Clarice Phelps
Clarice Phelps | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1981 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cemegydd, peiriannydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Tenesin ![]() |
Cemegydd niwclear Americanaidd ydy Clarice E. Phelps (née Salone) sy'n gweithio yn Labordy Cenedlaethol Oak Ridge. Roedd hi'n aelod o'r tîm rhyngwladol fu'n puro berkelium-249, gan greu Elfen 117, (tenesin). Credir mai Phelps yw'r Affro-Americanwraig gyntaf i ganfod elfen gemegol.[1][2]
Yn yr Labordy Cenedlaethol Oak Ridge mae Phelps yn gweithio fel rheolydd prosiect ar gyfer defnydd diwydiannol o isotopau. Mae hi'n ymchwilio i brosesu elfennau ymbelydrol gyda rhifau atomig dros 92 megis plwtoniwm-238 sy'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer teithiau gofod-dwfn NASA, a califforniwm-252 sydd o ddefnydd i astudiaethau darnau ymholltiad niwclear. Sefydlwyd Labordy Cenedlaethol Oak Ridge ym 1943 fel rhan o Brosiect Manhattan a dyma'r labordy gwyddoniaeth ac ynni mwyaf yn Adran Ynni yr Unol Daleithiau, gyda chyllideb flynyddol o $ 1.4 biliwn.[3][4][5][6][7]
Ysgol a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd diddordeb Phelps mewn gwyddoniaeth fel plentyn pan roddodd ei mam set microsgop a phecyn gwyddoniadurol iddi; cafodd y diddordeb hwn ei feithrin gan thrawon gwyddoniaeth ei hysgolion uwchradd.[4][8] Mynychodd sefydliad ieuenctid o'r enw "Grŵp Prosiect a Datblygiad Dŵr Dyfrol Tennessee" (sef Tennessee Aquatic Project and Development Group; TAP), sefydliad ieuenctid di-elw.[9] Enillodd Phelps radd Baglor mewn cemeg, o Brifysgol Talaith Tennessee yn 2003.[4][10]
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bradley D Patton, Sharon M Robinson, Dennis E Benker, Clarice E Phelps. "Lessons Learned from Processing Mark-18a Targets at Oak Ridge National Laboratory"[11]
- Jamie L Warburton, Clarice E Phelps, Dennis E Benker, Bradley D Patton, Robert M Wham. "Uv-visible Spectroscopic Process Monitor for Hot Cell Mixer-settler Separations at Ornl’s Radiochemical Engineering Development Center"[12]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ undark.org; adalwyd Calan Mai 2019.
- ↑ "Clarice E Phelps | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ "Home | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Clarice Phelps: Dedicated service to science and community | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ "Phelps wins YWCA Tribute to Women | ORNL". www.ornl.gov. Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ Chapman, Kit (2019-08-27). Superheavy: Making and Breaking the Periodic Table (yn Saesneg). Bloomsbury USA. t. 160. ISBN 9781472953896.
- ↑ Oak Ridge National Laboratory (2017-01-30), Tennessine: Discovering a New Element, https://www.youtube.com/watch?v=AZVl6tQysl4, adalwyd 2019-04-03
- ↑ "STEM Magazine" (PDF). STEM Magazine. Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ "Tennessee Aquatic Project and Development Group" (PDF). Tennessee Aquatic Project. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-02-01. Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ "Spring Commencement Exercise" (PDF). Cyrchwyd 2019-04-02.
- ↑ "Lessons Learned from Processing Mark-18a Targets at Oak Ridge National Laboratory | ORNL". www.ornl.gov.
- ↑ "Uv-visible Spectroscopic Process Monitor for Hot Cell Mixer-settler Separations at Ornl's Radiochemical Engineering Development Center | ORNL". www.ornl.gov.