Croesair
Pos dyfalu geiriau yw croesair. Y ffurf glasurol yw grid o sgwariau du a gwyn, a'r gamp yw llenwi'r rhai gwyn â llythrennau sy’n ffurfio geiriau ar draws ac ar i lawr, gan ddefnyddio cliwiau a roddir.[1] Ceir nifer o amrywiolion, er enghraifft pob sgwâr yn wyn a dim ond llinell drwchus i nodi diwedd y geiriau.
Mae'r croesair cryptig yn defnyddio diffiniadau astrus, mwyseiriau, ac anagramau yn ei gliwiau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd y croeseiriau cynharaf yn Lloegr yn ystod y 19eg ganrif, yn seiliedig ar y sgwâr geiriau. Cyhoeddwyd y croesair modern cyntaf ar 21 Rhagfyr 1913 yn "Fun", atodiad Dydd Sul y papur newydd New York World. O fewn degawd, cyhoeddwyd croesair gan y mwyafrif o bapurau mawr yr Unol Daleithiau.[2] Y Sunday Express oedd y papur Prydeinig cyntaf i argraffu croesair, a hynny ym 1925.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ croesair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
- ↑ (Saesneg) crossword puzzle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
- ↑ (Saesneg) David McKie (20 Rhagfyr 2013). 100 years of crosswords: the first appeared in New York on 21.12.1913. The Guardian. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.