Corfflu Cysegredig Thebai

Oddi ar Wicipedia
Corfflu Cysegredig Thebai
Enghraifft o'r canlynoluned filwrol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 378 CC Edit this on Wikidata
SylfaenyddGorgidas Edit this on Wikidata
GwladwriaethThebes Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Corfflu o filwyr dethol dinas Thebai yng Ngwlad Groeg oedd Corfflu Cysegredig Thebai (Hen Roeg: ἱερός λόχος τῶν Θῆβαι Hierós Lokhos tón Thebón). Roedd yn cynnwys 300 a filwyr, wedi eu trefnu yn 150 o barau hoyw. Credid bod y berthynas rhyngddynt yn gwneud iddynt ymladd yn well.

Ffurfiwyd y corfflu gan y cadfridog Gorgidas yn 378 CC. Bu ganddo ran bwysig ym muddugoliaeth dyngedfennol Brwydr Leuctra, ond dinistriwyd ef bron yn llwyr ym Mrwydr Chaeronea yn erbyn Philip II, brenin Macedon yn 338 CC. Gwrthododd y Corfflu Cysegredig ffoi er bod y frwydr wedi ei cholli, a lladdwyd bron y cyfan ohonynt. Tua 300 CC, cododd dinas Thebai gerflun enfawr o lew i nodi'r man lle claddwyd hwy. Cloddiwyd y safle yn 1890, a chafwyd hyd i 254 ysgerbwd.