Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Athletau Gwyddelig

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Athletau Gwyddelig
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1884 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auGAA Handball Edit this on Wikidata
PencadlysParc Croke Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gaa.ie/ Edit this on Wikidata

Mudiad chwaraeon amatur yn Iwerddon yw'r Gymdeithas Athletau Gwyddelig (Gwyddeleg:Cumann Lúthchleas Gael, Saesneg:Gaelic Athletic Association) sy'n bennaf yn hyrwyddo y campau Gwyddelig traddodiadol sef hurling, camogie, pêl-droed Wyddelig, pêl-law a rownderi.

Mae'r Gymdeithas hefyd yn hyrwyddo cerddoriaeth a dawns Gwyddelig, a'r Iaith Wyddeleg. Y Gymdeithas yw'r mudiad fwyaf yn Iwerddon, gyda thua 800,000 o aelodau.

Y Gymdeithas sy'n berchen ar faes chwaraeon Parc Croke a dyna ble lleolir eu pencadlys.