Cyhyryn y latissimus dorsi

Oddi ar Wicipedia
Latissimus dorsi
Cyhyrau'n cysylltu'r eithafion uchaf i'r asgwrn cefn

Cyhyr mawr ar y cefn yw cyhyryn y latissimus dorsi (lluosog:latissimi dorsi). Daw'r enw o'r Lladin a golyga 'cyhyr mwyaf llydan y cefn' (latus yn meddwl 'llydan', latissimus yn meddwl 'mwyaf llydan' a dorsum sy'n meddwl 'cefn'). Lleolir y cyhyr ar gefn y bongorff, tu ôl y fraich, ac fe'i orchuddir i raddau gan y trapesiws yn yr adran canolwedd dorsal.