Crith Gablach

Oddi ar Wicipedia

Llyfr cyfraith hynafol o Iwerddon yw Crith Gablach (ynganer: 'críth gaflach'). Mae'n dyddio o'r 8g OC. Gwyddeleg yw iaith y llyfr. Ystyr y teitl yw "pryniant ymgeinciedig".

Mae'r Crith Gablach ar ffurf 'holi ac ateb', ffurf lenyddol hynafol, sy'n awgrymu mae math o lawlyfr i ddysgu'r gyfraith ydoedd. Mewn ateb i gwestiynau'r holwr ceir cyfres o atebion sy'n disgrifio'r rhannau o gyfraith gynhenid Iwerddon sy'n ymwneud yn bennaf â statws (fel braint yng Nghymru) a safle pobl yn y gymdeithas ynghyd â'u hawliau cyfreithiol a'u cyfrifoldebau hefyd. Esbonir y teitl ar ddechrau'r llyfr: mae unigolyn yn cael statws yn ôl ei eiddo ("pryniant") ac mae'r statws hwnnw wedyn yn ymgeincio trwy'r gymdeithas gyda nifer o is-geinciau i gynnwys pawb, o'r brenin i'r caethwas distatlaf.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testun[golygu | golygu cod]

  • D. A. Binchy (gol.), Críth Gablach (Dulyn, 1941).

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Fergus Kelly, A Guide to Early Irish Law (Dulyn, 1988)