Cymorth:Hanfodion Hyfforddwyr:Sut i ddefnyddio Wicipedia fel arf dysgu

Oddi ar Wicipedia

Dewisiwch 'Golygu' i weld y testun yn ei fformat wreiddiol a phrawfddarllenwch os gwelwch yn dda. Peidiwch a phoeni am y bylchau; bydd y llyfryn hwn yn cael ei argraffu ar bapur yn ogystal a fersiwn ar-lein.

Hanfodion Hyfforddwyr: Sut i ddefnyddio Wicipedia fel arf dysgu






Wikimedia Foundation 2 Hanfodion Hyfforddwyr



Gwyddoniadur ar-lein rhad ac am ddim yw Wikipedia sy’n agored i’w olygu gan unrhyw un. Daw Wikipedia yn bumed o ran nifer yr ymweliadau i wefan, ac mae’n adnodd y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr prifysgol yn ei ddefnyddio. Ond mae llawer o addysgwyr ym mhob cwr o’r byd wedi defnyddio Wikipedia fel arf dysgu yn nosbarthiadau eu prifysgolion. Yn y llyfryn hwn, fe ddown â’u profiadau ynghyd i’ch cynorthwyo i benderfynu sut i ddefnyddio Wikipedia yn eich ystafell ddosbarth.


Rydym wedi trefnu’r llyfryn yn dair rhan:

Cynllunio aseiniadau Dewch i wybod beth yw prif bolisïau Wicipedia, a chael mwy o wybodaeth am gynllunio aseiniadau, gyda ffocws ar ofyn i fyfyrwyr ysgrifennu erthyglau Wicipedia ar gyfer y dosbarth.

Yn ystod y tymor Dysgwch beth yw strwythur da ar gyfer erthygl Wicipedia, sut dylai myfyrwyr ddewis erthyglau i’w gwella, awgrymiadau ynghylch beth i roi sylw iddo mewn sesiwn lab Wicipedia, a sut i ryngweithio gyda’r gymuned o olygwyr Wicipedia.

Ar ddiwedd y tymor Cymrwch gip ar strwythur asesu enghreifftiol a weithiodd ar gyfer hyfforddwyr eraill.

Deall polisïau allweddol:


Ers dechrau Wikipedia yn 2001, mae’r gymuned o olygwyr - “Wicipedwyr” - wedi datblygu sawl polisi allweddol i sicrhau bod Wikipedia mor ddibynadwy a defnyddiol â phosib. Rhaid i unrhyw aseiniad y byddwch yn ei defnyddio yn eich ystafell ddosbarth ddilyn yr egwyddorion hyn. Mae dealltwriaeth o’r polisïau canolog hyn yn sicrhau eich bod yn datblygu aseiniad sy’n cwrdd â’ch amcanion dysgu, a’ch bod hefyd yn gwella Wikipedia.


Free content

“Mae’r gwaith y mae myfyrwyr yn ei gyfrannu i Wicipedia yn gynnwys rhydd ac fe ddaw’n rhan o’r eiddo cyffredin. Gall bobl eraill ei olygu a’i ailddefnyddio dan drwydded rydd. Rhaid i bob gwaith sy’n ymddangos ar Wicipedia fod yn wreiddiol. Nid yw’n briodol copïo a phastio o ffynonellau eraill.” — User:Lechatjaune photo CC-BY-SA 3.0 by User:Lechatjaune

Reliable sources

“Y ffynonellau mwyaf dibynadwy ar Wicipedia yw ffynonellau eilaidd sydd ag enw da am wirio ffeithiau, megis llyfrau a gyhoeddwyd gan weisg academaidd, siwrnalau wedi eu cyd-adolygu, a phapurau newydd rhyngwladol. Dylech osgoi ddyfynnu blogiau, datganiadau’r wasg a ffynonellau eraill llai ffurfiol. Dylai myfyrwyr ddefnyddio ffynonellau sy’n cynrychioli safbwyntiau arwyddocaol, yn hytrach nag astudiaethau un-tro neu waith sydd ar y cyrion.” — User:Mariana Jó photo CC-BY-SA 3.0 by User:Mariana Jó Neutral point of view

“Rhaid i bopeth sydd ar Wicipedia fod wedi ei ysgrifennu o safbwynt niwtral. Nid man i ehangu neu eirioli yw Wicipedia. Rhaid i bob gwybodaeth gael ei gyflwyno’n gywir a heb dueddiad, gan ddisgrifio’r holl safbwyntiau arwyddocaol a gyhoeddwyd gan ffynonellau dibynadwy. Dylech egluro’r gwahanol farnau sydd i’w cael ar destun, nid dadlau dros y naill neu’r llall.” — User:GorillaWarfare photo CC-BY-SA 3.0 by User:GorillaWarfare

Notability

“Rydym yn defnyddio’r cysyniad o hynodrwydd i bennu a yw testun yn gwarantu erthygl. Yn gyffredinol, fe ystyrir testun i fod yn un hynod os yw trydydd parti wedi rhoi sylw iddo mewn ffynhonnell ddibynadwy. Os yw eich myfyrwyr yn dechrau erthyglau newydd, dylent ddarganfod sawl ffynhonnell annibynnol ddibynadwy ar y testun cyn dechrau.” — User:Mohamed Ouda photo CC-BY-SA 3.0 by User:Faris knight

Good faith

“Dylai pawb sy’n golygu Wicipedia, gan gynnwys myfyrwyr, gymryd bod popeth yn cael ei wneud mewn ewyllys da wrth ymwneud ag eraill. Mae hynny’n golygu ein bod yn trin ein gilydd gyda pharch ac yn cymryd bod pawb yn gweithredu gyda’u un amcan: gwella’r cynnwys ar Wicipedia. Rydym yn rhoi pwys ar warineb wrth drafod testunau cynhennus. Cofiwch drafod y cynnwys sydd i’w olygu bob tro, ac nid y person sy’n gwneud y golygu, a pheidiwch byth ag ymosod yn bersonol.” — User:Mike Christie photo CC-BY-SA 3.0 by User:Mike Christie

3

Cynllunio eich aseiniad


Mae sawl opsiwn i’w gael yn Wicipedia o ran aseiniadau, yn seiliedig ar eich amcanion dysgu. Rhowch ystyriaeth i setiau sgiliau eich myfyrwyr, faint o gyfraniad yr hoffech chi i’ch myfyrwyr ei wneud i Wicipedia, a faint o amser sydd gennych ar y cwrs i’w neilltuo ar gyfer yr aseiniad.

Yn y llyfryn hwn, fe rown sylw i’r aseiniad er mwyn gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu erthygl ar destun sy’n berthnasol i’r cwrs, un o’r aseiniadau mwyaf cyffredin gan hyfforddwyr.


1

Aseiniad: Ysgrifennu erthygl Yn yr aseiniad “Ysgrifennwch erthygl”, rydych yn gofyn i’ch myfyrwyr ehangu ar erthygl sy’n bod eisoes neu greu erthygl o’r newydd ar destun sy’n ymwneud â’r cwrs. Gan ddefnyddio ffynonellau dibynadwy, bydd myfyrwyr yn dogfennu gwybodaeth am y testun. Yn aml, mae hyfforddwyr yn defnyddo’r aseiniad yma ar y cyd gyda phapur hirach arall all-lein; mae erthyglau Wicipedia y myfyrwyr yn ffurfio adrannau adolygu llenyddiaeth eu papurau.



Aseiniadau amgen:

Cyfieithu erthygl Mae athrawon ieithoedd o’r farn bod yr aseiniad yma yn un ymarferol iawn. Mae’ch myfyrwyr yn dewis erthyglau o’r radd flaenaf o Wicipedia’r iaith maent yn ei hastudio nad sydd ar gael ar hyn o bryd ar Wicipedia eu hiaith frodorol, ac yn cyfieithu’r erthyglau hynny i’w iaith frodorol.


Ychwanegu dyluniadau i erthygl Os yw’ch myfyrwyr yn hen law ar y cyfryngau, gall hyn fod yn ffordd wych o gyfrannu at Wicipedia mewn dull di-destun. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi tynnu lluniau cofadeiladau lleol i ddarlunio erthyglau testun yn unig, wedi dylunio graffigwaith gwybodaeth i ddarlunio cysyniadau ar Wicipedia, neu wedi creu fideos i arddangos yn glyweledol yr hyn mae’r erthyglau yn eu disgrifio mewn geiriau.

Golygu testun Am fod Wicipedia yn adnodd sy’n cael ei greu gan y defnyddiwr, fe welwch chi fod digonedd o wallau teipio a bod digon o le i wella’r rhyddiaith. Mae gofyn i fyfyrwyr fireinio gramadeg erthygl yn ffordd dda o ddysgu sgiliau golygu testun a meddwl yn feirniadol ynglŷn â sut mae ysgrifennu’n dda yn eich disgyblaeth chi.




Mae llyfryn atodol, “Astudiaethau Achos: Sut mae hyfforddwyr yn dysgu gyda Wicipedia/” sy’n cynnwys dolenni i feysydd llafur a disgrifiadau o aseiniadau y mae hyfforddwyr wedi eu defnyddio mewn gwahanol rannau o’r byd. Mae rhai o’r aseiniadau cyffredin yn cael eu rhestru uchod, ond fe’ch anogir i edrych drwy’r llyfryn Astudiaethau Achos am ragor o syniadau. http://education.wikimedia.org /casestudies


4 Hanfodion Hyfforddwyr / Cynllunio aseiniadau



2 3

Amcanion dysgu Fel rheol mae gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu erthygl Wicipedia yn ffordd dda o gyflawni’r pedwar amcan dysgu yma.

Datblygu sgiliau ysgrifennu Mae myfyrwyr yn dysgu sut i ysgrifennu ar gyfer cymuned o ddarllenwyr amrywiol a chwilfrydig sy’n cynrychioli canran arwyddocaol o’r boblogaeth ar-lein fyd-eang. Hefyd, gyda phwyslais Wicipedia ar wiriadwyedd a “dim ymchwili gwreiddiol”, mae myfyrwyr yn ennill gwell dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng arddull ysgrifennu sy’n seiliedig ar ffeithiau ac un darbwyllol.


Llythrennedd cyfryngau a gwybodaeth Mae proses datblygu cynnwys Wicipedia sy’n dryloyw a chydweithiol yn caniatáu i fyfyrwyr ennill gwell dealltwriaeth o sut mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu a’i defnyddio. Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ystyried y ffynonellau sydd ar gael a’r defnydd priodol a wneir ohonynt.


Meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwil Mae myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi erthyglau Wicipedia yn feirniadol a phennu pa mor dda mae erthygl yn trafod y testun, asesu pa wybodaeth sydd ar goll, a gwerthuso i ba raddau mae’r erthygl wedi ei dogfennu gyda ffynonellau dibynadwy. Yn y cyd-destun eangach, mae gwerthuso erthyglau Wicipedia yn cynorthwyo’ch myfyrwyr i ddysgu sut i werthuso gwahanol ffynonellau, nid dim ond Wicipedia. Mae’r broses o asesu erthygl sy’n bod eisoes a phenderfynu pa wybodaeth sydd ar goll yn debyg iawn i’r broses o adolygu llenyddiaeth sy’n hanfodol i ymchwil ysgolheigaidd.


Cydweithio Mae myfyrwyr yn dysgu yn llygad y ffynnon sut i gydweithio gyda chymuned o olygwyr gwirfoddol gweithredol (gan gynnwys eu cyd-fyfyrwyr) i ddatblygu cynnwys gwyddoniadurol. Maent yn aml yn derbyn adborth ar eu gwaith ac yn dysgu negodu gyda golygyddion eraill wrth adeiladu cydsyniad ynghylch cynnwys.


Cynllunio’r maes llafur Dywed hyfforddwyr profiadol ei bod hi’n hanfodol bod myfyrwyr sydd am olygu Wikipedia yn gyfforddus nid dim ond gyda chystrawen wici, ond hefyd gyda’r gymuned. Bydd gofyn am aseiniadau bychain yn gynnar yn y tymor, megis y rhai a restrir isod, yn eu helpu i gynefino â’r wefan. Mae hyfforddwyr sydd ddim yn mynd ati i sefydlu’r cerrig milltir yma yn ystod y tymor fel arfer yn gweld nad yw pethau’n mynd cystal gyda’u haseiniadau.

Mae’r tasgau syml yma yn paratoi myfyrwyr ar gyfer aseiniad Wicipedia hirach drwy gyflwyno sgiliau fydd eu hangen arnynt yn ddiweddarach.

› Dylai myfyrwyr lunio tudalen defnyddwyr, gan gynnwys brawddeg neu ddwy amdanynt eu hunain a chynnwys delwedd o Eiddo Cyffredin Wikimedia (storfa ddelweddau Wicipedia). › Anogwch y myfyrwyr i lwytho ffotograff i fyny i Eiddo Cyffredin Wikimedia y maent hwy wedi eu cymryd eu hunain. › Gofynnwch i fyfyrwyr wella eglurder brawddeg neu ddwy mewn erthygl sy’n berthnasol i’r dosbarth. › Gall y myfyrwyr ddefnyddio daleniad o’r cwrs i ychwanegu cyfeiriad i erthygl. › Unwaith iddynt ddethol testun ar gyfer eu tasg ysgrifennu, dylai myfyrwyr bostio neges ar dudalen sgwrs yr erthygl gan gynnwys rhywfaint o ffynonellau arfaethedig. › Gofynnwch i fyfyrwyr bostio amlinell o’r newidiadau arfaethedig ar y dudalen sgwrs cyn dechrau ysgrifennu.

Unwaith i fyfyrwyr gwblhau’r cerrig milltir yma, byddant yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth weithio ar Wicipedia. Mae gan fyfyrwyr dueddiad i ohirio, felly mae’n well defnyddio’r rhain fel cerrig milltir cynnar i’w cwblhau cyn iddynt ddechrau ysgrifennu.


Mae llyfryn atodol ar gael sy’n cynnig maes llafur syml y bu tros 100 o hyfforddwyr yn ei ddefnyddio wrth wneud y math yma o aseiniad. Lawr lwythwch y llyfryn yn http://education.wikimedia.org /syllabus




Cynllunio aseiniadau / Hanfodion Hyfforddwyr 5 During the term

Dewis erthygl


Gall dewis pa erthygl y dylai myfyrwyr weithio arni fod yn dipyn o her. Mae rhai hyfforddwyr yn creu rhestr o erthyglau ac yn gofyn i fyfyrwyr ddewis o’r rhestr; mae eraill yn gofyn i fyfyrwyr gynnig testunau. Os hoffech chi i’ch myfyrwyr greu erthyglau o’r newydd, yn hytrach na gwella erthyglau sy’n bod eisoes, sicrhewch eu bod wedi darllen polisi hynodrwydd Wicipedia a’u bod yn hyderus fod y testunau yn rhai hynod – hynny yw, bod digonedd o ffynonellau trydydd-parti dibynadwy ar gael yn eich maes.


Beth yn union sy’n gwneud erthygl Wicipedia dda? Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch myfyrwyr yn cyfarwyddo’ch hunain â strwythur erthygl Wicipedia nodweddiadol yn eich disgyblaeth, fel bod myfyrwyr yn gwybod pa fathau o adrannau y bydd disgwyl iddynt eu cyfrannu. Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi meddwl am strwythur erthygl gwyddoniadur o’r blaen, felly mae’n bwysig treulio rhai munudau yn y dosbarth yn egluro sut mae gwybodaeth wedi ei strwythuro mewn gwyddoniaduron.


Pethau i’w gwneud › Gofynnwch i’ch myfyrwyr ddewis testun sydd wedi ei hen sefydlu yn y ddisgyblaeth, ond heb fawr o gynrychiolaeth ar Wicipedia. Os oes llawer o lenyddiaeth ar gael ar y testun, ond dim ond ychydig o wybodaeth sydd i’w chael ar Wicipedia, yna dyma’r man gorau o ran dechrau ar y gwaith. › Edrychwch am erthyglau syn cael eu dosbarthu’n rhai “cychwyn” ( “start”) neu “eginyn” (“stub”) ar broses asesu fewnol Wicipedia. Fe welwch chi asesiad yr erthygl o fynd i’w thudalen sgwrs. › Sicrhewch eich bod yn chwilio am sawl amrywiad gwahanol ar y term cyn creu erthygl. Fe welwch chi’n aml fod testun eisoes wedi cael sylw dan enw gwahanol. Pethau i’w hosgoi › Fe’ch cynghorir i beidio mynd ati i geisio gwella erthyglau ar destun eang iawn (e.e. y gyfraith, neu erthyglau sydd eisoes o ansawdd uchel ar Wicipedia (yr “Erthyglau Dethol”). Mae’n fwy o her gwella’r rhain mewn modd effeithiol. › Peidiwch â cheisio gwella testunau sy’n hynod ddadleuol, pethau fel cynhesu byd-eang, erthylu, neu Seientoleg. Yn aml iawn mae testunau dadleuol yn arwain at ymrafael ar Wicipedia. Yn hytrach, dylid annog myfyrwyr i ddechrau is-erthyglau.

. › Dylid osgoi gweithio ar erthyglau ag iddynt fawr o lenyddiaeth. Gwaith anodd fydd hi i fyfyrwyr fedru darparu digon o ffynonellau dibynadwy i greu erthygl Wicipedia.

› Peidiwch â chychwyn erthyglau ble mae’r teitl yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ar ffurf traethawd: “Yr Effaith gafodd yr Argyfwng Morgeisi Eilaidd ar Economi’r Unol Daleithiau a’r Economi Fyd-eang” yn hytrach na “Yr Argyfwng Morgeisi Eilaidd”. Gwyddoniadur yw Wicipedia, ac nid yw traethodau yn briodol.











6 Hanfodion Hyfforddwyr / Yn ystod y tymor


Hanfodion Hyfforddwyr 7


Strwythur nodweddiadol erthygl Wicipedia Mae erthygl Wicipedia o safon yn ffrwyth strwythur amlwg, cynnwys gwyddoniadurol, a chymuned weithredol


Adran arweiniol Dylai adran arweiniol grynhoi’r pwyntiau allweddol sy’n cael sylw yn yr erthygl. Noder nad oes pennawd i’r adran arweiniol. Dylai’r frawddeg gyntaf gynnig diffiniad o destun yr erthygl. .



Gwybodlen Mae nifer o erthyglau yn cynnwys gwybodlen sy’n disgrifio prif elfennau’r testun. Dewch o hyd i erthygl ar destun tebyg i’ch un chi a chopïwch y cod ar gyfer y wybodlen er mwyn ychwanegu un i’ch erthygl.



Corff yr erthygl Mae penawdau amlinellu’r adrannau priodol. Yn yr erthygl hon, mae’r corff yn rhoi sylw i hanes y corwynt yn ogystal â’i effaith.



Delweddau Mae modd ychwanegu delweddau sydd ar drwydded rydd i erthyglau Wicipedia o Gomin Wicipedia. .



Atodiadau a throednodiadau Yn dilyn y cynnwys daw adran sy’n cynnwys erthyglau Wicipedia eraill perthnasol (“Gweler hefyd”), yr adnoddau a ddefnyddiwyd yn yr erthygl (“Cyfeiriadau”), a rhestr o wefannau eraill i fynd iddynt am ragor o wybodaeth (“Dolenni allanol”). During the term

Cyflwyno hanfodion wici i fyfyrwyr


Yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno hanfodion Wicipedia, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i olygu, a’r ffaith bod ysgrifennu erthygl ar gyfer Wicipedia yn wahanol i ysgrifennu traethawd coleg arferol.



Os bydd amser yn caniatáu, ewch â’ch myfyrwyr i lab gyfrifiaduron am gyflwyniad ymarferol i’r gwaith o olygu wici. Bydd y myfyrwyr yn gweld y golygu’n digwydd yn “fyw” a bydd yn fan diogel iddynt wneud camgymeriadau a gofyn cwestiynau amser real. Mae sesiwn lab fel yma fel arfer yn para rhyw awr neu ddwy.

Os ydych yn teimlo’n ddigon cyfforddus gyda golygu wici, byddwch yn gallu arwain y lab yma eich hunan. Os na, yna gallwch recriwtio Wicipedwyr lleol neu gysylltu â Chennad Wici eich campws (os oes un yn eich Prifysgol).


Awgrymiadau ynglŷn â beth i’w drafod ›Fformatio sylfaenol › Golygu wicigod › Sut i greu dolenni › Sut i greu cyfeiriadau › Sut i greu pwll tywod › Gwahaniaethau rhwng tudalennau erthygl, tudalennau sgwrs, a thudalennau defnyddwyr › Defnyddio tudalennau sgwrs




Os yw’n well gennych ofyn i’ch myfyrwyr wneud hyn yn eu hamser eu hunain, mae hyfforddiant ar-lein ar gael yn : http://enwp.org /WP:STUDENT Mae’n well i fyfyrwyr greu eu cyfrifon defnyddwyr cyn dod i’r lab. Mae hyn yn caniatáu iddynt ddarllen polisi enw defnyddiwr Wicipedia ac ystyried pa mor anhysbys maent am fod ar y safle (mae hefyd yn osgoi’r cyfyngiadau awtomatig sy’n atal creu cyfrifon niferus o’r un lleoliad mewn cyfnod byr o amser).


Y gwahaniaeth rhwng Wicipedia a thraethawd coleg

Dyma rai o’r pethau y bydd raid i fyfyrwyr roi ystyriaeth ychwanegol iddynt wrth fynd ati i ysgrifennu erthygl Wicipedia:

Ysgrifennu sy’n seiliedig ar ffeithiau, nid perswâd Yn hytrach na chreu dadl, bydd myfyrwyr yn ysgrifennu disgrifiad o’r wybodaeth am destun, gan ddyfynnu ffynonellau dibynadwy.

Naws ffurfiol ac iaith sylfaenol Dylid ysgrifennu erthyglau mewn naws ffurfiol, ond mewn iaith eglur. Nid Wicipedia yw’r lle i arddangos geirfaoedd helaeth. Mae cynulleidfa Wicipedia yn fyd-eang, a bydd pobl na glywodd am y pwnc erioed o’r blaen yn darllen beth mae’r myfyrwyr yn ei ysgrifennu. Rhaid i fyfyrwyr gyfleu hanfodion y testun yn eglur.


Dim darnau mawr o ddyfyniadau Mae ysgrifennu academig yn ffafrio darnau mawr o ddyfyniadau o ffynonellau dibynadwy, ond dywed polisi Wicipedia y dylech geisio aralleirio pan fo hynny’n bosib. Maent yn annog dyfynnu o ffynonellau, ond dylai myfyrwyr geisio roi’r cyd-destun yn eu geiriau eu hunain a dyfynnu dim ond un neu ddwy o frawddegau allweddol o’r gwreiddiol.


8 Hanfodion Hyfforddwyr / Yn ystod y tymor Rhyngweithio gyda’r gymuned

Mae cydweithio gyda chymuned Wicipedia yn allweddol i’ch myfyrwyr o ran manteisio ar holl fuddion aseiniad Wicipedia. Ond sut mae gwneud hyn?



darluniau CC-BY-SA 3.0 gan Jelly Helm


Mae Wicipedwyr yn rhyngweithio drwy ysgrifennu negeseuon ar gyfer ei gilydd ar dudalennau siarad yr erthyglau neu dudalennau siarad y defnyddwyr. Os yw defnyddiwr arall am gyfathrebu â chi, mae’n debyg y bydd ef/hi yn gadael neges yn uniongyrchol ar eich tudalen siarad neu ar dudalen siarad yr erthygl y buoch y gweithio arni. Mae’n syniad da monitro ac ymateb i’r negeseuon yma.

Mae’r holl ryngweithio ar Wicipedia yn tybio’r gorau. Hynny yw, hyd nes bo modd profi fel arall, rydym yn cymryd bod golygyddion eraill yma i helpu gyda’ r gwaith o wella’r gwyddoniadur. Felly, dylid ymateb i bob golygydd gyda pharch.

Wrth wneud newidiadau i erthyglau Wicipedia, mae disgwyl i olygyddion roi eglurhad byr o’r newidiadau mewn crynodeb olygu. Pan fyddwch yn cwblhau’r blwch bach yn y ffenestr olygu gyda geiriau fel “golygu testun” eu “ychwanegu cyfeiriad”, bydd eraill yn gallu dilyn hanes yr erthygl o glicio ar y tab “Gweld hanes”.

Arferion Fel gydag unrhyw gymuned, mae i Wicipedia ei harferion. Dyma ganllawiau syml i’ch helpu i gyfathrebu â Wicipedwyr eraill: › Tybiwch y gorau: Cymerwch fod golygyddion eraill yn ceisio gwella’r prosiect. Ceisiwch ddeall eu safbwynt. Trafodwch. Negodwch. › Byddwch yn gwrtais a chofiwch ei bod hi’n anoddach darllen coegni ac eironi mewn testun nag ar ffurf lafar. › Llofnodwch eich pyst ar dudalennau siarad bob tro drwy ddefnyddio pedwar tild (Llywelyn2000 (sgwrs) 08:36, 17 Rhagfyr 2013 (UTC)), sy’n ychwanegu’ch enw defnyddiwr a’r dyddiad yn awtomatig, fel bod eraill yn gallu dilyn pwy sy’n dweud beth › Trafodwch unrhyw newidiadau mawr rydych am eu gwneud i’r gwyddoniadur ar dudalen siarad yr erthygl. › Tafodwch gynnwys erthygl, nid y golygwyr. Peidiwch ag ymosod yn bersonol.[ateb]


Yn ystod y tymor / Hanfodion Hyfforddwyr 9 Asesu gwaith myfyrwyr


Sut mae asesu cyfraniadau’ch myfyrwyr i Wicipedia a’u gwaith ysgrifennu am Wicipedia? Gall dyfeisio cyfarwyddyd graddio fod yn hawdd neu’n heriol, yn ôl cymhlethdod yr aseiniad. Dyma gyfarwyddyd graddio enghreifftiol a weithiodd yn dda ar gyfer hyfforddwyr eraill.




Strwythur Graddio Enghreifftiol


5% yr un (x4)


10%


10%


50%


10%


Gradd y myfyriwr Gradd am gymryd rhan mewn ymarferion Wicipedia cynnar Cymryd rhan mewn blog dosbarth neu drafodaethau dosbarth Cyd-adolygu a gweithio gyda gweddill y dosbarth Ansawdd eich prif gyfraniadau Wicipedia Traethawd myfyriol 10 Hanfodion Hyfforddwyr / Yn dilyn y tymor


Ymarferion Wicipedia cynnar A lwyddodd myfyrwyr i gwblhau’r cerrig milltir (y cyfeiriwyd atynt gyntaf ar dudalen 5) a restrir yn eich maes llafur?


Blog dosbarth neu drafodaeth dosbarth Mae llawer o hyfforddwyr yn gofyn i fyfyrwyr gadw blog byw o’u profiadau. Bydd rhoi anogaeth bob rhyw wythnos neu ddwy, megis “I ba raddau mae’r golygyddion ar Wicipedia yn grŵp sy’n hunan-ddethol a pham?” yn eu cynorthwyo i ddechrau meddwl am y materion eangach sy’n berthnasol i’r gymuned wyddoniadurol ar-lein yma. Bydd hefyd yn ffordd o greu gwaith i’w raddio ar, ac oddi ar y wici. Os bydd gennych amser yn yr ystafell ddosbarth, gall y trafodaethau yma fod yn arbennig o adeiladol.


Cyd-adolygu Bydd y myfyrwyr yn adolygu gwaith ei gilydd ar Wicipedia, gan adael adolygiadau ar gyfer ei gilydd ar y wefan ac oddi arni. Gall yr arfarniadau yma fod ar gwestiynau fel pa mor ddibynadwy yw’r cyfeiriadau, pa mor dda yw ymdriniaeth yr erthygl o’r testun neu ba mor dda y cafodd ei hysgrifennu.


Ansawdd cyfraniadau Mae llawer o hyfforddwyr yn cyferbynnu erthygl cyn ac wedi i fyfyriwr fod yn gweithio arni, gan ddefnyddio hanes yr erthygl. Mae modd cymharu’r fersiwn gychwynnol gyda’r un derfynol, gan amlygu’r cyfraniadau a wnaed gan y myfyrwyr, a gweld y newidiadau unigol a wnaed ganddynt. Efallai yr hoffech i’ch myfyrwyr wneud y gwaith cymharu yma eu hunain a’i ychwanegu at y portffolio i’w gyflwyno i’ch sylw.


Traethawd myfyriol Wedi i’r aseiniad ddirwyn i ben, gofynnwch i’r myfyrwyr ysgrifennu traethawd myfyriol byr ar eu profiadau o ddefnyddio Wicipedia. Mae hyn yn gweithio’n dda ar gyfer prosiectau byr ar Wicipedia, a rhai hir. Amrywiad diddorol o hyn yw gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu fersiwn fer o’u traethawd cyn dechrau golygu Wicipedia, gan amlinellu’u disgwyliadau, ac yna wedi cwblhau’r aseiniad, gofyn iddynt fyfyrio ar ba un ai a wireddwyd y disgwyliadau hynny.

ional resources Adnoddau ychwanegol

Ar gyfer hyfforddwyr


Astudiaethau Achos: Sut mae athrawon prifysgol yn dysgu gyda Wicipedia Mae pymtheg o athrawon o chwe gwlad wahanol yn ymddangos yn y llyfryn hwn, gyda phob un yn egluro sut mae ef neu hi yn defnyddio Wicipedia yn yr ystafell ddosbarth neu sut aethant ati i raddio’r aseiniad. Mae fersiwn y we o’r llyfryn hefyd yn cynnwys dolenni i’r meysydd llafur a thaflenni ar gyfer aseiniad.

http://education.wikimedia.org/casestudies

Maes Llafur Enghreifftiol Canllaw fesul wythnos sy’n egluro sut i gynnwys aseiniad “ysgrifennu erthygl Wicipedia” yn eich dosbarthiadau. Mae’n cynnwys cerrig milltir allweddol a brofwyd i fod yn effeithiol o ran sicrhau bod myfyrwyr yn cael y buddion addysgol gorau o’r profiad o olygu Wicipedia.

http://education.wikimedia.org/syllabus

Cyfeiriadaeth Ar-lein: Wicipedia fel Arf Dysgu

Rydym yn awgrymu’n gryf bod pob hyfforddwr yn cwblhau’r gyfeiriadaeth ar-lein ar gyfer addysgwyr cyn cynllunio maes llafur. Mae’n gyflwyniad i ddiwylliant a rheolau Wicipedia, yn arddangos hanfodion golygu, ac yn eich tywys drwy aseiniad Wicipedia nodweddiadol fel yr un yma:

http://enwp.org/WP:EDUCATOR

Ar gyfer myfyrwyr


Croeso i Wicipedia Cyflwyniad sylfaenol i gyfrannu i Wicipedia: sut i greu cyfrif Wicipedia, sut i ddechrau golygu, a sut i gyfathrebu gyda chyfranogwyr eraill. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae erthyglau yn esblygu ar Wicipedia a sut i farnu beth yw ansawdd erthygl sydd eisoes yn bod.

. <http://education.wikimedia.org/ >welcometowikipedia


Hanfodion Golygu Anogir myfyrwyr i ddilyn yr hyfforddiant ar-lein sy’n eu harwain drwy hanfodion cyfrannu i Wicipedia. http://enwp.org/WP:STUDENT


Adnoddau Ychwanegol / Hanfodion Hyfforddwyr 11




Ydych chi’n barod i ymuno â Rhaglen Addysg Wicipedia? Mae rhaglenni addysg i’w cael eisoes mewn sawl gwlad, ac mae gwirfoddolwyr Wikimedia wrthi’n creu rhaglenni newydd bob tymor. Mewn gwledydd ble mae Rhaglen Addysg Wicipedia (Wikipedia Education Program) ar waith, efallai bod Cenhadon Wicipedia gwirfoddol ar gael i gynnig cymorth i’ch myfyrwyr ac i chithau wrth ddysgu beth yw’r ffordd orau i’ch dosbarth gyfrannu at Wicipedia.


Ymunwch â ni! Am ragor o wybodaeth, ewch i http://education.wikimedia.org Mae pob delwedd o Gomin Wicimedia dan drwydded CC-BY-SA neu barth cyhoeddus oni nodir fel arall. Mae’r cynnwys sydd i’w gael yma ar gael da dan Drwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike v.3.0 (<http://en.wikipedia.org/wiki/ >Wikipedia:CC-BY-SA) neu unrhyw fersiwn ddiweddarach.



Nid yw nodau masnach a logos Wikimedia Foundation nac unrhyw fudiad arall wedi eu cynnwys dan delerau’r drwydded Creative Commons. Mae Wikimedia Foundation, Wikipedia, Commons, MediaWiki, Wiktionary, Wikibooks, Wikisource, Wikinews, Wikiquote, Wikiversity, Wikispecies, Wikidata, Wikivoyage, a Meta-Wiki yn aros i’w cofrestru fel nodau masnach neu maent yn nodau masnach cofrestredig Wikimedia Foundation.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Polisi Nodau Masnach, <http://wikimediafoundation.org/wiki/ >Trademark_Policy.

Am gwestiynau eraill ynghylch ein telerau trwyddedu neu bolisi nodau masnach, danfonwch e-bost i legal@wikimedia.org





Yn cynnwys 10% o ffibrau ol-ddefnyddiwr wedi ei ailgylchu, proses sy’n rhydd o glorin elfennol, a gynhyrchwyd gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy

--Llywelyn2000 (sgwrs) 08:36, 17 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]