Culfor Yenisei
| Culfor Yenisei Енисейский залив | |
|---|---|
|
Delwedd lloeren o ardal Culfor Yensei | |
|
| |
| Lleoliad | Môr Kara |
| Cyfesurynnau | 72°30′N 81°15′E / 72.500°N 81.250°ECyfesurynnau: 72°30′N 81°15′E / 72.500°N 81.250°E |
| Ffynhonnell | Yenisei River |
| Aber neu fasn | Russia |
Mae Culfor Yenisei (Rwseg: Енисейский залив, Yeniseiskiy Zaliv) yn aber fawr a hir lle mae Afon Yenisei yn llifo i'r Môr Kara.
Mae Culfor Yenisei a'i hynysigau'n perthyn i ranbarth weinyddol Krasnoyarsk Krai o Ffederasiwn Rwsia ac yn rhan o Warchodfa Natur Wladwriaeth Fawr yr Arctig, y warchodfa natur fwyaf yn Rwsia.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Culfor Yenisei yn cael ei ffurfio drwy i'r afon ehangu i gyfartaledd o 50Nodyn:Cvt hyd at 250Nodyn:Cvt yn fras mewn cyfeiriad o'r gogledd i'r de, rhwng lledred o 70° 30' N yn yr ardal o amgylch anheddiad Munguy, i'r gogledd o Dudinka. Mae'r rhanbarth gyfan o Îs-Yenisei yn llwm a'r boblogaeth yn denau, ac mae'r anheddiadau wedi eu hadeiladu ar ddaear rew-parhaol. Nid oes unrhyw lystyfiant ac eithrio mwsoglau, cennau a rhai glaswellt. Mae dyfroedd arfordirol yn gynefinoedd ar gyfer morfilod beluga.
Dyfnder mwyaf Culfor Yenisei yw 63Nodyn:Cvt.
Lleolir aber Culfor Yenisei yn fras yn 72° 30' N, yn ardal Ynys Sibiryakov, yn y Môr Kara.
Ynysoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mae gan yr Yenisei rhai ynysoedd isel, gwastad tuag at y than ddeheuol, sef Ynysoedd Brekhovsky (Бреховские острова) 70°30′N 82°45′E / 70.500°N 82.750°E. Safent lle mae'r afon yn llifo i'r aber. Mae llynnoedd a chorsydd yn amgylchynu'r ardal, lle gwêl nifer o afonnydd llai'n llifo o'r twndra ar draws y wlypdir i fansn yr Yenisei.[1]
- Yn fwy tea's gogledd mae'r Yenisei'n ehangu i ddod yn ehangder bras. Mae'r dŵr yn troi'n hallt yma. Mae hair ynys bychain bron iawn yng nghanol y culler, yy Ynysoedd Bolshoi Korsakovsky (острова Большой Корсаковский). Mae'r ynys fwyaf yn 4Nodyn:Cvt o hyd a 1.2Nodyn:Cvt o lêd. 72°17′N 81°01′E / 72.283°N 81.017°E. Mae Ynys Burnyy wedi ei lleoli yngnghanol y culfor. Ynys Chaishnyy yw'r agosaf i'r lan.
- Gorweddai Ynys Krestovskiy neu Ynys Krestovsky (Остров Крестовский) 9Nodyn:Cvt ynhellach i'r GGO, yn ago i lannau dwyreiniol Culfor Yenisei. Mae'n 7.5Nodyn:Cvt o hyd a 1.8Nodyn:Cvt o lêd.72°24′N 80°47′E / 72.400°N 80.783°E. Cymer yr ynys yma ei henw ar ôl yr ysgrifennwr Rwsieg Vsevolod Vladimirovich Krestovskiy (1840–1895).
Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae patrwm tywydd yr ardal yn llym, gyda gaeafau difrifol a stormydd a gwyntoedd cryfion ac aml. Mae aber yr Afon Yenisei'n rhewi am gyfnod o naw mis y flwyddyn, a hyd yn oed yn yr haf, nid yw byth yn hollo rhyme o new a llîf-rew. Yn ystod y gaeaf bydd môr-lwybrau'n cael eu cadw'n agored gan longau torri rhew.
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
Colin Thubron, In Siberia.