Cyfarfodydd agos

Oddi ar Wicipedia

Mewn iwffoleg, cyfarfod agos yw ddigwyddiad lle mae person yn dyst i wrthrych hedegog anhysbys. Cafodd y derminoleg hon a'r system ddosbarthu y tu ôl iddi eu hawgrymu yn gyntaf mewn llyfr y seryddwr ac ymchwilydd UFO, J. Allen Hynek yn 1972 o'r enw The UFO Experience: A Scientific Enquiry.[1] Mae categorïau y tu hwnt i'r tri gwreiddiol Hynek wedi cael eu hychwanegu gan eraill, ond nid ydynt wedi cael eu derbyn yn gyffredinol, yn bennaf oherwydd nad oes ganddyn nhw'r trylwyredd gwyddonol yr oedd Hynek yn ceisio dod i iwffoleg.[2]

Caiff arsylwadau sydd mwy na 500ft (150m) o'r tyst eu dosbarthu fel "disgiau golau dydd", "goleuadau nos", neu "adroddiadau radar-weledol".[1] Caiff arsylwadau sydd o fewn 500ft (150m) o'r tyst eu his-ddosbarthu fel gwahanol fathau o "gyfarfodydd agos". Dadleuodd Hynek ac eraill bod yn rhaid i gyfarfodydd agos honedig ddigwydd o fewn tua 500ft (150m) er mwyn lleihau neu ddileu'r posibilrwydd o gam-adnabod awyrennau confensiynol neu ffenomenau hysbys eraill.[1]

Daeth graddfa Hynek yn adnabyddus ar ôl cael ei chyfeirio ato yn y ffilm Close Encounters of the Third Kind ym 1977, a enwir ar ôl trydedd lefel y raddfa. Roedd posteri'r ffilm yn cynnwys tair lefel y raddfa, ac mae Hynek ei hun yn gwneud ymddangosiad cameo ar ddiwedd y ffilm.

Graddfa Hynek[golygu | golygu cod]

Dyfeisiodd Hynek ddosbarthiad o chwe fath o arsylwad UFO:[3][4] Fe'u trefnir yn ôl agosrwydd[1]:

  • Goleuadau Nos: Goleuadau yn awyr y nos.
  • Disgiau Golau Dydd: UFOau a welir yn ystod y dydd, yn gyffredinol â siapiau hirgrwn.
  • Radar-Weledol: Adroddiadau UFO sydd â chadarnhad radar - mae'r rhain i fod i geisio cynnig tystiolaeth galetach bod y gwrthrychau yn real, er gall y rhain cael eu hesbonio gan anghysondebau lledaeniad atmosfferig.
  • Cyfarfodydd agos o'r math cyntaf: Arsylwadau gweledol o wrthrych hedegog anhysbys, sy'n ymddangos yn llai na 500m (150m) i ffwrdd, lle gellir gweld manylder sylweddol.[5]
  • Cyfarfodydd agos o'r ail fath: Digwyddiad UFO lle honnir effaith gorfforol. Gall hyn fod yn ymyrraeth gweithredu cerbyd neu ddyfais electronig, anifeiliaid yn ymateb, effaith ffisiolegol fel parlys neu'r tyst yn teimlo gwres neu anghysur, neu ryw dystiolaeth gorfforol fel olion yn y ddaear, planhigion llosg, neu olion cemegol.
  • Cyfarfodydd agos o'r trydydd fath: Arsylwadau UFO lle mae endid animeiddiedig yn bresennol - mae'r rhain yn cynnwys bodau dynolffurf, robotiaid, a bodau dynol sydd i'w weld i fod yn breswylwyr neu'n beilotiaid UFO. Cynigiodd yr ymchwilydd UFO Ted Bloecher chwech is-deip ar gyfer cyfarfodydd agos o'r trydydd math. Rhain yw:[6]
    • A: Gwelir yr endid tu mewn i'r UFO yn unig.
    • B: Gwelir yr endid tu mewn a thu allan i'r UFO.
    • C: Gwelir yr endid yn agos at UFO, ond nid yw'n mynd i mewn nac allan.
    • D: Gwelir endid, ond nid yw'r arsylwr yn gweld unrhyw UFOau, ond mae adroddiadau o weithgaredd UFO yn yr ardal tua'r un pryd.
    • E: Gwelir endid, ond nid yw'r arsylwr yn gweld unrhyw UFOau, a does dim adroddiadau o weithgaredd UFO yn yr ardal tua'r un pryd.
    • F: Ni welir unrhyw endid nac UFOau, ond mae tyst yn cael profiad o ryw fath o "gyfathrebu deallus".

Estyniadau i raddfa Hynek[golygu | golygu cod]

Nid oedd cyfarfodydd o'r mathau hyn wedi'u cynnwys mewn dosbarthiad gwreiddiol Hynek, ychwanegir gan ymchwilwyr eraill.[1]

  • Cyfarfodydd agos o'r bedwaredd fath: Digwyddiad UFO lle caiff bod dynol ei herwgipio gan UFO neu ei berwylwyr.[7] Yn wreiddiol dadleuodd Jacques Vallee, cyn-gydweithiwr i Hynek, yn y Journal of Scientific Exploration y dylai'r "bedwaredd fath" gyfeirio at "achosion pan brofodd tystion drawsnewidiad o'u hymdeimlad o realiti", er mwyn cynnwys achosion nad oedd yn cynnwys herwgipio, ond lle mae digwyddiadau hurt, rhithweledol neu freuddwydiol yn gysylltiedig â chyfarfyddiadau UFO.[8]
  • Cyfarfodydd agos o'r pumed fath: Digwyddiad UFO sy'n cynnwys cyfathrebu uniongyrchol rhwng estroniaid a bodau dynol.[7] Enwyd y math hwn o gyfarfyddiad agos gan grŵp Steven M. Greer, ac fe'i disgrifir fel profiadau cyswllt dwyochrog trwy gyfathrebu cydweithredol, ymwybodol, gwirfoddol, a rhagweithiol, a gychwynnwyd gan bobl gyda deallusrwydd allfydol.[9][10]
  • Cyfarfodydd agos o'r chweched fath: Marwolaeth bod dynol neu anifail sy'n gysylltiedig â gweld UFO (er y gallai hyn gael ei ystyried yn enghraifft fwy difrifol o'r ail-fath)[11][12]
  • Cyfarfodydd agos o'r seithfed fath: Creu croesryw dynol/estron, naill ai trwy atgenhedlu rhywiol neu drwy ddulliau gwyddonol artiffisial.[11] 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Hynek, Allen J. (1998) [First published 1972]. The UFO Experience: A Scientific Inquiry. Da Capo Press. ISBN 978-1-56924-782-2.
  2. Clark, Jerome (1998). The UFO Book. Detroit: Visible Ink Press.
  3. Steven J. Dick (28 December 1999). The Biological Universe: The Twentieth Century Extraterrestrial Life Debate and the Limits of Science. Cambridge University Press. tt. 309–. ISBN 978-0-521-66361-8. Cyrchwyd 24 October 2011.
  4. Donald Goldsmith; Tobias C. Owen (April 2001). The search for life in the universe. University Science Books. tt. 521–. ISBN 978-1-891389-16-0. Cyrchwyd 24 October 2011.
  5. J. Allen Hynek, The UFO Experience: A Scientific Enquiry, Ballantine Books, 1972, pp. 98-9.
  6. Hendry, Allan (August 1979). The UFO Handbook: A Guide to Investigating, Evaluating and Reporting UFO Sightings. Doubleday. ISBN 978-0-385-14348-6.
  7. 7.0 7.1 What're close encounters of the first, second, third, fourth and fifth kind?. S.P.S. Jain. The Times of India. 22 March 2003. Retrieved 4 April 2014.
  8. Vallee, Jacques. "Physical Analysis in Ten Cases of Unexplained Aerial Objects with Material Samples Archifwyd 2010-07-06 yn y Peiriant Wayback.." 1998. Journal of Scientific Exploration. Vol. 12, No. 3., pp. 359-375. URL accessed 23 August 2009
  9. Haines, Richard (1999). CE-5 Close Encounters of the Fifth Kind. Sourcebooks, Inc.
  10. McCarthy, Paul (December 1, 1992). "Close encounters of the fifth kind. (communicating with UFOs)". Omni. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2007-05-12. Alt URL Archifwyd 2009-06-15 yn y Peiriant Wayback.
  11. 11.0 11.1 Judith Joyce, The Weiser Field Guide to the Paranormal: Abductions, Apparitions, ESP, Synchronicity, and More Unexplained Phenomena from Other Realms 2010, pp. 7.
  12. Stuart A. Kallen, Aliens (Monsters, and Mythical Creatures) 1995, pp. 24.