Cymorth:Aseiniaid 12-wythnos i ysgrifennu erthygl Wicipedia

Oddi ar Wicipedia

Dewisiwch 'Golygu' i weld y testun yn ei fformat wreiddiol. Prawfddarllenwch os gwelwch yn dda. Peidiwch a phoeni am y bylchau; bydd y llyfryn hwn yn cael ei argraffu ar bapur yn ogystal a fersiwn ar-lein.

Y Maes Llafur: Aseiniaid 12-wythnos i ysgrifennu erthygl Wicipedia

Aseiniaid 12-wythnos i ysgrifennu erthygl Wicipedia - argraffwyd a chyhoeddwyd tua 2012.


Wikimedia Foundation

Adnoddau Defnyddiol

Cyfeiriadaeth Ar-lein: Wicipedia fel Arf Dysgu Rydym yn awgrymu’n gryf bod pob hyfforddwr yn cwblhau’r gyfeiriadaeth ar-lein ar gyfer addysgwyr cyn cynllunio maes llafur. Mae’n gyflwyniad i ddiwylliant a rheolau Wicipedia, yn arddangos hanfodion golygu, ac yn eich tywys drwy aseiniad Wicipedia nodweddiadol fel yr un yma. http://enwp.org/WP:EDUCATOR

Hanfodion Hyfforddwyr: Sut i ddefnyddio Wicipedia fel arf dysgu. Mae’r llyfryn yma yn rhoi sylw i strwythur a pholisïau allweddol Wicipedia y bydd angen ichi eu deall, arferion gorau ar ddethol erthyglau a gweithio gyda’r gymuned, a strwythurau graddio enghreifftiol. http://education.wikimedia.org/instructorbasics

Astudiaethau Achos: Sut mae athrawon prifysgol yn dysgu gyda Wicipedia. Mae pymtheg o athrawon o chwe gwlad wahanol yn ymddangos yn y llyfryn hwn, gyda phob un yn egluro sut mae ef neu hi wedi defnyddio Wicipedia yn yr ystafell ddosbarth neu sut aethant ati i raddio’r aseiniad. Mae fersiwn y we o’r llyfryn hefyd yn cynnwys dolenni i’r meysydd llafur a thaflenni ar gyfer yr aseiniad. http://education.wikimedia.org/casestudies

Defnyddio’r maes llafur yma

Cyn ichi ddechrau


Daw’r ddogfen maes llafur enghreifftiol yma yn drydedd mewn cyfres o lyfrynnau ar sut i ddefnyddio Wicipedia fel arf dysgu.


Cyn ichi durio i fanylion adeiladu maes llafur, mae’n bosib yr hoffech edrych ar lyfrynnau “Hanfodion Hyfforddwyr “ ac “Astudiaethau Achos” i gael syniad gwell o arferion gorau, beth gall amcanion dysgu ac aseiniadau eu cyflawni, a sut y gallech chi raddio aseiniad Wicipedia. Fe’ch anogir yn gryf hefyd i fynd drwy’r gyfeiriadaeth ar-lein ar gyfer addysgwyr.


Mae’r ddogfen hon yn cynnig maes llafur enghreifftiol tymor cyfan ar gyfer aseiniad ysgrifennu o faint ar Wicipedia, gan gorffori llawer o’r arferion gorau ar gyfer prosiectau o’r fath. Gallwch ei ddefnyddio fel dechreubwynt ar gyfer eich aseiniadau Wicipedia eich hunain, neu ddethol darnau i’w haddasu ar gyfer eich cwrs chi.


Mae’r maes llafur enghreifftiol yma ar gyfer aseiniad 12-wythnos i ysgrifennu erthyglau Wicipedia. Am feysydd llafur sy’n defnyddio aseiniadau Wicipedia eraill, gweler y llyfryn Astudiaethau Achos.

Deall yr eiconau a ddefnyddiwn Taflenni Drwy’r llyfryn hwn byddwn yn cyfeirio at daflenni y dylech eu rhannu i’ch myfyrwyr. Mae pob un o’r taflenni yma yn ddolenni ar fersiwn y we o’r llyfryn hwn: http://education.wikimedia.org/syllabus


WP:EDUCATORS



Llwybrau brys Mae’r llwybrau brys i dudalennau pwysig ar Wicipedia yn cael eu rhestru drwy’r maes llafur yma fel | llwybr brys WP:EDUCATORS I ddefnyddio un ohonynt, rhowch y llwybr brys yn y bar chwilio ar Wicipedia a chlicio ‘enter’.



Cerrig milltir Yn ôl hyfforddwyr profiadol mae’n hanfodol bod myfyrwyr fydd yn golygu Wicipedia yn gyfforddus nid yn unig gyda chystrawen wici, ond hefyd gyda’r gymuned. Bydd gofyn am gerrig milltir drwy’r tymor yn helpu’r myfyrwyr i gynefino gyda’r safle a’u hatal rhag llusgo’u traed. Fel arfer mae’r hyfforddwyr sydd ddim yn sefydlu’r cerrig milltir yma drwy’r tymor yn cael profiadau gwael gyda’u haseiniadau.





Y Maes Llafur 3

Llinell amser maes llafur 12-wythnos



Mae aseiniadau Wicipedia ar eu gorau o’u cyflwyno yn gynnar i mewn i’r tymor, am fod angen i’r myfyrwyr ddod i adnabod y dechnoleg. O wybod pam maent yn gwneud y gwaith paratoi, daw dysgu hanfodion Wicipedia yn berthnasol.

Ceisiwch integreiddio’ch aseiniad Wicipedia gyda themâu’r cwrs. Sicrhewch fod rhwyddineb wrth drin gwahanol cyfryngau ac adeiladu gwybodaeth yn faterion sy’n cael sylw gydol y cwrs.


Hyfforddiant ar-lein ar gyfer myfyrwyr Mae’r hyfforddiant ar-lein ar gyfer myfyrwyr yn gyflwyniad i’ gymuned Wicipedia a sut mae’n gweithio, yn arddangos hanfodion golygu ac yn arwain y myfyrwyr drwy eu golygiadau cyntaf, gan gynnig cyngor ar ddethol erthyglau a drafftio adolygiadau, ac yn dangos sut i ddod o hyd i gymorth wrth ddechrau arni. Mae’n cymryd rhyw awr ac yn gorffen gyda cham ardystio y gallwch ei ddefnyddio i wirio bod myfyrwyr wedi cwblhau’r hyfforddiant . | llwybr brys WP:STUDENT







http://enwp.org/WP:STUDENT

Hanfodion Wicipedia Wrth gyflwyno’ch dosbarth a mynd dros y maes llafur, cofiwch adael i’r myfyrwyr wybod y byddent yn gweithio ar Wicipedia y tymor hwn. Gall hyn fod yn amser da i siarad am ragdybiaethau sydd ganddynt ynglŷn â Wicipedia a gweld os oes unrhyw un wedi gwneud gwaith golygu yn barod.


Yn y dosbarth › Trosolwg o’r Cwrs › Cyflwyniad i sut bydd Wicipedia yn cael ei ddefnyddio yn y cwrs › Taflen: llyfryn “Croeso i Wicipedia” (ar gael ar-lein neu mewn print drwy Wikimedia Foundation))

Hanfodion golygu Mae’n bwysig bod y myfyrwyr yn dechrau golygu Wicipedia yn ddi-oed er mwyn iddynt gynefino gyda chystrawen MediaWiki ("wikisyntax", "wikimarkup", neu’r "wikicode”). Fel hyfforddwr, bydd gennych sawl opsiwn o ran dysgu’r deunydd technegol yma. Gallwch ei ddysgu eich hunain, gwahodd Cennad Wicipedia eich Campws a/neu eich Wicipedwyr lleol i wneud hynny, neu gysylltu â chanolfan dysgu a thechnoleg ar eich campws a gofyn am gymorth ganddyn nhw. Gall myfyrwyr hefyd gwblhau hyfforddiant ar-lein safonol. Pa bynnag fodd y dewiswch chi wneud hyn, rydym yn awgrymu bod eich myfyrwyr yn dysgu hanfodion golygu, anatomi erthygl, a sut i ddethol erthyglau sy’n addas ar gyfer yr aseiniad yma.


Yn y dosbarth › Hanfodion golygu › Anatomi erthyglau Wicipedia, beth sy’n gwneud erthygl dda, sut i wahaniaethu rhwng erthyglau da a gwael › Awgrymiadau ar ddod o hyd i’r erthyglau gorau i weithio arnyn nhw fel aseiniadau dosbarth › Taflenni: taflen “Defnyddio tudalennau sgwrs” a llyfryn “Gwerthuso ansawdd erthygl Wicipedia”


Eich tudalen gwrs ar Wicipedia Cyn i’r dosbarth ddechrau, bydd angen ichi lunio tudalen gwrs ar Wicipedia. Fel rheol mae tudalennau cwrs yn cael eu defnyddio i egluro – i’r myfyrwyr a’r gymuned Wicipedia – manylion eich aseiniadau Wicipedia, i gadw cofnod o ba fyfyrwyr sydd yn y dosbarth, a pha erthyglau maent yn gweithio arnynt, ac i ofyn cwestiynau a thrafod problemau. Am fanylion ar sut i fynd ati i lunio tudalen gwrs, gweler y llyfryn “Yr Hanfodion: Beth i’w wneud cyn i’r tymor ddechrau” neu ewch i dudalen “Wicipedia: Tudalennau cwrs.” | llwybr brys WP:COURSE

Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 3) › Cwblhewch yr hyfforddiant ar-lein ar gyfer myfyrwyr. Yn ystod yr hyfforddiant yma byddwch yn creu cyfrif, golygu mewn pwll tywod, a dysgu rheolau sylfaenol Wicipedia. | llwybr brys WP:STUDENT › Lluniwch dudalen defnyddiwr, ac ychwanegwch eich enw i’r rhestr o fyfyrwyr ar y dudalen gwrs.

› I ymarfer golygu a chyfathrebu ar Wicipedia, cyflwynwch eich hunan i unrhyw Wicipediwr sy’n helpu’ch dosbarth (er enghraifft Cennad Wicipedia), a gadewch neges i gyd-fyfyriwr ar eu tudalen sgwrs defnyddiwr.


Carreg filltir › Mae gan bob myfyriwr gyfrif defnyddiwr Wicipedia ac maent yn cael eu rhestru ar y dudalen gwrs.

Archwilio maes y testun Mae’n hollbwysig bod myfyrwyr yn dechrau ymchwilio i’w testun Wicipedia yn gynnar yn y tymor. Mae dod o hyd i destunau sydd â’r cydbwysedd cywir o ddiffyg sylw blaenorol da ar Wicipedia a llenyddiaeth sydd ar gael i’w defnyddio i adeiladu ymdriniaeth Wicipedia newydd yn gallu bod yn beth anodd. Fel dewis arall i ofyn i fyfyrwyr gynnig testunau Wicipedia i fod yn sail i erthyglau, mae’n bosib yr hoffech baratoi rhestr ymlaen llaw o erthyglau priodol sydd ddim bodoli neu sydd heb eu datblygu’n ddigonol. Mae hyn yn gofyn am fwy o waith paratoi ond mae’n ffordd i gael myfyrwyr i fynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu erthyglau yn gynt.


Yn y dosbarth Taflenni: “Cyngor ar ddewis erthygl” a “Sut i ddod o hyd i gymorth”


Defnyddio ffynonellau Wrth iddynt ddechrau defnyddio ffynonellau i wella erthyglau Wicipedia, mae’n hynod bwysig bod myfyrwyr yn deall polisïau Wicipedia ar lên-ladrad a throsedd hawlfraint. Yn gyffredinol mae myfyrwyr yn gwybod bod copïo paragraffau neu frawddegau cyfan o ffynonellau yn llên-ladrad. Ond mae llawer yn anwybodus - neu’n meddwl bod modd osgoi cael eu dal - ynglŷn â llên-ladrad mwy cynnil, fel defnyddio brawddegau byrrach heb eu priodoli neu ddechrau o destun sydd wedi ei gopïo a’i aralleirio gan adael y strwythur a’r ystyr fel y mae (h.y. aralleirio clòs). Canlyniad tebygol unrhyw ffurf o lên-ladrad neu drosedd hawlfraint yw tynnu gwaith myfyrwyr oddi ar Wicipedia.


Yn y dosbarth › Taflenni: “Cyfeirio ar Wicipedia” a “Deall polisi hawlfraint Wicipedia”


Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 4) › Gwerthuswch yn feirniadol erthygl Wicipedia sydd eisoes yn bod ac sy’n berthnasol i’r dosbarth, a gadewch awgrymiadau ar gyfer ei gwella ar dudalen sgwrs yr erthygl.

›Ymchwiliwch a rhestrwch 3-5 erthygl ar eich tudalen defnyddiwr y gallech weithio arnynt fel eich prif brosiect. Gofynnwch am sylwadau gan eich hyfforddwr.


Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 5) › Ychwanegwch 1-2 frawddeg o wybodaeth newydd at erthygl Wicipedia sy’n berthnasol i’r dosbarth, a’u cefnogi gyda dyfyniad i ffynhonnell briodol.


Ar gyfer yr wythnos nesaf ›Hyfforddwr i werthuso’r detholiadau o erthyglau sydd gan y myfyrwyr, erbyn wythnos 5.





Gofyn am gymorth Pan fo pethau’n mynd o’u lle – mae erthyglau myfyrwyr yn cael eu herio, mae myfyrwyr yn tynnu golygyddion eraill i’w pen, neu eich bod chi neu’r myfyrwyr yn ansicr ynghylch sut i ddatrys problem – dylech ofyn am gymorth yn syth. Os yw Wicipedwyr profiadol yn gweithio gyda’ch dosbarth (er enghraifft Cenhadon Ar-lein), mae’n syniad troi atyn nhw yn y lle cyntaf. Mae’n bosib postio problemau a chwestiynau ar yr “Hysbysfwrdd Addysg” | llwybr brys WP:ENB Am ganllaw, unai i chi neu’r myfyrwyr, ar sut i ddechrau arni, ewch i Wicipedia:Cymorth | llwybr brys WP:TH sy’n ofod cyfeillgar ar gyfer golygyddion newydd. Mae’r gyfeiriadaeth ar-lein yn tynnu sylw ar fannau eraill ble mae cymorth ar gael.



Chi yw’r arbenigwr Bydd gwneud defnydd o’ch arbenigedd eich hunain i’r sylw mae Wicipedia yn ei roi i’ch maes yn allweddol i aseiniad llwyddiannus. Rydych yn deall y cyd-destun deallusol eangach ar gyfer testunau unigol, fe welwch chi’r diffygion sydd ar Wicipedia, rydych yn gwybod - neu’n gwybod sut i ddarganfod - llenyddiaeth berthnasol, ac rydych yn gwybod pa destunau y dylai’ch myfyrwyr fedru eu trafod. Felly mae’ch arweiniad ar ddethol erthyglau a dod o hyd i ffynonellau yn hanfodol o ran llwyddiant eich myfyrwyr, ac er gwella Wicipedia.

Dewis erthyglau Erbyn yr wythnos hon, yn ddelfrydol, rydych chi wedi gwerthuso dewis y myfyrwyr o erthyglau ac wedi rhoi adborth iddyn nhw, gan eu harwain i ddewis erthyglau sy’n briodol ar gyfer yr aseiniad. Am fod myfyrwyr yn aml yn aros tan y funud olaf cyn gwneud eu gwaith ymchwil, neu’n dewis ffynonellau sy’n anaddas ar gyfer Wicipedia, rydym yn awgrymu’n gryf bod myfyrwyr yn llunio llyfryddiaeth o ddeunyddiau i’w defnyddio wrth olygu’r erthygl, y medrwch chi a Wicipedwyr eraill ei hasesu.


Yn y dosbarth › Trafodwch yr ystod o destunau y bydd eich myfyrwyr yn gweithio arnynt a strategaethau o ran ymchwilio ac ysgrifennu amdanynt.


Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 6) › Dewiswch erthygl i weithio arni, gan ddileu’r gweddill o’ch tudalen defnyddiwr. Ychwanegwch eich erthygl i dudalen cwrs eich dosbarth. › Lluniwch lyfryddiaeth o ffynonellau perthnasol dibynadwy a’i phostio i dudalen sgwrs yr erthygl rydych yn gweithio arni. Dechreuwch ddarllen y ffynonellau.

Drafftio erthyglau cychwyn (NODYN - DDIM YN SIŴR AM HWN AR GYFER ‘STARTER ARTICLES’, SY’N WAHANOL I STUBS) Unwaith i fyfyrwyr gael rhywfaint o afael ar eu testunau a’r ffynonellau maent am eu defnyddio i ysgrifennu amdanynt, mae’n amser dechrau ysgrifennu ar Wicipedia. Gallwch ofyn iddynt neidio i mewn yn syth a golygu’n fyw neu ddechrau yn eu pyllau tywod eu hunain. Mae rhywbeth i’w ddweud o blaid ac yn erbyn y ddwy ffordd o weithio. Manteision ac anfanteision pyllau tywod: Mae pyllau tywod yn gwneud i fyfyrwyr deimlo’n ddiogel am fod modd golygu heb bwysau’r byd a’r betws yn darllen eu drafftiau, neu Wicipedwyr eraill yn newid eu gwaith. Fodd bynnag, mae golygiadau pwll tywod yn cyfyngu ar nifer o agweddau unigryw defnyddio Wicipedia fel arf dysgu, pethau fel ysgrifennu ar y cyd a drafftio cynyddol. Nid ydym yn argymell treulio mwy nag wythnos neu ddwy mewn pwll tywod.

Manteision ac anfanteision golygu byw: Mae golygu byw yn brofiad cyffrous ar gyfer y myfyrwyr am eu bod yn gallu gweld y newidiadau maent yn eu gwneud i erthyglau yn syth, ac yn cael profiad o’r broses o gyd-olygu drwy’r aseiniad. Fodd bynnag, am fod golygyddion newydd yn aml, heb fwriadu gwneud hynny, yn torri rheolau Wicipedia, weithiau mae ychwanegiadau’r myfyrwyr yn cael eu cwestiynu neu eu dileu.


Yn y dosbarth › Siaradwch am ddiwylliant ac arferion Wicipedia, ac (mae hyn yn ddewisol) ail-ymweld â’r cysyniad o byllau tywod a sut i’w defnyddio. › Sesiwn holi ac ateb gyda’r hyfforddwr a/neu Genhadon Wicipedia ar ryngweithio ar Wicipedia a mynd ati i ysgrifennu.


Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 7) › Os ydych yn cychwyn erthygl newydd, ysgrifennwch fersiwn gryno 3-4 paragraff o’ch erthygl - gyda dyfyniadau - yn eich pwll tywod. Os mai gwella erthygl sy’n bod eisoes ydych chi, ysgrifennwch fersiwn gryno sy’n adlewyrchu beth fydd cynnwys yr erthygl unwaith iddi gael ei gwella, a phostiwch hwn ynghyd â disgrifiad byr o’r hyn sydd gennych mewn golwg ar dudalen sgwrs yr erthygl.

›Dechreuwch weithio gyda’ch cyd-fyfyrwyr a golygyddion eraill i roi sglein ar eich erthygl gychwyn fer, a chywiro unrhyw broblemau. › Daliwch ymlaen gyda’r gwaith ymchwil mewn paratoad ar gyfer y gwaith o ehangu’ch erthygl.

Carreg filltir › Mae pob un o’r myfyrwyr wedi dechrau golygu erthyglau neu ddrafftiau ar Wicipedia.




Symud erthyglau i’r prif ofod

Pa un ai a yw myfyrwyr yn dechrau erthyglau newydd neu’n ehangu erthyglau sy’n bod eisoes, mae’n hanfodol eu bod yn dechrau gweithio’n fyw ar Wicipedia cyn gynted ag y bo modd. Mae fersiynau cryno o erthyglau newydd (ac erthyglau byrion sy’n bod eisoes sydd wedi eu hehangu i bum gwaith eu maint) yn fannau cychwyn gwych i ddechrau gweithio’n fyw yn y prif ofod.


Yn y dosbarth

  	› Taflen: “Mentro allan o’ch pwll tywod”



Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 8) › Symudwch erthyglau pwll tywod i’r prif ofod. › Opsiynol: Ar gyfer erthyglau newydd neu waith ehangu cymwys i eginion, lluniwch “fachyn” un-frawddeg, ei enwebu ar gyfer “Wyddoch chi”, a monitro’r enwebiad am unrhyw broblemau gaiff eu hadnabod gan olygyddion eraill.

› Dechreuwch ehangu’ch erthygl yn driniaeth gynhwysfawr o’r testun.  

Adeiladu erthyglau Ar y pwynt hwn, bydd llawer o fyfyrwyr wedi ‘dallt hi’, a bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o sut i symud yn eu blaenau. O’r fan yna, y peth pwysicaf yw rhoi adborth, ar y gwaith maent yn ei wneud – beth sydd ar goll, pa ffynonellau y gellid eu defnyddio i’w wella, a yw’r cydbwysedd yn briodol – ac ar sut i gadw o fewn canllawiau Wicipedia, yn enwedig Safbwynt Niwtral

| llwybr brys WP:NPOV a No Original Research. | llwybr brys WP:NOR

Mae’n bosib y bydd myfyrwyr eraill wedi baglu gyda rhyw elfen o osod eu gwaith cyntaf yn fyw ar Wicipedia. Dyma’r pwynt allweddol o ran adnabod ble mae myfyrwyr yn mynd i drafferthion – ymateb negyddol gan olygyddion eraill, problemau technegol, problemau gyda dod o hyd i ffynonellau da a’u defnyddio’n briodol, llên-ladrata, neu rywbeth arall. Dyma amser da i gael cip olwg (o leiaf) ar beth mae pob myfyriwr wedi ei gyfrannu hyd yn hyn.


Gweithdy yn y dosbarth neu du allan i’r dosbarth › Dangos sut i lwytho delweddau i fyny ac ychwanegu delweddau i erthyglau. › Rhannu profiadau a thrafod problemau. › Taflenni: “Ychwanegu darluniau i Wicipedia: Canllaw ar sut i gyfrannu cynnwys i Gomin Wicipedia” a “Gwerthuso ansawdd erthygl Wicipedia” (a ddosbarthwyd yn wreiddiol yn wythnos 2)





Prosesau Wicipedia Mae’n bosib y bydd erthyglau gan fyfyrwyr sydd wedi ei datblygu’n dda yn addas i gael eu cyflwyno ar gyfer “Wyddoch Chi”, adran ar brif dudalen Wicipedia sy’n rhoi sylw i gynnwys newydd. Mae’n debyg mai cyflwyno erthyglau i WCh fydd cysylltiad mawr cyntaf eich dosbarth gyda phrosesau erthyglau tu-ôl-i’r-llen. Rydym yn argymell yn gryf eich bod un ai’n rhoi tro ar hyn eich hunan ymlaen llaw, neu eich bod yn gweithio’n agos gyda Wicipedwyr mwy profiadol i gynorthwyo’ch myfyrwyr i fordwyo drwy’r broses hon yn ddi-rwystr. Os yw’ch myfyrwyr yn gweithio ar set o erthyglau perthynol, mae’n bosib y bydd hi’n syniad da iddynt gyfuno enwebiadau aml-erthygl ar fachyn unigol; mae hyn yn fodd i atal gwaith eich myfyrwyr rhag llethu’r broses neu godi gwrychyn y golygyddion sy’n gwneud y gwaith cynnal a chadw.

Aseiniad (i’w gyflawni Wythnos 9) › Ehangwch eich erthygl i ddrafft cychwynnol o driniaeth gynhwysfawr o’r testun. › Dewiswch ddwy erthygl gan fyfyrwyr eraill yn eich dosbarth. Yn y man byddwch yn cyd-adolygu a gwneud golygiadau copi. (Does dim angen dechrau ar y gwaith yma eto.)




Derbyn a rhoi adborth Mae cydweithio yn elfen hanfodol o gyfrannu i Wicipedia. I rai myfyrwyr, bydd hyn yn digwydd yn ddigymell; bydd eu dewis tesun yn denu diddordeb Wicipedwyr a fydd yn cynnig syniadau, golygiadau copi, neu hyd yn oed gyfraniadau sylweddol i erthyglau’r myfyrwyr. Gall Cenhadon Ar-lein sy’n dangos diddordeb cryf yn y pynciau y mae’r myfyrwyr yn gweithio arnynt fod yn gydweithwyr gwych. Mewn llawer o achosion, fodd bynnag, ychydig o olygu digymell fydd i’w weld cyn diwedd y tymor. Yn ffodus, mae dosbarth llawn o gyd-ddysgwyr yn gronfa wych o gyd-adolygwyr. Manteisiwch ar hyn drwy ofyn i fyfyrwyr adolygu erthyglau ei gilydd yn fuan wedi i ddrafftiau llawn gael eu postio, i roi digon o amser i’r myfyrwyr weithredu ar y cyngor a ddaw.


Graddio erthyglau Wicipedia Mae’r fenter i wella ansawdd pob erthygl wedi annog Wicipedwyr i gyflwyno system raddio (crynodeb isod) sy’n disgrifio’r twf o Eginyn i Erthygl Ddethol. Gwnewch bopeth i annog eich myfyrwyr i ddod i adnabod y system raddio yma, ac i’w defnyddio wrth iddynt gyd-adolygu gwaith ei gilydd. Dylai myfyrwyr nodi nad yw erthyglau dosbarth-B a dosbarth-C ar Wicipedia yr un peth â gwaith dosbarth “B” a’r “C” traddodiadol yn y byd addysgol. Dynodir Erthyglau Da ac Erthyglau Dethol ar Wicipedia dim ond drwy broses heriol o gyd-adolygu, a dim ond myfyrwyr sydd ymhell ar y blaen ddylai ystyried cyflwyno eu gwaith i’r prosesau yma.


Yn y dosbarth

› Fel grŵp, ydy’r myfyrwyr wedi cynnig awgrymiadau o ran gwella un neu ddwy o erthyglau’r myfyrwyr, gan osod yr esiampl o ran yr hyn sy’n ddisgwyliedig mewn erthygl wyddoniadurol o safon.


Aseiniad (i’w gwblhau Wythnos 10) › Adolygwch ddwy o erthyglau eich cyd-fyfyrwyr. Gadewch awgrymiadau ar dudalen sgwrs yr erthygl. › Copi-olygwch y ddwy erthygl a adolygwyd.

Carreg filltir › Mae pob un o’r erthyglau wedi eu hadolygu gan eraill. Mae pob myfyriwr wedi adolygu erthyglau eu cyd-fyfyrwyr.


Ymateb i adborth Erbyn hyn, dylai myfyrwyr fod wedi cynhyrchu erthyglau sydd yn agos iawn at fod yn gyflawn. Dyma’r cyfle i’w hannog i fentro’n ddyfnach i mewn i Wicipedia a’i safonau a’i gerrig milltir am gynnwys gwych. Mae’n debyg eich bod wedi trafod llawer o egwyddorion craidd Wicipedia - a materion perthynol rydych am roi sylw iddynt - ond nawr eu bod wedi cael profiad uniongyrchol o sut mae Wicipedia yn gweithio, dyma amser da i droi’n ôl at destunau fel niwtraliaeth, rhwyddineb wrth drin gwahanol gyfryngau, ac effaith a chyfyngiadau Wicipedia. Meddyliwch am wahodd siaradwr gwadd, cynnal trafodaeth banel, neu hyd yn oed drafodaeth agored rhwng y dosbarth am beth mae’r myfyrwyr wedi ei wneud hyd yn hyn a pham (neu ydy o) o bwys.

Cyflwyniadau dosbarth Gall gofyn i fyfyrwyr feddwl yn benodol am eu profiadau gyda Wicipedia, drwy gyflwyniadau a/neu draethodau myfyriol, fod o gymorth i dynnu allan a chadarnhau beth maen nhw wedi ei ddysgu am Wicipedia’n benodol, ac yn fwy cyffredinol am lythrennedd cyfryngau ac ymchwil. Hefyd gall aseiniadau o’r fath, pan maent yn cynnwys crynodebau amlwg neu ddogfennaeth o’r hyn wnaeth y myfyrwyr neu beth geision nhw wneud ar Wicipedia, fod yn lens ar gyfer gwerthuso a rhoi gradd i’w gwaith Wicipedia.


Yn y dosbarth › Mae myfyrwyr yn gwneud cyflwyniadau i’r dosbarth ar eu profiadau o olygu Wicipedia.


Yn y dosbarth › Trafodaeth agored ar y cysyniad o niwtraliaeth, llythrennedd cyfryngau, ac effaith a chyfyngiadau Wicipedia.


Aseiniad (i’w gwblhau Wythnos 11)

› Golygwch eich erthygl gan roi sylw i adborth eich cyd-olygyddion. Paratowch ar gyfer trafodaeth yn y dosbarth am eich profiad golygu ar Wicipedia.



Aseiniad (i’w gwblhau Wythnos 12) › Ychwanegwch y manylion terfynol i’ch erthygl Wicipedia. › Ysgrifennwch draethawd myfyriol (2-5 tudalen) ar eich cyfraniadau i Wicipedia.


Wythnos 12


Mae pob aseiniad i’w cyflwyno Gwych!

Carreg filltir › Mae’r myfyrwyr wedi gorffen yr holl waith ar Wicipedia sydd i gael ei raddio, ac wedi cyflwyno traethodau myfyriol.

Dyma gynllun graddio sylfaenol ar gyfer aseiniad Wicipedia tebyg i’r un yma. Am fwy o syniadau ar sut i raddio aseiniadau Wicipedia, ewch i’r adran cyfarwyddyd graddio yn y llyfryn “Hanfodion Hyfforddwyr “.



Strwythur Graddio Enghreifftiol

Wrth raddio aseiniad “ymchwilio ac ysgrifennu erthygl”, bu’r cyfarwyddyd graddio canlynol yn llwyddiannus:


5% yr un (x4)


10%


10%


50%


10%


Gradd y myfyriwr

Traethawd myfyriol

Gradd am gymryd rhan mewn ymarferion Wicipedia cynnar Cymryd rhan mewn blog dosbarth neu drafodaethau dosbarth Cyd-adolygu a gweithio gyda gweddill y dosbarth Ansawdd eich prif gyfranaidau Wicipedia Traethawd myfyriol








Ydych chi’n barod i ymuno â Rhaglen Addysg Wicipedia?

Ymunwch â ni! Am ragor o wybodaeth, ewch i

Mae rhaglenni addysg i’w cael eisoes mewn sawl gwlad, ac mae gwirfoddolwyr Wikimedia wrthi’n creu rhaglenni newydd pob tymor. Mewn gwledydd ble mae Rhaglen Addysg Wicipedia (Wikipedia Education Program) ar waith, efallai bod Cenhadon Wicipedia gwirfoddol ar gael i gynnig cymorth i’ch myfyrwyr ac i chithau wrth ichi ddysgu beth yw’r ffordd orau i’ch dosbarht gyfrannu at Wicipedia.


Ymunwch â ni! Am ragor o wybodaeth, ewch i http://education.wikimedia.org

Mae pob delwedd o Gomin Wicimedia dan drwydded CC-BY-SA neu barth cyhoeddus oni nodir fel arall. Mae’r cynnwys sydd i’w gael yma ar gael da dan Drwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike v.3.0 (<http://en.wikipedia.org/wiki/ >Wikipedia:CC-BY-SA) neu unrhyw fersiwn ddiweddarach.



Nid yw nodau masnach a logos Wikimedia Foundation ac unrhyw fudiad arall wedi eu cynnwys dan delerau’r drwydded Creative Commons. Mae Wikimedia Foundation, Wikipedia, Commons, MediaWiki, Wiktionary, Wikibooks, Wikisource, Wikinews, Wikiquote, Wikiversity, Wikispecies, Wikidata, Wikivoyage, a Meta-Wiki yn aros i’w cofrestru fel nodau masnach neu maent yn nodau masnach cofrestredig Wikimedia Foundation.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Polisi Nodau Masnach, <http://wikimediafoundation.org/wiki/ >Trademark_Policy.

Am gwestiynau eraill ynghylch ein telerau trwyddedu neu bolisi nodau masnach, danfonwch e-bost i legal@wikimedia.org

Yn cynnwys 10% o ffibrau ol-ddefnyddiwr wedi ei aligylchu, proses sy’n rhydd o glorin elfennol, a gynhyrchwyd gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy