Corona

Mae'r corona i'w ddarganfod yn haen uchaf atmosffer yr Haul, yn dechrau uwchben y cromosffer gyda haen drawsnewid gul yn eu gwahanu. Mae iddi dymheredd o tua miliwn K neu fwy, a dwysedd isel. Plasma sy'n ehangu i'r gofod yn barhaus yw'r corona a gellir ystyried felly ei fod yn ymestyn trwy'r heliosffer.
Mae'r corona isaf yn weledwy i'r llygad noeth fel 'coron' wen yn ystod diffyg ar yr Haul ac o'r gair 'coron' y daw'r enw. Ceir coronâu o amgylch sêr eraill hefyd.[1]
Cyfeiriad[golygu | golygu cod]
- ↑ "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.