Cyflafan Las Vegas 2017

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llofruddiaeth dorfol yn Las Vegas ar 1 Hydref 2017 oedd cyflafan Las Vegas 2017. Saethwyd 59 o bobl yn farw gan Stephen Craig Paddock yn Las Vegas, Nevada, UDA, yn ystod yr ŵyl gerddorol Route 91 Harvest. Dechreuodd saethu ar y dorf o falconi ystafell yng ngwesty Mandalay Bay yn ystod perfformiad awyr agored gan y canwr gwlad Jason Aldean. Saethodd Paddock ei hunan yn farw yn yr ystafell cyn i'r heddlu ei ddal.[1] Hon yw'r lladdfa fwyaf gan saethwr yn hanes yr Unol Daleithiau yn nhermau y nifer a laddwydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]