Cyflwr mater

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddir y term cyflwr mater i ddisgrifio'r ffurfiau gwahanol y mae mater yn eu cymryd. Gwelir pedwar ffurf gyffredin mewn bywyd bob dydd, sef ffurfiau solet, hylifol, nwyol a phlasma.

Y gwahaniaethau ym mhriodweddau'r naill gyflwr a'r llall a ddefnyddir fel arfer i ddiffinio cyflwr mater. Mae gan solidau gyfaint a ffurf sefydlog, gan fod y gronynnau'n agos at ei gilydd mewn lleoliadau sefydlog. Mae gan hylifau gyfaint sefydlog, ond mae eu ffurfiau'n newid, gan lenwi'r cynhwysydd sy'n dal yr hylif. Mae gronynnau'r hylif yn gymharol agos at ei gilydd o hyd, ond yn gyson symud. Mae nwyon yn newid eu maint a'u ffurf, ac yn newid y naill a'r llall yn ôl eu cynhwysydd. Nid yw gronynnau'r nwy yn agos at ei gilydd, na chwaith yn sefydlog. Mae plasma'n debyg i nwy gan bod ei faint a'i ffurf yn newidiol, ond yn ogystal ag atomau niwtral, mae plasma'n cynnwys ionau ac electronau sydd, eu dau, yn rhydd i symud o gwmpas. Plasma yw cyflwr mwyafrif y mater gweladwy o fewn y bydysawd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gurnett, D. A.; Bhattacharjee, A. (2005). Introduction to Plasma Physics: With Space and Laboratory Applications. Cambridge University Press. p. 2. ISBN 978-0-52136-730-1.