Codex Manesse
Jump to navigation
Jump to search
Llawysgrif a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd yn y cyfnod o tua 1305 i 1340 yn ninas Zürich yn y Swistir yw Codex Manesse. Mae'n cynnwys detholiad o waith nifer o lenorion Almaeneg Uchel. Mae'r llawysgrif yn adnabyddus am ei lluniau lliw cyfoethog sy'n portreadu ffordd o fyw sifalriaidd y cyfnod.