Copor-plât

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o ysgrifen copor-plât o The Universal Penman (tua 1740–1741) gan George Bickham

Arddull ysgrifen redeg yw copor-plât (Saesneg: copperplate). Dyma'r arddull mwyaf adnabyddus o ysgrifen gron (Saesneg: roundhand), sef y llawysgrifen a ddysgwyd fel arfer mewn ysgolion Prydeinig o'r 18g i ganol y 20g. Ysgrifennir copor-plât gan ddefnyddio pen gyda nib miniog, ystwyth a all gynhyrchu strôc drwchus neu fain. Pan wneir yn dda, mae'r canlyniadau'n brydferth, ond mae angen medrusrwydd mawr i wneud y gwaith.

Defnyddir yr enw oherwydd yn ystod y 18g a 19g copïwyd enghreifftiau o lawysgrifen ardderchog gan engrafwyr ar blatiau copr; defnyddiwyd y platiau hyn i argraffu taflenni y gellid eu prynu i ddisgyblion eu copïo.