Clastir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoleiddo Edit this on Wikidata
Mathperchenogaeth Edit this on Wikidata

Ardal o dir o fewn plwyf eglwysig a ddefnyddwyd i roi bywoliaeth i offeiriad y plwyf oedd clastir neu tir llan. Yn hanesyddol, rhoddwyd clastir i’r rheithor, er mwyn ychwanegu at ei incwm o’r degwm. Byddai maint y tir o'r fath yn amrywio o blwyf i blwyf, gan ffurfio fferm weddol fawr o bryd i'w gilydd. Gallai'r rheithor gadw’r clastir iddo'i hun, fel arfer at dddibenion amaethyddol, neu gallai ei “ffermio”[1] (h.y. ei osod ar brydles) i rywun arall a chadw’r rhent fel yr incwm.

Daeth y drefn hon i ben o’r diwedd yn Eglwys Loegr ar 1 Ebrill 1978, yn rhinwedd yr Endowments and Glebe Measure 1976,[2] pan drosglwyddwyd perchnogaeth y tiroedd o’r plwyf i’r esgobaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  ffermio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2022. (Gweler diffiniad b.)
  2. "Endowments and Glebe Measure 1976"; deddfwriaeth.gov.uk