersiwn iaith benodol o Wicipedia. Am fod rhai Wicipedwyr yn monitro nifer enfawr o waith golygu maent o bryd i’w gilydd yn dileu rhywbeth sy’n gywir ond heb ei ysgrifennu’n dda. I atal hyn rhag digwydd, mae’n bwysig eich bod yn ysgrifennu gwybodaeth ffeithiol ac yn cyfeirio at ffynonellau dibynadwy.


Ychwanegwch wybodaeth amdanoch chi a’ch diddordebau i’ch tudalen Defnyddiwr. Mae cynnal a chadw eich tudalen Defnyddiwr yn ffordd dda o adeiladu ymddiriedaeth a sicrhau dilysrwydd eich golygiadau. Mae gan bob cyfrif dudalen Defnyddiwr a Fy Nhudalen sgwrs. Mae dolenni ar gyfer y dudalen Defnyddiwr a Fy Nhudalen Sgwrs ar ochr dde uchaf eich sgrin. Cewch fynediad i’ch tudalen Defnyddiwr drwy glicio ar eich enw defnyddiwr sydd nesaf at yr eicon penddelw. Cliciwch Golygu i ysgrifennu amdanoch chi eich hun. Yna cliciwch Cadw tudalen ar waelod y sgrin unwaith ichi orffen ysgrifennu. Beth sydd newydd ddigwydd? Mae’r golygu wnes i wedi mynd. Oes rhywun wedi ei ddileu? Pam fyddai rhywun am wneud hynny?




Rhowch gynnig arni! Mae Sara yn hoff o gymryd lluniau o’r mannau y bu’n ymweld â nhw. Os yw hi’n cyfrannu ei lluniau i Wicipedia mi fydd hi’n : Ddarlunydd Awdur Cyfryngwr Fformatiwr


8

Ar eich tudalen Defnyddiwr gallwch ysgrifennu amdanoch eich hun, eich gwybodaeth arbennig, a’ch diddordeb mewn erthyglau penodol. Hefyd mae lle i sôn am eich cysylltiad ag unrhyw grŵp neu os oes gwrthdrawiad buddiannau potensial gennych. Er enghraifft, efallai y bydd hi’n anodd ichi aros yn niwtral os ydych chi’n golygu erthygl am y mudiad ble rydych chi’n gweithio. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio’ch gwybodaeth drylwyr o’r mudiad i restru ffynonellau gwybodaeth gwiriadwy. Fel hyn, pan fyddwch chi’n darllen gwybodaeth am eich mudiad sy’n anghywir neu heb ei ddiweddaru, bydd modd ichi adael neges ar dudalen Trafodaeth yr erthygl gan nodi’r anghysondeb ac arwain awduron yr erthygl at eich tudalen Defnyddiwr. Yna gall yr awduron werthuso’ch ffynonellau a’u defnyddio i ddiweddaru’r erthygl ar Wicipedia.


Mae ‘Fy sgwrs’ a ‘Trafodaeth’ yn fan ble gall cyfranwyr eraill adael negeseuon ar eich cyfer chi a gallwch chi ymateb. Mae llawer o gyfranwyr yn gadael cyfarchion o groeso ar gyfer defnyddwyr newydd. Gall eraill ddefnyddio’r man yma i ddechrau sgwrs a dod i’ch adnabod chi’n well neu gael gwell dealltwriaeth o’ch golygiadau. Hefyd, mae gan bob erthygl dudalen Trafodaeth. Mae’r Wicipedwyr yn defnyddio’r dudalen hon i gynllunio sut maent am gydweithio ar y cynnwys ac i ddatrys dadleuon. Os yw rhywun am wybod pam rydych wedi golygu rhywbeth, neu eu bod am argymell erthygl arall i’ch sylw, byddent yn defnyddio tudalen Trafodaeth yr erthygl. Mae tudalen Trafodaeth yr erthygl hefyd yn fan da i ofyn am gymorth gyda’r erthygl. Noder: Mae’r gymuned hefyd yn galw Trafodaeth a Fy sgwrs yn dudalennau sgwrs

Rhowch gynnig arni! Cliciwch eich enw defnyddiwr ac yna Golygu, i olygu’ch tudalen Defnyddiwr.


Edrychwch ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael ar y bar offer golygu ... (Bras), (Italig), a (Dolen). Cliciwch (Uwch) i weld yr offer fformatio.


Mae canllaw cyflym i gystrawen wici (Wiki markup) ar dudalen gefn y cyfarwyddiadur yma.


O, mae rhywun newydd adael nodyn ar fy nhudalen sgwrs. Mae’r neges yn egluro i’m gwaith golygu gael ei wrthod am nad oeddwn i wedi dyfynnu ffynhonnell. Am fod y ffaith yma’n ymddangos ar wefan y llywodraeth, mi wnaf i’r golygu unwaith eto. Y tro yma byddaf yn cynnwys y ffynhonnell yn yr adran gyfeiriadau islaw’r erthygl ei hun. Dylai hynny weithio.

9

Bywyd erthygl

Er bod disgwyl i erthyglau Wicipedia fod yn fanwl ac wedi eu hysgrifennu’n dda, does dim disgwyl i unrhyw un ysgrifennu erthygl gynhwysfawr mewn un drafft yn unig. Fel arfer mae erthyglau yn dechrau’n fach ac yna’n aeddfedu gyda llawer o gydweithio, yn aml yn dilyn patrwm fel yma:

Mae’r erthyglau mwyaf llwyddiannus yn dechrau’n fach ac yn cynnwys crynodeb o’r testun (trosolwg), datganiad sy’n dweud pam bod y testun yn un hynod (“y ......cyntaf”, “y .....mwyaf”, “prifddinas.....”, ayb.), a ffynhonnell y tu hwnt i Wicipedia sy’n cadarnhau bodolaeth a phwysigrwydd y testun (cyhoeddiad neu wefan gredadwy). Yr enw ar yr erthygl sylfaenol yma yw eginyn. Os yw un o’r tri pheth yma ar goll, bydd y gymuned yn cymryd nad yw’r testun yn bwysig ac yn dileu’r erthygl. Wrth i ddefnyddwyr eraill ychwanegu testun a delweddau i erthygl, mae’n aeddfedu o fod yn drosolwg pynciol i fod yn erthygl fwy manwl sy’n cynnwys agweddau amrywiol fel rhai hanesyddol (er enghraifft “ym 1923, roedd ffactorau newydd...”), neu fyd-eang (er enghraifft “yn Ewrop, ystyrid hyn yn....”). Mae’n bosib y bydd cyfranwyr mwy actif yn enwebu eu herthygl ar gyfer proses Wicipedia o gyd-adolygu. Yma mae grŵp eang o Wicipedwyr yn edrych yn fanwl ar ansawdd yr erthygl. Erthyglau fu’n destun gwaith sylweddol yw’r rhai sy’n mynd drwy’r broses yma. Rhan o’r broses adolygu yw ymateb i sylwadau, cwestiynau ac awgrymiadau gan gyd- adolygwyr, ac ar sail yr adborth, mae’r awduron yn cynllunio strategaeth wella gan ddefnyddio tudalen Trafodaeth yr erthygl.








10

O’r diwedd, mae erthygl yn cyrraedd lefel ble mae hi wedi ei hysgrifennu mor dda, mae’n gynhwysfawr ac mae’r ffynonellau yn gadarn fel mai dim ond arbenigwyr all ychwanegu unrhyw beth iddi. Mae’n bosib y caiff yr erthyglau yma eu nodi’n erthyglau da. Mae ychydig o erthyglau yn cael eu cydnabod gan y gymuned fel rhai sydd o’r radd flaenaf. Mae’r rhain yn cael eu henwi’n erthyglau dethol. Mae erthyglau dethol yn cael eu harddangos ar brif dudalen Wicipedia. Mae’n cymryd amser ac ymdrech i ysgrifennu erthyglau ar y lefel yma. Mae cydweithio i greu erthygl ddethol yn rhywbeth sy’n rhoi boddhad ac mae hefyd yn codi’ch statws yng nghymuned Wicipedia. Fel gydag erthyglau eraill, mae’r gwaith o olygu erthygl ddethol yn parhau.

Rwy’n breuddwydio am gyfrannu i erthygl sy’n ymddangos ar y brif dudalen gwefan sydd â miliynau o ddarllenwyr.

Rhowch gynnig arni! Beth yw proses Wicipedia o gyd-adolygu? Dewiswch yr ateb cywir.

Grŵp o Wicipedwyr yn adolygu ansawdd erthygl Grŵp o arbenigwyr yn adolygu ansawdd erthygl

Sefydliad Wikimedia yn adolygu ansawdd erthygl





11

Beth sy’n gwneud erthygl o safon?

Mae erthygl Wicipedia o safon yn ganlyniad i strwythur sydd wedi’i ddiffinio’n dda, cynnwys gwyddoniadurol, a chymuned weithredol:

Strwythur: Mae darparu strwythur eglur i’r erthygl yn helpu’r darllenwr i ganfod gwybodaeth ac yn cynorthwyo golygyddion i sicrhau bod holl agweddau’r testun wedi’u trefnu’n dda. Un ffordd i ddysgu am strwythur yw astudio erthyglau dethol, goreuon erthyglau Wicipedia. Cewch fynediad i’r i’r holl erthyglau dethol drwy fynd i brif dudalen Wicipedia. Ar waelod erthygl ddethol Heddiw, cliciwch Mwy o erthyglau dethol. Yna sgrolio lawr at Cynnwys a dethol y pwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Mae’r rhan fwyaf o erthyglau o ansawdd yn dilyn y strwythur canlynol: Adran arweiniol sy’n crynhoi prif bwyntiau’r erthygl. Noder nad oes pennawd i’r adran arweiniol.

Mae corff yr erthygl yn dilyn yr adran arweiniol ac mae’n cynnwys penawdau ac is-benawdau penodol. Er enghraifft, gallai lleoliad daearyddol fod â’r penawdau canlynol: hanes, daearyddiaeth, hinsawdd, economi, gweinyddiaeth ddinesig, demograffeg , a diwylliant.

Daw atodiadau a throednodiadau wedi corff yr erthygl. Gall y rhain gynnwys llyfryddiaethau, dolenni i erthyglau Wicipedia eraill, nodiadau a chyfeiriadau, cyhoeddiadau perthnasol, a gwefannau.

Rhowch gynnig arni! Does dim penawdau i gorff erthygl. Dewiswch yr ateb cywir.

Cywir Anghywir


Pa agweddau sydd i’w gweld mewn erthygl wyddoniadurol o ansawdd? Dewiswch yr atebion cywir. Ffynonellau gwiriadwy Safbwynt niwtral Cyfarwyddiadau ‘sut i wneud’ Crynodeb Corff Troednodiadau



12

Cynnwys: Mae llawer o Wicipedwyr o’r farn mai cynnwys yw’r ffactor bwysicaf wrth farnu ansawdd erthygl. Mae’r gymuned Wicipedia wedi creu’r pedair canllaw yma i sicrhau ansawdd cyson.

Darparu Ffynonellau: Anogir awduron i ddarparu ffynonellau ble ceir gwybodaeth bellach. Dylai pob ffaith fod yn wiriadwy drwy ffynhonnell ddibynadwy.

Safbwynt Niwtral: Rhaid i erthyglau fod wedi eu hysgrifennu yn deg, heb ragfarn, a chan gyflwyno barn hynod a gyhoeddwyd eisoes.

Dim Cynnwys Hyrwyddol: Does dim lle i gynnwys hyrwyddol, cyfarwyddiadau ‘sut i...’, crynodebau, a chatalogau gwerthu yn Wicipedia.

Dim ymchwili personol: Nid yw hi’n briodol cynnwys eich syniadau newydd eich hun ar bwnc (mae Wicipedia yn galw hyn yn ymchwil wreiddiol), na’ch barn bersonol ar bwnc. Cymuned: Mae pob cyfraniad i Wicipedia wedi ei drwyddedu’n rhydd i’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu nad yw un golygydd yn berchen ar unrhyw erthygl. Gall pob cyfraniad gael ei olygu droeon gan sawl defnyddiwr gwahanol, ac mae hyn yn digwydd. Mewn geiriau eraill, gall pawb ymuno â’r broses benderfynu. Mae’r gymuned hefyd yn defnyddio Trafodaeth i gytuno ar strwythur cynnwys yr erthygl. Ar yr adegau pan hynny pan nad yw pobl yn cytuno, edrychwch ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael yn Cymorth>Cymuned Wicipedia. Mae gan rai awduron a golygyddion flynyddoedd o brofiad gyda Wicipedia a gall hyn fod yn adnodd gwerthfawr wrth ddatrys dadleuon.


Fedra i ddim dod o hyd i erthygl am y pwnc yma. Ddylwn i aros i rywun arall ddechrau’r erthygl?


13

Creu erthygl newydd

Mae llawer o destunau sydd eto i gael sylw erthygl ar Wicipedia. Os ydych chi’n credu bod testun ar goll o Wicipedia, chwiliwch am y testun dan enwau gwahanol. Er enghraifft, drwy ddefnyddio sillafiad gwahanol. Hefyd, edrychwch i weld a yw’r testun yn cael ei grybwyll mewn testunau tebyg. Er enghraifft gall ynys gael ei chrybwyll mewn erthygl am ei gwlad. Os nad oes sôn am y testun ar Wicipedia, mae’n bosib ei fod yn rhy annelwig i fod yn destun erthygl, rhywbeth fel band garej neu berson anhysbys sy’n ysgrifennu blog. Fodd bynnag, os ydych chi o’r farn y dylai’r testun gael ei gynnwys yn Wicipedia, beth am ystyried ysgrifennu’r erthygl eich hunain? Chwiliwch am deitl yr erthygl. Os nad yw’r erthygl yn bodoli, fe welwch chi deitl yr erthygl mewn hypergyswllt coch. Cliciwch yr hypergyswllt i ddechrau golygu erthygl newydd.

Bydd dechrau da i’ch erthygl newydd, cyn belled â’ch bod chi’n cynnwys y tair elfen ganlynol: 1. Crynodeb o’r testun 2. Pam fod y testun yn un hynod 3. Cyfeiriad at ffynhonnell gredadwy am y testun Mae fy erthygl Wicipedia cyntaf nawr ar-lein! Mi fydd hi’n gyffrous gweld sut daw’r gymuned at ei gilydd i’w hehangu hi.

14 Pan fyddwch yn dechrau erthygl mae angen lle i weithio. Lluniwch eich gwagle gweithio neu “bwll tywod” eich hun ble gallwch chi olygu’ch erthygl hyd nes bo ganddi’r tair elfen.

I greu’ch pwll tywod: Ewch i’ch Tudalen defnyddiwr>Cliciwch Golygu>Ysgrifennwch [[Defnyddiwr:>Eich Enw Defnyddiwr>/Pwll tywod]]>Cadw tudalen> Cliciwch y ddolen rydych newydd ei chreu. Rydych chi yn eich pwll tywod!

Defnyddiwch y pwll tywod i ysgrifennu’ch erthygl. Peidiwch ag anghofio clicio Cadw tudalen unwaith ichi orffen y golygu. Pan fyddwch yn barod, dewch o hyd i olygydd Wicipedia arall a allai fod â diddordeb yn y testun. Un ffordd i ganfod golygydd yw edrych ar dab Gweld Hanes erthygl testun tebyg, a gweld pwy sydd wedi cyfrannu i’r erthygl honno. Gadewch neges ar dudalen Trafodaeth y golygydd hwnnw gan ofyn iddynt olygu’ch erthygl. Pan fyddwch yn barod, copïwch gynnwys yr erthygl o’ch pwll tywod, ewch at yr enw testun a ddewisoch, clicio Golygu, pastio’r cynnwys a chadw’r dudalen. Nawr eich bod chi wedi creu erthygl newydd, peidiwch aros yn yr unfan. Cysylltwch eich erthygl gydag erthyglau eraill ble mae’r testun yn cael ei grybwyll.


Rhowch gynnig arni! Beth yw’r tair elfen i’w cynnwys yn eich erthygl newydd? Dewiswch yr ateb cywir.

Crynodeb, ei hynodrwydd, a ffynhonnell

Crynodeb, darlun, a dolen i erthygl arall

Enw, ei hynodrwydd, a ffynhonnell




15

Wicipediwr


Cyn fy nhaith i Foroco mis nesaf, byddaf yn defnyddio nodwedd Creu Llyfr Wicipedia. Byddaf yn casglu’r erthyglau sydd eu hangen arnaf ac argraffu teithlyfr personol. Mae llawer mwy i Wicipedia na beth feddyliais i ar yr olwg gyntaf.


18 I ble’r aeth yr amser? Rydw i newydd glicio Fy nghyfraniadau ar frig y dudalen a gweld bod gen i fwy na 100 o olygiadau. Rydw i’n cael cymaint o hwyl yn cysylltu gyda Wicipedwyr eraill, yn ysgrifennu erthyglau o safon, ac yn lledaenu gwybodaeth sydd ar gael yn rhad ac am ddim!


Nawr eich bod chi wedi darllen Croeso i Wicipedia, rydych yn: » Deall sut mae Wicipedia yn gweithio » Gallu creu cyfrif defnyddiwr ar gyfer Wicipedia » Deall rhyngwyneb defnyddwyr Wicipedia » Gallu rhestru’r gwahanol ffyrdd y medrwch chi gyfrannu i Wicipedia » Gallu cyfathrebu gyda defnyddwyr eraill drwy’ch tudalen Fy sgwrs »Gallu egluro sut mae erthygl yn esblygu ar Wicipedia »Gallu disgrifio nodweddion erthygl dda » Gallu creu erthygl newydd


Lluniwyd y cynnwys addysgiadol hwn gan brosiect Wikimedia Bookshelf. I lawr lwytho copi electronig o Croeso i Wicipedia a deunyddiau Bookshelf eraill, ewch i: http://bookshelf.wikimedia.org

Yn y lleoliad yma hefyd mae ffeiliau ffynhonnell sy’n caniatáu ichi gyfieithu, addasu ac ailddefnyddio deunyddiau Bookshelf.

17

Allwedd atebion Rhowch gynnig arni!

Sut mae Wicipedia yn gweithio? Pwy sy’n gallu golygu erthyglau ar Wicipedia Unrhyw un sydd â mynediad i’r Rhyngrwyd

Rhyngwyneb defnyddwyr Wicipedia Mae ffrind Sara, Josh, newydd ddechrau golygu ac angen gwybod mwy am bolisïau a chanllawiau Wicipedia, safonau’r gymuned a chymorth cyffredinol gan olygyddion. Ble mae cymorth ar gael? Cymorth

Sut medra i gyfrannu? Mae Sara yn hoff o gymryd lluniau o’r mannau y bu’n ymweld â nhw. Mi fedrith hi gyfrannu i Wicipedia fel: Darlunydd

Bywyd erthygl Beth yw proses Wicipedia o gyd-adolygu? Grŵp o Wicipedwyr yn golygu ansawdd erthygl

Beth sy’n gwneud erthygl o safon? 1. Does dim penawdau i gorff erthygl Anghywir


2. Pa agweddau sydd i’w gweld mewn erthygl wyddoniadurol o ansawdd ? Ffynonellau gwiriadwy safbwynt niwtral crynodeb corff, troednodiadau


Creu erthygl newydd Beth yw’r tair elfen i’w cynnwys yn eich erthygl newydd? Crynodeb, ei hynodrwydd, a ffynhonnell

Ydych chi’n un o’r 12 miliwn o bobl sy’n defnyddio Wicipedia bob dydd?

Pob dydd mae pobl ym mhob cwr o’r byd yn defnyddio Wikipedia i’w helpu gyda phrosiectau ysgol, cynlluniau busnes, ymchwil bersonol, ac i gynllunio teithiau. Maent yn ei ddefnyddio i roi bywyd i syniadau newydd, i drafod cysyniadau. Maent yn ei ddefnyddio i archwilio gwledydd pellennig, diwylliannau hynafol, celfyddyd gain, arweinwyr dinesig a digwyddiadau diweddar.


Canllaw cyfeirio yw Croeso i Wicipedia ar gyfer unrhyw un sydd am gymryd y cam nesaf a helpu gyda’r gwaith o gasglu a rhannu cyfanswm holl wybodaeth ddynol.


Dilynwch Sara wrth iddi fynd ati i wneud ei golygiadau cyntaf ar Wicipedia. Drwy’r broses fe ddysgwch chi am gysyniadau, canllawiau, gwybodaeth ac offer allweddol i’ch denu i ddechrau cyfrannu i Wicipedia.










Wikimedia UK 4th Floor Development House, 56-64 Leonard St, London EC2A 4LT

Elusen yw Wikimedia UK sy’n ymroddedig i gefnogi Wikipedia a phrosiectau Wiki eraill yn y DU.