Clo mortis
Gwedd
Clo sy'n cael ei osod i mewn i dwll neu ‘mortais’ yn y drws yw clo mortais.
Mae cloeon mortais traddodiadol yn gweithio ar system liferau sydd yn rhaid eu codi i'r uchder cywir er mwyn tynnu'r bollt yn ei ôl. Ym Mhrydain mae cloeon lifer traddodiadol wedi eu datblygu i fod yn gloeon o safon uchel iawn.
Yng ngweddill y byd mae cloeon mortais lifer yn hen ffasiwn iawn, ac yn cynnig dim ond lefel isel o ddiogelwch. Yn y gwledydd yma, a fwyfwy ym Mhrydain oherwydd rheolau diogelwch tân, mae cloeon mortais efo silindr yn llawer mwy cyfarwydd.