Cronicl yr Oes
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechreuwyd | Ionawr 1835 |
Un o bapurau newydd cynharaf Cymru oedd Cronicl yr Oes, o argraffdy Evan Lloyd, Yr Wyddgrug. Cyhoeddwyd y ddau rifyn cyntaf yn Ionawr a Chwefror 1835 wrth yr enw Y Newyddiadur Hanesyddol, dan olygyddiaeth Owen Jones (Meudwy Môn).[1] Daeth Roger Edwards i weithio ar y papur yn nes ymlaen yn 1835 pan newidiwyd yr enw a'i droi yn y man yn offeryn llym yn llaw radicaliaeth yng Nghymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth Fy Ngwlad (Treffynnon, 1893), tud. 12.