Cymorth:Hanes tudalen

Oddi ar Wicipedia

Mae gan bob tudalen y gellir ei golygu ar Wicipedia hanes tudalen cysylltiedig, sy'n cynnwys dolenni i'r holl fersiynau blaenorol o wicitestun y dudalen honno, yn ogystal â chofnod o ddyddiad ac amser (yn UTC) bob golygiad, enw defnyddiwr neu gyfeiriad IP y defnyddiwr a wnaeth y golygiad, a'u crynodeb golygu. Weithiau cyfeirir at y dudalen hon fel hanes golygiadau. Er mwyn gweld y dudalen, cliciwch ar y tab "hanes" ar frig y dudalen.

Defnyddio hanes tudalen[golygu | golygu cod]

Ar dudalen hanes:

  • Rhestrir holl newidiadau'r gorffennol i'r dudalen mewn trefn gwrth-gronolegol.
  • I weld fersiwn benodol, cliciwch ar ddyddiad.
  • I'w gymharu hen fersiwn gyda'r fersiwn bresennol, cliciwch ar cyf.
  • I gymharu fersiwn â'r fersiwn flaenorol, cliciwch cynt.
  • I gymharu dau fersiwn benodol, ticiwch y botwm cylch ar y golofn chwith o'r hen fersiwn a'r botwm cylch ar y golofn dde o'r fersiwn newydd ac yna cliciwch ar y botwm "Cymharer y fersiynau dewisiedig".
  • Dynodir golygiadau bychain gyda B.

Isod ceir enghraifft fanwl o hanes tudalen anghreifftiol gan ddefnyddio'r "croen" awtomatig:

dde

Dangosir golygiadau o'r rhai mwyaf newydd i'r hynaf. Cymer bob golygiad un llinell a ddengys; amser a dyddiad, enw'r defnyddiwr neu'r cyfeiriad IP a'r crynodeb golygu, yn ogystal â gwybodaeth ddeiagnostig arall.

Dewch i ni edrych ar rai o swyddogaethau'r dudalen hon:

  1. Mae'r teitl yn dangos "Hanes tudalen"
  2. Ar gyfer tudalennau ag hanesion hir, nid pob fersiwn sy'n cael eu harddangos yn y rhestr ar yr un tro - ychwanegir llinell gyda nifer o opsiynau er mwyn pori'r hanes diweddarach a chynharach.
  3. Mae (cyf) yn mynd â chi i dudalen cyfredol, sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng y golygiad hynny a'r fersiwn blaenorol. Gwelir y diwygiad cyfredol o dan y newidiadau, ac felly gallwch weld sut mae'r dudalen yn edrych nawr.
  4. Mae (cyf) yn mynd â chi i dudalen gyfredol sy'n dangos y newidiadau rhwng y golygiad hynny a'r fersiwn blaenorol. Gwelir y fersiwn diweddaraf (yr un ar yr un linell a'r "cynt" y clicich chi arno) o dan y newidiadau, felly gallwch weld sut y newidiwyd y dudalen.
  5. Gellir defnyddio'r ddwy golofn o fotymau radio er mwyn dewis unrhyw ddau fersiwn ar y dudalen.
  6. Dyddiad y golygiad.
  7. Enw neu gyfeiriad IP y defnyddiwr a wnaeth y golygiad
  8. Crynodeb golygu
  9. Dynoda B olygiad bychan.