Culfor Yenisei
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Kara |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 72.3°N 80.5°E |
Mae Culfor Yenisei a'i hynysigau'n perthyn i ranbarth weinyddol Krasnoyarsk Krai o Ffederasiwn Rwsia ac yn rhan o Warchodfa Natur Wladwriaeth Fawr yr Arctig, y warchodfa natur fwyaf yn Rwsia.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Culfor Yenisei yn cael ei ffurfio drwy i'r afon ehangu i gyfartaledd o 50 km (31 mi) hyd at 250 km (160 mi) yn fras mewn cyfeiriad o'r gogledd i'r de, rhwng lledred o 70° 30' N yn yr ardal o amgylch anheddiad Munguy, i'r gogledd o Dudinka. Mae'r rhanbarth gyfan o Îs-Yenisei yn llwm a'r boblogaeth yn denau, ac mae'r anheddiadau wedi eu hadeiladu ar ddaear rew-parhaol. Nid oes unrhyw lystyfiant ac eithrio mwsoglau, cennau a rhai glaswellt. Mae dyfroedd arfordirol yn gynefinoedd ar gyfer morfilod beluga.
Dyfnder mwyaf Culfor Yenisei yw 63 m (208 tr).
Lleolir aber Culfor Yenisei yn fras yn 72° 30' N, yn ardal Ynys Sibiryakov, yn y Môr Kara.
Ynysoedd
[golygu | golygu cod]- Mae gan yr Yenisei rhai ynysoedd isel, gwastad tuag at y than ddeheuol, sef Ynysoedd Brekhovsky (Бреховские острова) 70°30′N 82°45′E / 70.500°N 82.750°E. Safent lle mae'r afon yn llifo i'r aber. Mae llynnoedd a chorsydd yn amgylchynu'r ardal, lle gwêl nifer o afonnydd llai'n llifo o'r twndra ar draws y wlypdir i fansn yr Yenisei.
- Yn fwy tea's gogledd mae'r Yenisei'n ehangu i ddod yn ehangder bras. Mae'r dŵr yn troi'n hallt yma. Mae hair ynys bychain bron iawn yng nghanol y culler, yy Ynysoedd Bolshoi Korsakovsky (острова Большой Корсаковский). Mae'r ynys fwyaf yn 4 km (2.5 mi) o hyd a 1.2 km (0.75 mi) o lêd. 72°17′N 81°01′E / 72.283°N 81.017°E. Mae Ynys Burnyy wedi ei lleoli yngnghanol y culfor. Ynys Chaishnyy yw'r agosaf i'r lan.
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae patrwm tywydd yr ardal yn llym, gyda gaeafau difrifol a stormydd a gwyntoedd cryfion ac aml. Mae aber yr Afon Yenisei'n rhewi am gyfnod o naw mis y flwyddyn, a hyd yn oed yn yr haf, nid yw byth yn hollo rhyme o new a llîf-rew. Yn ystod y gaeaf bydd môr-lwybrau'n cael eu cadw'n agored gan longau torri rhew.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]Colin Thubron, In Siberia.