Cyfres Ar Ben Ffordd

Oddi ar Wicipedia

Cyfres o lyfrau Cymraeg ar gyfer dysgwyr Cymraeg yw Cyfres Ar Ben Ffordd sy'n cynnwys chwe llyfr sydd wedi'u hysgrifennu yn 2012 a 2013 a'u cyhoeddi gan Wasg y Lolfa.[1] Mae dau lyfr ar bob lefel swyddogol - dwy lefel fynediad, dwy lefel sylfaen a dwy lefel ganolradd. Mae'r llyfrau'n llawn o straeon byrion, cyfweliadau, cynnig a ffeithiau.

Dyma'r chwe llyfr:

  • Camu Ymlaen (2012): lefel mynediad
  • Ling-di-long (2013): lefel mynediad
  • Mynd Amdani (2012): lefel sylfaen
  • Nerth dy Draed (2013): lefel sylfaen
  • Ar Garlam (2012): lefel ganolradd
  • Cath i Gythraul (2013): lefel ganolradd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyfres Ar Ben Ffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2013-08-23.