Corfflunio

Ffurf o addasu'r corff gan ddefnyddio hypertrofedd cyhyrol ydy corfflunio. Gelwir person sy'n ymgymryd â'r weithgaredd hon yn gorffluniwr.
Gyda chorfflunio cystadleuol a phroffesiynol, mae corfflunwyr yn arddangos eu cyrff i banel o feirniaid, sy'n rhoi pwyntiau iddynt yn seiliedig ar eu pryd a'u gwedd. Mae corfflunwyr yn paratoi ar gyfer cystadlu drwy golli bloneg a thywyllu lliw eu croen gyda hylifau lliw haul ffug er mwyn gwneud y grŵp o gyhyrau'n amlycach.
Mae rhai corfflunwyr enwog yn cynnwys Charles Atlas, Steve Reeves, Reg Park, Arnold Schwarzenegger, a Lou Ferrigno. Ar hyn o bryd, y corffluniwr proffesiynol Phil Heath o'r Unol Daleithiau sy'n dwyn y teitl Mr. Olympia. Ystyrir enillydd y gystadleuaeth flynyddol Mr. Olympia fel corffluniwr proffesiynol gorau'r byd.[1]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Y blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Arferai'r Groegiaid a'r Eifftwyr hynafol godi cerrig trymion yn yr hen ddyddiau. Datblygodd codi pwysau yn y byd gorllewinol yn Ewrop rhwng 1880 a 1953, gyda dynion yn arddangos eu cryfder yn gyhoeddus gan herio'i gilydd. Nid ymddangosiad eu cyrff oedd yn bwysig, ac roedd gan nifer o'r dynion hyn foliau mawr a chyrff blonegog.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ http://www.flexonline.com/2009_mr_olympia_final_results/news/958
- ↑ The New Encyclopedia of Modern Bodybuilding
